Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Informal resolution process for red meat carcases rejected at post mortem inspection

Proses Datrys Anffurfiol ar gyfer carcasau cig coch sy’n cael eu gwrthod fel rhan o arolygiad post mortem

Sylwch nad yw’r trefniadau hyn ar gyfer adolygu’r broses datrys anffurfiol yn ofyniad yn ôl y gyfraith. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cytuno i ymuno â’r trefniadau gwirfoddol hyn ac mae’n cadw’r hawl i adolygu ei gais o bryd i’w gilydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Hydref 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Hydref 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Pwysig
Bydd y weithdrefn hon yn cael ei threialu am flwyddyn. Ar ôl hynny, gwneir penderfyniad i gadw, addasu neu dynnu’r weithdrefn hon yn ôl.

Nod y broses

Mae’r weithdrefn hon wedi’i datblygu gan yr ASB ar y cyd â chynrychiolwyr y diwydiant cig i roi mynediad i weithredwyr busnesau bwyd at broses ddatrys anffurfiol a gwirfoddol pan fydd y penderfyniad wedi’i wneud i beidio â rhoi marc iechyd yn dilyn arolygiad ante mortem a post mortem (“penderfyniad ar sail canlyniad arolygiad”), a bod y gweithredwyr busnesau bwyd yn anghytuno.

I’w ystyried

Lle gwneir cais am adolygiad, y milfeddyg swyddogol (OV) a oedd yn bresennol ar ddiwrnod prosesu’r anifail sy’n parhau i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch addasrwydd carcas.

Gall gweithredwr busnes bwyd wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad ar sail canlyniad arolygiad cychwynnol y milfeddyg swyddogol a wnaed gan filfeddyg yr ASB, sydd hefyd yn filfeddyg swyddogol cymwys. (Byddwn yn cyfeirio at y milfeddyg hwn fel milfeddyg yr ASB at ddibenion y ddogfen hon ac i osgoi dryswch rhwng y milfeddyg swyddogol yn y ffatri a milfeddyg swyddogol yr ASB.)
Er gwaethaf y cais am adolygiad, os yw’r milfeddyg swyddogol yn ystyried ei bod yn rhesymol cymryd camau i ddileu neu atal unrhyw risgiau i iechyd pobl neu anifeiliaid, neu i les anifeiliaid, mae’r milfeddyg swyddogol yn cadw’r hawl i gymryd camau o’r fath.

Pan fydd gweithredwr busnes bwyd yn anghytuno â’r penderfyniad a wnaed ar sail canlyniad yr arolygiad, nid oes gofyn i weithredwr busnes bwyd ofyn am adolygiad anffurfiol a gall herio’r penderfyniad drwy’r llwybrau cyfreithiol arferol.

O ystyried y bydd gofyn am adolygiad anffurfiol yn sicr o oedi’r milfeddyg swyddogol cyn dod i benderfyniad terfynol, dylai gweithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod cyfleusterau cwbl weithredol a chloadwy ar gael ar gyfer storio cig sydd wedi’i gadw mewn amgylchedd oeredig a hylan cyn gwneud cais am adolygiad anffurfiol.

Y broses o wneud cais am adolygiad anffurfiol

  1. Pan na fydd gweithredwr busnes bwyd yn cytuno â phenderfyniad y milfeddyg swyddogol ar sail canlyniad yr arolygiad, rhaid iddo drafod ei bryderon yn uniongyrchol â’r milfeddyg swyddogol yn gyntaf. Rhaid ystyried caniatáu i garcasau galedu, gan ganiatáu iddynt oeri dros nos o bosib cyn cychwyn y weithdrefn hon (er enghraifft, oedema mewn gwartheg hŷn).
  2. Yn dilyn y drafodaeth, os na ellir dod i gytundeb, dylai gweithredwr y busnes bwyd roi gwybod i’r milfeddyg swyddogol am ei fwriad i wneud cais am adolygiad anffurfiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Dylai gweithredwr y busnes bwyd, neu gynrychiolydd a benodwyd ganddo, lenwi Rhan 1 o’r ffurflen a nodir yn Atodiad I a’i hanfon drwy e-bost at y milfeddyg swyddogol. Dylai’r hysbysiad hwn ddigwydd o fewn oriau gwaith cytunedig y milfeddyg swyddogol ar y diwrnod y gwnaed y penderfyniad ar sail canlyniad yr arolygiad. Dylid copïo’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau i’r hysbysiad e-bost hwn.
  3. Dylai’r milfeddyg swyddogol gasglu tystiolaeth ffotograffig a fideo. Dylai ffotograffau a fideos gynnwys stamp dyddiad ac amser cywir ac, yn ddelfrydol, dylent gael eu tynnu o fewn 24 awr i ladd yr anifail.
  4. Ar ôl i weithredwr y busnes bwyd gysylltu â’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau (gweler pwynt 2), bydd y Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau yn penodi milfeddyg o’r ASB i ddarparu adolygiad cyn gynted â phosib, a hynny er mwyn bod yn barod ar gyfer derbyn y ddogfennaeth i’w hadolygu.
  5. Ar ôl i’r milfeddyg swyddogol gasglu tystiolaeth, dylent gwblhau Rhan 2 o Atodiad I a’i chyflwyno i’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau dim hwyrach na diwedd y dydd ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i weithredwr y busnes bwyd gychwyn y weithdrefn hon. Mae gweithredwr y busnes bwyd yn cychwyn y weithdrefn hon pan fydd yn cwblhau cam 2 o’r broses hon.
  6. Bydd y Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau yn cyflwyno Atodiad I i filfeddyg yr ASB cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond bydd yn gwneud ymdrechion rhesymol i wneud hynny ar yr un diwrnod y daw i law. Dylai milfeddyg yr ASB ddarparu ei adolygiad, gan gynnwys manylion ei resymeg, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a dychwelyd Atodiad I ar ôl cwblhau Rhan 3 i’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau a’r milfeddyg swyddogol.
  7. Dylai milfeddyg yr ASB drafod cynnwys Atodiad I â’r milfeddyg swyddogol os oes angen, a gall ymweld â’r sefydliad i arolygu’r carcas a rhannau’r corff os oes angen er mwyn cyrraedd ei farn.
  8. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn Rhan 3, a honno wedi’i chwblhau, o Atodiad I, bydd y milfeddyg swyddogol yn ystyried barn milfeddyg yr ASB. Yna bydd y milfeddyg swyddogol yn cwblhau Rhan 4 o Atodiad I, gan nodi’r penderfyniad terfynol. Bydd yn rhannu’r penderfyniad terfynol hwn â gweithredwr y busnes bwyd yn ysgrifenedig, drwy e-bostio pob rhan wedi’i chwblhau o Atodiad I at weithredwr y busnes bwyd a’r Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosib.
  9. Os yw canlyniad yr adolygiad yn cytuno â phenderfyniad y milfeddyg swyddogol, sef bod y carcas a rhannau’r corff yn anaddas i’w bwyta gan bobl, bydd y carcas a’r deunydd cysylltiedig yn cael eu datgan yn anaddas a rhaid i weithredwr y busnes bwyd gael gwared ar yr holl ddeunydd yn unol â’r categori priodol o sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
  10. Os bydd canlyniad yr adolygiad yn tynnu sylw at dystiolaeth neu faterion pellach a allai arwain at gasgliad gwahanol, ar ôl ystyried yr holl ffactorau a thystiolaeth, y milfeddyg swyddogol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch addasrwydd y carcas a rhannau’r corff.
  11. Disgwylir i bawb sy’n ymwneud â’r weithdrefn weithredu’n ddidwyll.
  12. Mae Atodiad II yn cynnwys diagram llif proses i roi eglurhad pellach.

Goblygiadau cost

Ni fydd unrhyw gost am waith milfeddyg yr ASB yn ystod y cyfnod prawf. Unwaith y bydd y cyfnod hwn drosodd, bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu.