Hysbysiad Preifatrwydd – System Arolygu Bwyd y Deyrnas Unedig

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd System Arolygu Bwyd y Deyrnas Unedig, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.
Diweddarwyd ddiwethaf

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae System Arolygu Bwyd y Deyrnas Unedig (UKFSS) yn gronfa ddata genedlaethol ar gyfer storio canlyniadau dadansoddi samplau bwyd a bwyd anifeiliaid gan awdurdodau gorfodi (awdurdodau Lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn ganolog, fel rhan o'u rheolaethau swyddogol).

Rydym ni'n cadw'r wybodaeth hon at ddibenion gwyliadwriaeth a datblygu polisi, gan nodi tueddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol mewn samplu bwyd a bwyd anifeiliaid, i helpu i ddiffinio a thargedu rhaglenni samplu'r dyfodol ac i fodloni rhwymedigaethau statudol ar adrodd canlyniadau monitro ar gyfer cemegion a gweddillion mewn bwyd a bwyd anifeiliaid i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym ni'n cynnwys:

  • Enwau swyddogion samplu awdurdodau lleol
  • Enwau a chodau post busnesau bwyd

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon naill ai gan unigolion eu hunain neu gan drydydd partïon eraill megis cyrff cyhoeddus eraill, awdurdodau lleol, labordai rheoli swyddogol ac Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Safonau Bwyd.  Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 10 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau 

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).