Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd Cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol, pam fod angen y data arnom ni, beth rydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd yn gweithredu fel 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu anfon hysbysiadau trwy e-bost i danysgrifwyr Cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol.

Rydych chi wedi cytuno i roi'r wybodaeth hon i ni. Gallwch chi ddatdanysgrifio o’r cylchlythyr ar unrhyw adeg.

Trwy danysgrifio rydych chi hefyd yn rhoi caniatâd i dderbyn gwybodaeth, hysbysiadau a rhybuddion eraill oddi wrthym ni mewn perthynas â rhaglen  Rheoleiddio Ein Dyfodol.

Gall y rhain gynnwys diweddariadau ar:

  • wybodaeth yn ymwneud â phwnc
  • diweddariadau cyffredinol ar y wefan/gwasanaethau
  • ein harolygon defnyddwyr

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?


Byddwn ni'n cadw gwybodaeth bersonol tan i chi ddatdanysgrifio o’r gwasanaeth hwn neu tan yr adeg y daw’r manylion cyswllt yr ydych chi wedi’u darparu yn annilys.

Mae'r holl ddata personol yr ydym yn ei ddal wedi'i leoli ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai fod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Er mwyn cynnal y gwasanaeth hwn, gall trydydd partïon gael mynediad at wybodaeth i gefnogi datblygiad ein gwasanaethau digidol ac i'w cynnal a'u cadw.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym nin prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).