Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – cofnodion datblygu polisi ar gyfer deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â datblygu polisi ar gyfer deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd sy'n ymwneud ag ymholiadau, briffiadau, prosiectau a deunydd cyfeirio, yn ogystal ag ymgynghoriadau ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth sydd gennym ni

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni'n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys enw a chyfeiriad eich busnes.

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon 

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon o nifer o ffynonellau, gan gynnwys yn uniongyrchol gan unigolion, cyrff diwydiant, awdurdodau lleol ac adrannau eraill y llywodraeth.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon gan y bydd yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau swyddogol o gwblhau tasg yn effeithiol ac i'r safon ofynnol o ran datblygu polisi bwyd. Mae casglu'r wybodaeth hon yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni a/neu a fydd er budd y cyhoedd.  

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth? 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae'r ased hwn yn cwmpasu gwahanol gofnodion a fydd â gwahanol gyfnodau cadw. Amlinellir y cyfnodau a'r gofynion cadw unigol isod:

  • ymholiadau: bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.
  • briffiadau: bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.
  • prosiectau ymchwil: bydd gwybodaeth yn cael ei hadolygu 7 mlynedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben (dyddiad yr addasiad diwethaf) a phenderfynir a ddylid ei anfon at yr Archifau Cenedlaethol
  • polisi: bydd gwybodaeth yn cael ei hadolygu 7 mlynedd ar ôl iddi ddod i ben (dyddiad yr addasiad diwethaf) a phenderfynir a ddylid ei anfon at yr Archifau Cenedlaethol

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd. Os yw ymholiad neu dasg arall yn gofyn am fewnbwn gan adran arall o lywodraeth, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo atynt (er enghraifft, efallai y bydd angen mewnbwn gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer rhai tasgau deunyddiau ddaw i gysylltiad â bwyd).

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).