Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Chweched rhifyn cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol

Croeso i rifyn chwech o gylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol. Mae'r ddeufis diwethaf wedi bod yn brysur iawn, ac mae nifer o ddatblygiadau i'ch diweddaru chi arnynt.

Mae'r rhain yn cynnwys adroddiad astudiaeth dichonolrwydd ar sut y gall y Cynllun Prif Awdurdod, ac yn benodol strategaethau arolygu cenedlaethol, chwarae rôl yn rheoleiddio busnesau bwyd yn y dyfodol. 

Mae gennym ni hefyd ganfyddiadau gwaith yn edrych ar sut y mae busnesau bach a chanolig yn ystyried rheoleiddio. Ac mae Michael Jackson, Dirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen, yn rhoi trosolwg o gynnydd ac yn adlewyrchu ar ein cyfarfodydd ag awdurdodau lleol ddechrau'r haf. 

Cofiwch, gallwch gymryd rhan yn y drafodaeth drwy #RheoleiddioBwyd neu anfon e-bost atom yn uniongyrchol drwy: FutureDelivery@food.gov.uk 

Astudiaeth Dichonolrwydd Strategaeth Arolygu Genedlaethol ar gyfer Prif Awdurdodau

Rydym ni wedi cyhoeddi astudiaeth dichonolrwydd diweddaraf Rheoleiddio Ein Dyfodol, sy'n edrych ar sut all y cynllun Prif Awdurdod, a'r strategaethau arolygu cenedlaethol yn benodol, chwarae rhan wrth reoleiddio busnesau bwyd yn y dyfodol.

Bydd canlyniadau'r astudiaeth yn helpu'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ddatblygu safon newydd ar gyfer awdurdodau cynradd sydd eisiau sefydlu strategaethau arolygu cenedlaethol ar gyfer bwyd.

Caiff y Cynllun Prif Awdurdod ei weinyddu gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (Cyflawni Rheoleiddio). Cafodd ei sefydlu yn 2008 ac mae'n cynnig cyfle i fusnesau, neu grŵp o fusnesau, ffurfio partneriaeth a gaiff ei chydnabod yn gyfreithiol gydag un awdurdod lleol. Bydd yr awdurdod lleol hwnnw wedyn yn darparu cyngor cadarn a dibynadwy i gynghorau eraill eu hystyried wrth reoleiddio'r busnes yn lleol.

Mae hyn yn golygu y gall un awdurdod lleol, y'i gelwir yn brif awdurdod, adeiladu darlun o gydymffurfiaeth ar draws holl weithrediadau'r busnes. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, gall y prif awdurdod ystyried fod ganddo ddigon o dystiolaeth bod y busnes yn cael ei reoli'n dda, ac ystyried bod angen llai o wiriadau i sicrhau cydymffurfiaeth ac i ddiogelu'r cyhoedd. Caiff hyn ei gyflwyno drwy strategaeth arolygu genedlaethol.

Daeth yr astudiaeth dichonolrwydd hon ag ystod o bartneriaethau awdurdod cynradd ynghyd, gan gynnwys Boots a Chyngor Bwrdeistref Rushcliffe, Busy Bees Nurseries a Chyngor Dosbarth Lichfield, a Waitrose a Chyngor Bracknell Forest, i ddrafftio meini prawf a fydd yn ffurfio sail safon yr ASB ar gyfer prif awdurdodau sy'n dymuno sefydlu strategaeth arolygu genedlaethol.

Meddai Nina Purcell, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Chymru:

“Mae hwn wedi bod yn ymarfer defnyddiol iawn. Mae gweithio gyda prif awdurdodau a'u partneriaid busnes wedi'n helpu ni i ddechrau archwilio sut gall strategaethau arolygu cenedlaethol prif awdurdodau chwarae rhan yn y model rheoleiddio newydd rydym ni'n ei ddatblygu. Mae'r astudiaeth hon wedi ein helpu i nodi'r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod datblygu strategaethau arolygu cenedlaethol yn opsiwn ymarferol ar gyfer partneriaethau bwyd. Byddwn yn dechrau ar y gwaith hwnnw yn y cam nesaf.”

Gweithio tuag at ddatrysiad digidol ar gyfer Rheoleiddio Ein Dyfodol

Rydym ni newydd o ymchwilio sut y gallwn wella'r dull o gofrestru ac asesu busnesau bwyd.

Mae cyfnod Darganfod dwys o ddeg wythnos wedi dechrau gyda busnesau bwyd, awdurdodau lleol, cydweithwyr ar draws yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a rhanddeiliaid allweddol eraill. Byddwn yn adolygu ar y cyd y modd rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd, a gweithio i ddeall yr heriau mewn gweithgarwch cyfredol. Rydym ni eisiau nodi lle gallwn ni ymyrryd o bosibl er mwyn gwella.

Yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o ddeg wythnos, byddwn ni'n casglu ymchwil y mae'r ASB ac awdurdodau lleol eisoes wedi'i gynnal, ynghyd â chynnal ymchwil ychwanegol â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn ni'n ceisio cyfuno a dilysu'r canfyddiadau er mwyn cael trosolwg cyffredinol o'r gweithgarwch cofrestru a dosbarthu risg a gyflawnir gan yr ASB ac awdurdodau lleol.

O'r cam hwn, byddwn ni'n dechrau datblygu opsiynau datrys posibl sy'n mynd i'r afael ag unrhyw broblemau a nodwyd o fewn y systemau cyfredol, ac edrych ar y cyfleoedd rydym ni'n eu nodi â defnyddwyr. Byddwn ni hefyd yn archwilio ffyrdd o ddefnyddio dadansoddeg i segmentu busnesau bwyd yn well er mwyn canfod sefydliadau risg uwch mewn modd mwy cywir.

Yn olaf, rydym ni'n gweithio tuag at adeiladu un ffordd o edrych ar fusnesau bwyd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y gall pawb ei defnyddio i sicrhau bod ein bwyd yn ddiogel.

Dyma'r linell amser (Saesneg yn unig) ar gyfer y cyfnod cychwynnol o ddeg wythnos. Byddwn yn parhau i'ch diweddaru wrth i ni symud drwy bob cam datblygu. 

England, Northern Ireland and Wales

 

Busnesau micro, bach a chanolig: Adroddiad mewnwelediad

Fel rhan o ymgynghoriad Rheoleiddio Ein Dyfodol, fe gomisiynodd yr ASB waith ymchwil i sicrhau bod gweithredwyr busnesau bach a chanolig yn cael y cyfle i gyfrannu at y ffordd y caiff bwyd ei reoleiddio yn y dyfodol.

Mae busnesau micro, bach a chanolig yn sector pwysig i raglen Rheoleiddio Ein Dyfodol, felly dros yr haf rydym wedi ceisio gwella ein dealltwriaeth o sut mae’r busnesau hyn yn parhau i ddarparu bwyd diogel ar gyfer y cyhoedd. 
Cynhaliwyd y gwaith hwn gan sefydliad annibynol, ac mae canfyddiadau’r Adroddiad hwn yn cael eu defnyddio i adeiladu ein sail dystiolaeth mewn perthynas â sut fydd rheoleiddio yn gweithio i bob busnes.

Adroddiad ar y Digwyddiadau Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol 

Rydym ni nawr wedi cwblhau cyfres o ddigwyddiadau trafod ag Awdurdodau Lleol, lle bu i ni drafod ein Model Gweithredu Targed diweddaraf â dros 700 o swyddogion awdurdodau lleol yn y gwledydd perthnasol.

Rydym ni wedi bod yn dadansoddi'r adborth a'r cyfraniadau gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol yn y digwyddiadau ac wedi creu'r adroddiad crynhoi isod. Mae rhagor o waith manwl yn mynd rhagddo o amgylch pob un o'r ffrydiau gwaith ac mae sylwadau, meddyliau a safbwyntiau a ddaw i law o werth mawr i arweinwyr y ffrydiau gwaith a'u timau.

Gallwch wrando ar Michael Jackson, Uwch Ddefnyddiwr Busnes rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol ac arweinydd y ffrwd waith 'Sicrwydd', yn trafod yr adroddiad a beth sy'n digwydd nesaf.

Prosiect Peilot Safon Fyd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain ar gyfer Diogelwch Bwyd

Rydym ni wedi cyhoeddi canfyddiadau astudiaeth beilot sy'n nodi'r posibilrwydd i gynllun sicrwydd Safonau Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain chwarae rhan mewn sicrwydd preifat a gaiff ei reoleiddio, un o rannau allweddol y model Rheoleiddio Ein Dyfodol.

Dechreuodd y peilot cyn y cytunwyd ar fodel Rheoleiddio Ein Dyfodol, a'r nod gwreiddiol oedd gweithio â Safonau Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain i ddatblygu cynllun ennill cydnabyddiaeth ar gyfer hylendid a safonau bwyd. Gan fod model Rheoleiddio Ein Dyfodol wedi symud oddi wrth dull ennill cydnabyddiaeth wrth ddatblygu sicrwydd preifat a gaiff ei reoleiddio, symudodd y peilot ei ffocws at sut gallai Safon Fyd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain gefnogi prif egwyddorion Rheoleiddio Ein Dyfodol, sef defnyddio'r holl adnoddau gwybodaeth sydd ar gael, a chydnabod busnesau sy'n gwneud y peth iawn.

Caiff sicrwydd preifat a gaiff ei reoleiddio ei ddatblygu dan Rheoleiddio Ein Dyfodol er mwyn defnyddio'r data a gynhyrchir mewn archwiliadau a gyflawnir gan ac ar ran busnesau bwyd, lle mae hyn yn bodloni'r safonau a osodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Dim ond un o nifer o darddiadau data sy'n cael eu hystyried dan y model newydd yw cynlluniau sicrwydd megis Safonau Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain. Bydd yr ASB nawr yn gweithio â Safonau Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain i ystyried yr argymhellion. Gellir darllen y rhain, a'r adroddiad llawn, yma (Saesneg yn unig):