Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymgynghoriad ar ddiweddariadau i ganllawiau technegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar labelu alergenau bwyd a gofynion gwybodaeth

Ymgynghoriad ar ddau ddiweddariad allweddol i ganllawiau o ran eu cwmpas a’u heffaith – safonau ar gyfer defnyddio labelu alergenau rhagofalus (PAL) a chanllawiau arferion gorau sy’n nodi na ddylid defnyddio datganiadau dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten (No Gluten Containing Ingredients) (NGCI).

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Busnesau bwyd sy’n darparu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)
  • Busnesau bwyd sy’n darparu bwyd y mae angen datganiad Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL) ar ei gyfer
  • Timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol 
  • Cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd
  • Unrhyw sefydliad neu berson arall sydd â buddiant mewn polisi gorsensitifrwydd i fwyd 

Crynodeb

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal fel rhan o adolygiad a diweddariad rheolaidd i’r Canllawiau Technegol ar Labelu Alergenau. 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio adborth gan randdeiliaid ar ddau ddiweddariad allweddol i ganllawiau o ran eu cwmpas a’u heffaith – safonau ar gyfer defnyddio labelu alergenau rhagofalus (PAL) a chanllawiau arferion gorau sy’n nodi na ddylid defnyddio datganiadau dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten (No Gluten Containing Ingredients) (NGCI).

Mae’r canllawiau hefyd wedi’u diwygio er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau at gyfraith bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gywir ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, yn ogystal â diweddariadau nad ydynt yn dechnegol i wella eglurder a dealltwriaeth o’r ddogfen. 

Ceir mwy o fanylion am yr adrannau penodol sydd wedi’u diweddaru ar ail dudalen y Canllawiau Technegol. 

Mae’r ASB yn ceisio sylwadau ac adborth ar sut mae polisïau presennol yn cael eu mynegi fel rhan o’n diweddariadau arfaethedig i ganllawiau technegol. Gallai hyn gynnwys unrhyw effeithiau posib y gallent eu cael.

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ym mis Mehefin 2023, bydd yr ASB yn casglu ac yn ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law, cyn diwygio a chyhoeddi’r Canllawiau Technegol diwygiedig yn ystod haf 2023.

Manylion yr ymgynghoriad

Testun yr ymgynghoriad hwn yw’r diweddariadau arfaethedig i Ganllawiau Technegol yr ASB ar “Labelu alergenau bwyd a gofynion gwybodaeth” o dan Reoliad a Ddargedwir (EU) Rhif 1169/2011 (ar gyfer Cymru a Lloegr) a Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 (ar gyfer Gogledd Iwerddon). Cyfeirir at y rheoliadau hyn fel y FIC yn y ddogfen hon.

Bydd y diweddariadau hyn yn: 

  • diwygio cyfeiriadau cyfreithiol deddfwriaeth bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2021, a newidiodd ofynion labelu ar gyfer bwyd PPDS 
  • cynnig arferion gorau ar gyfer datganiadau Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL) a datganiadau Dim Cynhwysion sy’n Cynnwys Glwten (NGCI)
  • cynnig diweddariadau drafftio i symleiddio’r canllawiau.

Datganiadau Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL)

Er bod defnyddio datganiadau PAL yn wirfoddol, rhaid iddynt fod yn gywir, a pheidio chamarwain defnyddwyr, yn unol ag Erthygl 36 o’r FIC. Mae tystiolaeth  wedi dangos y gall busnesau bwyd bach a chanolig sy’n gwerthu bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw fod yn ansicr ynghylch sut a phryd i ddefnyddio PAL

O’r herwydd, nod y canllawiau arferion gorau arfaethedig sy’n rhan o’r ymgynghoriad hwn yw cefnogi gweithredwyr busnesau bwyd i ddarparu gwybodaeth gywir am y risg o groeshalogi alergenau, wrth sicrhau bod eu cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus wrth brynu bwyd.

Dyma’r arferion gorau arfaethedig:

  • Dim ond ar ôl cynnal asesiad risg trylwyr y dylid defnyddio datganiadau PAL
  • Dylai datganiadau PAL nodi pa rai o’r 14 alergen rheoleiddiedig y maent yn cyfeirio atynt. Er enghraifft: defnyddio’r datganiad “May contain peanuts and tree nuts” yn hytrach na’r datganiadau cyffredinol “May contain nuts”.
  • Ni ddylid defnyddio PAL ar y cyd â datganiad rhydd rhag (free-from) ar gyfer yr un alergen. Er enghraifft: Ni ddylid defnyddio “May contain milk” ar y cyd â “dairy free”.
  • Dylai gweithredwyr busnesau bwyd ei gwneud yn syml i ddefnyddwyr gysylltu â nhw am eu hasesiadau risg croeshalogi alergenau sy’n llywio PAL. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sydd â mwy nag un alergedd neu alergeddau difrifol sy’n poeni am newid labelu.

Datganiadau Dim Cynhwysion sy’n Cynnwys Glwten (NGCI)

Mae datganiadau NGCI wedi’u defnyddio ar fwydlenni i nodi bwydydd sy’n cael eu gwneud o gynhwysion nad ydynt yn cynnwys glwten, er enghraifft: “this menu has been designed for a non-gluten diet”. Gellir ond defnyddio’r termau “gluten free” neu “low gluten” i ddisgrifio absenoldeb neu lai o glwten. Mae tystiolaeth  wedi dangos y gall datganiadau NGCI gamarwain defnyddwyr, felly, dylid eu hosgoi. 

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)

Ers 1 Hydref 2021, daeth deddfwriaeth i ddiwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 (FIR ) a’r rheoliadau cyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, i rym er mwyn gwella’r wybodaeth a ddarperir i ddefnyddwyr sy’n prynu bwydydd PPDS.

  • Mae’r FIR a deddfwriaeth gyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon wedi’u diwygio gan Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio) (Lloegr) 2022 a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygiad Rhif 2)  (Gogledd Iwerddon) 2020.

Mae’r newidiadau hyn yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i labelu bwydydd PPDS gydag enw’r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion, gan bwysleisio unrhyw alergenau. Mae’r newidiadau hyn yn sicrhau y darperir gwybodaeth am alergenau yn unol â’r prosesau labelu ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw. Y nod yw lleihau dryswch ymhlith defnyddwyr a diogelu’r rheiny sydd ag alergeddau neu anoddefiadau.

Yn y diweddariad hwn i’r canllawiau, mae’r holl gyfeiriadau at ddeddfwriaeth PPDS wedi’u hadolygu ac mae cyfeiriadau at hen ddeddfwriaeth wedi’u dileu. 

Cyfeiriadau deddfwriaethol 

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE,, mae unrhyw gyfeiriadau at delerau’r UE nad ydynt bellach yn gymwys wedi’u hadolygu a’u diwygio i sicrhau bod cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yn adlewyrchu’r dirwedd ddeddfwriaethol bresennol.

Mae cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE wedi’u diweddaru felly i adlewyrchu Cyfraith yr UE a Ddargedwir. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chyfraith diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn yr amgylchiadau hyn.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau a sylwadau rhanddeiliaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ddiweddariadau arfaethedig i’r Canllawiau Technegol.

Effeithiau

Mae’r diweddariadau hyn i’r canllawiau yn rhan o waith rheolaidd ac yn ymwneud ag arferion gorau a chydymffurfiaeth â rheoliadau presennol. Ystyrir mai mân gostau ymgyfarwyddo ar weithredwyr busnesau bwyd ac awdurdodau lleol perthnasol fydd yr effeithiau disgwyliedig. 

Disgwylir i’r arferion gorau arfaethedig ar ddatganiadau PAL a NGCI gael effaith gadarnhaol ar ddefnyddwyr a gweithredwyr busnesau bwyd perthnasol. Mewn gwirionedd, gallai ddefnyddio PAL yn fwy cywir ac mewn modd targededig gynyddu hyder defnyddwyr. 

At hynny, mae rhai adrannau o’r canllawiau wedi’u symleiddio i hwyluso dealltwriaeth gyda mân newidiadau i’r cynnwys. Bwriad diweddariadau PPDS yw cywiro hen gyfeiriadau cyfreithiol. Felly, nid ystyrir bod yr effeithiau cysylltiedig yn sylweddol.

Ymatebion

Os hoffech roi adborth ar y newidiadau arfaethedig, unrhyw effeithiau posib, neu unrhyw agweddau eraill ar y canllawiau technegol: 

Anfonwch ymateb ysgrifenedig dros e-bost i tech.guidance.consultation@food.gov.uk

Rhaid i’r ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd  22 Mai 2023. Nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn, awdurdod lleol, busnes bwyd, neu ar ran sefydliad neu gwmni arall (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.