Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Asesiad Risg Ansoddol ar y risg o fwyd neu ddeunyddiau â ddaw i gysylltiad â bwyd fel llwybr trosglwyddo ar gyfer SARS-CoV-2

Cwestiwn risg: Beth yw'r risg y bydd bwyd, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, neu ddeunydd becynnu bwyd yn ffynhonnell neu'n llwybr trosglwyddo SARS-CoV-2 i ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig?

Cefndir

Ar 31 Rhagfyr 2019, cafodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ei hysbysu gan Gomisiwn Iechyd Cenedlaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina am glwstwr o achosion o niwmonia o achos anhysbys yn Ninas Wuhan, Talaith Hubei, Tsieina. Roedd y rhan fwyaf o achosion cynnar yn gysylltiedig ag ymweld â marchnad South China Seafood City yn Wuhan, a oedd, yn ôl pob sôn, yn gwerthu cig, dofednod, bwyd môr ac anifeiliaid byw. Ar 11 a 12 Ionawr, cafodd WHO dystiolaeth bellach gan y Comisiwn Iechyd Cenedlaethol yn nodi achos yr heintiau hyn fel coronafeirws newydd a ynyswyd gyntaf ar 7 Ionawr. Mae'r coronafeirws newydd wedi'i enwi yn SARS-CoV-2 ac mae'r afiechyd a achosir ganddo wedi'i enwi yn COVID-19.

Amcangyfrif risg cyffredinol   

Rydym ni o'r farn bod y tebygolrwydd y bydd defnyddwyr y DU yn dod i gysylltiad a allai fod yn heintus o SARS-CoV-2 trwy fwyta bwyd neu drin deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd neu ddeunydd pecynnu yn Isel Iawn ('prin iawn ond ni ellir ei eithrio'). Mae'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrif hwn yn Uchel yn rhannol gan fod bylchau data sylweddol yn ymwneud yn benodol â SARS-CoV-2; felly mae sawl rhagdybiaeth yn y ddogfen hon yn seiliedig ar ddata sy'n ymwneud â coronafeirysau eraill (SARS-CoV a MERS-CoV). 

Mae'n ymddangos bod cyfradd marwolaethau yn sgil achosion COVID-19 ar draws y byd oddeutu 4% yn seiliedig ar adroddiadau cyfredol, sy'n golygu bod difrifoldeb yr anfantais yn cael ei ystyried yn Uchel (Salwch difrifol: achosi sequelae neu salwch sy'n bygwth bywyd neu sy'n para'n hir); mae grwpiau risg uchel yn cynnwys pobl â systemau imiwnedd gwan, pobl hŷn, a'r rheiny â chyflyrau tymor hir penodol fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint. 

Mae ansicrwydd yn ymwneud â difrifoldeb yr anfantais yn Isel; mae cryn dipyn o ddata ar gael bellach er y gall amcangyfrifon marwolaeth achos cyfredol fod yn rhagfarnllyd o ganlyniad i ganlyniadau anghyflawn a'r potensial i achosion difrifol gael eu gorgynrychioli mewn datgeliadau cynnar. 

Nodwn fod genom SARS-CoV-2 yn awgrymu ei fod yn perthyn yn fwyaf agos i SARS-CoV (y cyfeirir ato bellach fel SARS-CoV-1), na gysylltwyd â throsglwyddiad drwy fwyd mewn unrhyw achosion o haint. Mae'r asesiad hwn yn cynrychioli amcangyfrif ceidwadol o risg wrth gydnabod ac adlewyrchu bylchau gwybodaeth cyfredol.  

Cyfyngiadau'r asesiad hwn

Ar hyn o bryd nid yw'r asesiad risg hwn yn ystyried: 

  • Y risg sy'n gysylltiedig â gweithgareddau mewnforio anghyfreithlon. Mae hyn oherwydd diffyg data ar faint o gynnyrch sy'n dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon yn ogystal â’r gweithgarwch o’u prosesu a'u cludo 
  • Y risg alwedigaethol i’r rhai sy’n paratoi bwyd neu'r rhai sy'n aml yn agored i gynhyrchion o darddiad anifeiliaid, er enghraifft gweithwyr lladd-dy 
  • Goblygiadau i uniondeb y gadwyn fwyd, gan gynnwys llai o sefydliadau sy’n trin bwyd, llai o becynnwyr neu lai o ddosbarthwyr bwyd os ydyn nhw eu hunain yn mynd yn sâl neu lai o ddiheintyddion cymeradwy, ac ati ar gael ar gyfer glanhau offer gweithgynhyrchu bwyd ac ardaloedd paratoi bwyd oherwydd prinder

Y prif bethau sy’n achosi ansicrwydd  

Ymhlith y datblygiadau posib yn y dyfodol a allai newid yr asesiad hwn yn sylweddol, y mae: 

  • Unrhyw dystiolaeth neu amheuaeth o drosglwyddo trwy fwyd
  • Astudiaethau arbrofol sy'n awgrymu y gallai trosglwyddiad a gludir gan fwyd ddigwydd
  • Data pellach ar nifer yr achosion o haint yn y DU, yn enwedig cyfran yr heintiau sy'n isglinigol, er enghraifft newidiadau sylweddol i bolisi profi yn y DU
  • Tystiolaeth y gallai da byw neu anifeiliaid anwes y DU gael eu heintio 
  • Data newydd sy'n newid yn sylweddol ein hasesiad o effeithiau storio neu brosesu ar weithgarwch feirws mewn bwyd, neu oroesiad y feirws SARS-CoV-2 ar arwynebau a'r amgylchedd cyffredinol

Canlyniadau 

Rydym ni o'r farn bod y tebygolrwydd y bydd defnyddwyr y DU yn dod i gysylltiad â SARS-CoV-2 trwy fwyd a gynhyrchir yn y DU yn Ddibwys i Isel Iawn (rhwng 'mor brin fel nad yw'n haeddu cael ei ystyried' a 'prin iawn ond na ellir ei eithrio'). Mae'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrif hwn yn Uchel gan mai cyfyngedig yw’r data sy'n ymwneud yn benodol â SARS-CoV-2 o hyd. 

Camau nesaf

Defnyddiwyd yr asesiad risg hwn, ynghyd â chyngor rheoli risg, i lywio ein canllawiau i fusnesau a'n canllawiau i ddefnyddwyr ar fwyd a deunydd pecynnu bwyd yn ystod y pandemig.

Research report