Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Ceisiadau am gyrsiau 'Better Training for Safer Food'

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd ar gyfer ceisiadau am gyrsiau 'Better Training for Safer Food' (BTSF), pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Rydym ni'n casglu'r wybodaeth hon er mwyn dyrannu lleoedd ar gyrsiau hyfforddi a ariennir gan BTSF a gwneud hyn yn unol â'n dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda chysylltiadau a darparwyr hyfforddiant BTSF awdurdodedig.

Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. Ni fyddwn ni'n datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un heblaw'r rhai a soniwyd amdanynt uchod.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth? 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Bydd manylion cyswllt yn cael eu cadw am 6 blynedd ar ôl iddynt ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).