Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gofynion mewnforio Gogledd Iwerddon ar gyfer bwydydd sydd wedi’u cyfyngu

Penodol i Ogledd Iwerddon

Sut i symud bwydydd sydd wedi’u cyfyngu o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE) i Ogledd Iwerddon.

Mewnforio cynnyrch o Tsieina 

Mae’n rhaid i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a gaiff eu mewnforio o Tsieina gydymffurfio ag amodau iechyd penodol. 

Gall y cynhyrchion canlynol ddod i mewn i Ogledd Iwerddon cyn belled â bod llwythi yn cydymffurfio â’r rheolau canlynol: 

  • maent yn destun gwiriadau cyn allforio am bresenoldeb chloramffenicol a nitroffwranau, sy’n feddyginiaethau milfeddygol anghyfreithlon, a’u metabolion 
  • mae ganddynt ddatganiad wedi’i lofnodi gan yr awdurdod cymwys yn Tsieina gyda’r canlyniadau dadansoddol


Mae cynhyrchion pysgodfeydd oll yn gynhyrchion anifeiliaid sy’n deillio o bysgod. Mae dyframaeth yn fath o gynnyrch pysgodfeydd sydd wedi’i ffermio.

Mae’n rhaid i lwythi dyframaeth fod yn destun gwiriadau cyn allforio am bresenoldeb malachite green, crystal violet a’u metabolion. Mae’n rhaid i ddyframaeth fod â datganiad wedi’i lofnodi gan yr awdurdod cymwys yn Tsieina gyda’r canlyniadau dadansoddol. 

I weld y mesurau rheoli llawn a rhestr lawn o gynhyrchion dan reolaeth, gweler Penderfyniad y Comisiwn 2002/994/EC

Mae’r cyfyngiadau mewnforio ar rai cynhyrchion dofednod o Tsieina yn parhau i fod ar waith oherwydd achos o ffliw adar. 

Mewnforio cynnyrch o Japan

Os ydych chi’n mewnforio bwyd neu fwyd anifeiliaid o Japan, dylech chi ddilyn Rheoliad UE 2016/6 fel y’i diwygiwyd gan Rheoliad UE 2019/1787 – sy’n gosod amodau arbennig ar fewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n deillio o Japan, neu a anfonir o Japan, yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima. 

Bwyd o rai gwledydd ôl-Chernobyl 

Bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n deillio o wledydd y tu allan i’r UE yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Chernobyl

Mae hyn yn ymwneud â madarch a ffrwythau penodol y genws Vaccinium fel yr amlinellir yn Rheoliad (UE) 2020/1158.​ 

Mae’r cynhyrchion hyn yn cael eu trin fel y rhai sydd i’w cael yn Rheoliad 2019/1793 Atodiad II HRFNAO. Bydd angen ardystiad swyddogol arnynt gan awdurdod cymwys ym Mhrydain Fawr i gyd-fynd â symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

Bydd angen hysbysiad ymlaen llaw, gan ddefnyddio TRACES NT a CHED-D. 

Egin a hadau i’w hegino o wledydd y tu allan i’r UE a Phrydain Fawr 

Mae egin a hadau wedi’u cysylltu ag achosion o glefydau gan gynnwys Escherichia coli a bacteria pathogenig eraill. Mae’r lleithder uchel a’r tymheredd ffafriol yn ystod y broses egino yn caniatáu i bathogenau bacteriol luosi, sy’n creu risg i iechyd y cyhoedd. 

Mae Rheoliad 2019/625 yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif swyddogol ar gyfer egin a hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu egin gyd-fynd â llwyth nes iddo gyrraedd ei gyrchfan fel y nodir yn y dystysgrif swyddogol. Gellir gweld y dystysgrif enghreifftiol yn Rhan XV o Atodiad II, Rheoliad (UE) 2019/628.  

Nid oes unrhyw ofyniad yn Rheoliad (UE) 2019/628 i gynnal gwiriadau wrth y ffin, ond gall Swyddogion Iechyd Porthladdoedd gynnal gwiriadau arferol ar lwythi. Os yw’r gwiriad dogfennol yn anfoddhaol, yna dylai’r Swyddog Iechyd Porthladd roi’r llwyth o dan gadw swyddogol a mynnu bod y mewnforiwr yn darparu’r wybodaeth sydd ar goll. Os na ddarperir yr wybodaeth hon, gall y Swyddog Iechyd Porthladd wrthod y llwyth. 

Bwydydd sydd wedi’u cyfyngu 

Saws soi sy’n cynnwys 3-MCPD 

Mae rhai mathau o saws soi yn cynnwys cemegyn peryglus o’r enw 3-MCPD. Mae cyfyngiadau ar lefelau 3-MCPD a ganiateir mewn cynhyrchion a gaiff eu mewnforio i Ogledd Iwerddon. Maent fel a ganlyn:

  • caiff saws soi gynnwys lefelau o 3-MCPD heb fod yn uwch na 0.02 mg/kg
  • mae hyn ar gyfer y cynnyrch hylif sy’n cynnwys 40% sylwedd sych, sydd gyfystyr ag uchafswm o 0.05 mg/kg yn y sylwedd sych

Gwaharddiad ar fewnforio melysion jeli

Mae cyfyngiadau o fewn yr UE ar ychwanegion a ganiateir mewn rhai melysion jeli gan fod perygl o dagu: 

  • mae defnyddio, wrth gynhyrchu jeli cwpanau bach, ychwanegion penodol a nodir yn Atodiad II Rheoliad 1333/2008 a gwerthu'r cwpanau hyn, wedi’i wahardd
  • mae defnyddio E425 konjac mewn unrhyw felysion jeli, gan gynnwys jeli cwpanau bach, a gwerthu melysion o’r fath, wedi’i wahardd o dan Reoliad 1333/2008 

Caiff y darpariaethau hyn eu gorfodi gan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2013.

Gwaharddiad ar fewnforio kava kava

Mae ‘Kava Kava’, sy’n aelod o deulu’r pupryn, yn feddyginiaeth berlysieuol draddodiadol ar gyfer trin gorbryder. Mae’r perlysieuyn wedi cael ei wahardd ers 2003. Mae hyn oherwydd pryderon am ei effaith wenwynig ar yr afu. Ni ellir mewnforio atchwanegiadau kava kava, nac unrhyw fwydydd sy’n cynnwys y perlysieuyn hwn, i Ogledd Iwerddon. 

Lliw (dye) anghyfreithlon mewn sbeisys ac olewau palmwydd

Mae rhai sbeisys penodol mewn perygl o gael eu halogi. Mae cynghorau dosbarth yn rheoleiddio mewnforion risg uchel. Os yw lefel y lliw anghyfreithlon yn uwch na 0.5 rhan fesul miliwn (0.5ppm), cânt eu gwrthod. 

Dyma’r sbeisys sydd mewn perygl o gael eu halogi â lliwiau anghyfreithlon: 

  • chilli wedi’i sychu 
  • cynhyrchion chilli
  • powdwr cyri 
  • olew palmwydd