Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Agweddau Defnyddwyr tuag at Dechnolegau sy'n Dod i'r Amlwg

O ystyried ffocws yr Asiantaeth Safon Bwyd (ASB) ar ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, mae'n bwysig deall barn defnyddwyr am dechnolegau bwyd newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Fe wnaeth yr ASB gomisiynu ‘Collingwood Environmental’ i greu adolygiad llenyddiaeth cyfoes a chynnal ymchwil ansoddol i archwilio barn defnyddwyr ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg.

Cefndir

Roedd y technolegau yn yr Asesiad Tystiolaeth Cyflym yn cynnwys bwyd a addaswyd yn enetig (GM), nanotechnoleg wedi’i gymhwyso i fwyd, bwyd swyddogaethol, cig wedi’i feithrin, bwyd newydd (yn y Deyrnas Unedig) fel pryfed i’w bwyta, bwyd gan anifail wedi'i glonio, bwyd wedi’i brintio mewn 3D a  bioleg synthetig wedi'i chymhwyso i fwyd.

Cynhaliwyd pedwar digwyddiad deialog cyhoeddus yn Wigston, Abertawe, Belfast a Llundain. Roedd y digwyddiadau hyn yn archwilio ymhellach barn y cyhoedd tuag at 4 o'r technolegau hyn: Bwyd GM, nanotechnoleg mewn bwyd, bwyd o anifeiliaid wedi'u clonio a chig wedi’i feithrin.

Roedd yr ymchwil yn edrych ar: 

  • Ba mor dderbyniol yw’r technolegau hyn yn ôl defnyddwyr, a beth sy’n ffurfio’r safbwyntiau hyn
  • Sut mae hyn yn amrywio yn ôl demograffeg a math o dechnoleg
  • Sut mae safbwyntiau wedi newid dros amser

Prif ganfyddiadau 

  • Ar draws yr holl dechnolegau a archwiliwyd, nid oedd un darlun penodol o ran barn defnyddwyr. Mae hyn yn rhannol oherwydd amrywioldeb cynhenid y gwahanol dechnolegau ac yn rhannol oherwydd diffyg astudiaethau systematig o farn defnyddwyr.
  • Mae ymwybyddiaeth gyffredinol o dechnolegau bwyd yn isel, mae hyn yn wir hyd yn oed yn achos y technolegau sydd wedi bod yn y cyfryngau dros yr 20 mlynedd diwethaf, er enghraifft clonio.
  • Y prif bryderon sy'n codi ar draws technolegau yw canfyddiadau o 'annaturioldeb', effeithiau posibl ar iechyd, lles anifeiliaid, ffermio a'r amgylchedd. Roedd diffyg ymddiriedaeth yng nghymhellion y rhai sy'n hyrwyddo'r technolegau hyn yn arwain at bryder hefyd.  
  • Mae buddion canfyddedig y technolegau hyn yn cynnwys lefelau uwch o gynnyrch sy'n ofynnol ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu, defnyddio llai o blaladdwyr, oes silff estynedig, llai o wastraff a gwell ansawdd.  
  • Gall agweddau tuag at dechnoleg bwyd hefyd amrywio yn dibynnu ar sut y caiff ei chymhwyso a'r cyd-destun. 
  • Mae amwysedd barn yn gyffredin gan fod safbwyntiau cadarnhaol a negyddol yn bodoli ar yr un pryd.
  • Mae pris yn cael effaith. Roedd defnyddwyr yn fwy parod i brynu bwyd GM pe bai ar gael am bris rhesymol ac yn llai parod i brynu bwyd sy'n cynnwys nanotechnoleg pe bai'n ddrutach, hyd yn oed pe bai ganddo fuddion iechyd.