Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Nina Purcell, Cyfarwyddwr Cymru a Chyflawni Lleol

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dechreuodd Nina Purcell yn ei swydd newydd, sef Cyfarwyddwr Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ar 3 Chwefror 2014.

Bu Nina gynt yn Brif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol, sy’n un o asiantaethau gweithredol Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig).  Ymunodd ag Iechyd Anifeiliaid yn 2008 fel Pennaeth Gwasanaethau Canolog, ac aeth ati i ddatblygu’r rhain dros y ddwy flynedd nesaf. Aeth yn ei blaen i fod yn Gyfarwyddwr Newid ac yn Gyfarwyddwr Lloegr.

Ar ôl i Iechyd Anifeiliaid uno â’r Asiantaeth Labordai Milfeddygol yn 2011, daeth Nina yn Brif Swyddog Gweithredu ar y corff newydd, a hi oedd yn gyfrifol am ailstrwythuro’r ddarpariaeth weithredol ac am ddatblygu model newydd o reoli achosion o glefydau anifeiliaid ym Mhrydain.