Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd am wybodaeth barhaus a dderbyniwyd gan unigolion fel rhan o'r Ymgynghoriad ar Adolygiad yr Undeb Ewropeaidd o Reolaethau Swyddogol

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd am wybodaeth barhaus a dderbyniwyd gan unigolion fel rhan o'r Ymgynghoriad ar Adolygiad yr Undeb Ewropeaidd o Reolaethau Swyddogol, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni? 

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddiben ymgynghori ar yr adolygiad parhaus o ddeddfwriaeth rheolaethau swyddogol Ewropeaidd. Gwnawn hyn yn unol â'n dyletswydd gyhoeddus ac er budd y cyhoedd.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth? 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai bydd eich gwybodaeth yn cael ei anfon at Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog 
Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).