Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adnodd penderfynu ar gyfer labelu alergenau a chynhwysion ar fwyd

Ein cyngor i fusnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw bod gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau, wedi’i hategu gan sgwrs, yn gweithio orau i ddefnyddwyr.

Dylai gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau fod ar gael yn rhwydd, lle bo’n bosib, heb i ddefnyddwyr orfod gofyn amdani. Gallai hyn gynnwys ar y brif fwydlen, fel llyfryn alergenau ar gownter neu fatrics wedi’i arddangos ar wal mewn lleoliad hygyrch i ddefnyddwyr. 

Bydd ein canllawiau ac offer arferion gorau yn eich helpu i ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw i ddefnyddwyr yn effeithiol.