Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Anrhydeddau a Gwobrau

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd ar Anrhydeddau a Gwobrau, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym ni'n cynnwys: teitl; enw; cyfeiriad; dyddiad geni; cenedligrwydd; rhywedd; ac ethnigrwydd. Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon o fewn y sefydliad.

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth er mwyn darparu enw llawn yr unigolyn sy'n derbyn enwebiad am anrhydedd i'r Swyddfa Cabinet. Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chyflawni ein dyletswyddau statudol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cadw'r wybodaeth am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gallai'ch gwybodaeth gael ei phasio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau 

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).