Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – 14 Gorffennaf 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad Cadeirydd Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – 14 Gorffennaf 2022

WFAC 22/07/02

1. Crynodeb

1.1    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.  

1.2    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Cyfarfod y Bwrdd

2.1    Cynhaliwyd cyfarfod agored diwethaf y Bwrdd yn Newcastle ar 15 Mehefin 2022. Ystyriodd y Bwrdd  y materion canlynol:

  • Ymateb yr ASB i Darfu ar y Gadwyn Gyflenwi oherwydd y Rhyfel yn Wcráin - Amnewid Cynhwysion a Labelu: Roedd y papur hwn yn rhoi trosolwg cyfunol ar ymateb yr ASB i darfu ar y gadwyn gyflenwi yn sgil y rhyfel yn Wcráin, ac yn nodi’r profion dros dro y mae’r ASB wedi’u datblygu i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch amnewidion olew blodau’r haul a labelu sy’n ymwneud â hyn. Roedd yn cynnwys y dull arfaethedig ar gyfer dychwelyd at y dull arferol o labelu bwyd a thybiaethau cynllunio cysylltiedig. Soniais am bryderon WFAC ynghylch sicrhau bod canllawiau ar gael yn rhwyddach i ddefnyddwyr yn ogystal â phwysigrwydd arferion gorau.
  • Diweddariad Blynyddol ar Wyddoniaeth gan Brif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB: Adroddiad blynyddol yn rhoi trosolwg ar rôl Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, gwyddoniaeth o fewn yr ASB, a’r adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol. Adlewyrchais ddiddordeb WFAC mewn cynyddu cyfranogiad Cymru yn y gwaith gwyddonol, gan adrodd hefyd fod y Pwyllgor yn croesawu’r defnydd o weithdai gyda Microbiolegwyr, gyda chyfranogiad o Gymru, gan fod mantais i’r gwledydd datganoledig gael eu cynnwys. 
  • Swyddogaeth Ragweld a Sganio’r Gorwel – Diweddariad Blynyddol i’r Bwrdd: Diweddariad blynyddol ar waith i ddatblygu a gweithredu swyddogaeth ragweld yr ASB. Ynghyd â thrafodaethau’r diwrnod blaenorol, roedd hyn yn tanlinellu maint a chyflymder y newid sy’n wynebu’r diwydiant bwyd, ac yn sgil hynny, yr ASB.
  • Gorsensitifrwydd i Fwyd – diweddariad ar ffrydiau gwaith a’r camau nesaf a argymhellir: Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gwaith a wnaed fel rhan o’r Rhaglen Gorsensitifrwydd i Fwyd a’r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer y cam nesaf. Codais yr angen i gynorthwyo busnesau llai a thynnais sylw at y ffaith y gallai incwm o sancsiynau sifil gael ei ddychwelyd i awdurdodau lleol.  
  • Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl): Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines ar 10 Mai 2022, ac roedd yn amlinellu’r broses seneddol a’r amserlenni. Nodais y byddai WFAC yn bwrw golwg manwl ar y pwnc hwn ym mis Gorffennaf, a rhybuddiais am y risg o wahaniaethau ar y pwnc hwn gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar ei safbwynt terfynol eto.
  • Diffyg Diogeledd Bwyd yn y Cartref: Roedd y papur hwn yn crynhoi’r dystiolaeth sydd gennym am lefelau diffyg diogeledd bwyd a fforddiadwyedd bwyd yn y cartref, a’r effaith ar ddefnyddwyr a’r system fwyd. Dywedais wrth y Bwrdd am y Ford Gron a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mai.
  • Amcanion a Blaenoriaethau Rhyngwladol yr ASB: Roedd y papur hwn yn nodi amcanion a blaenoriaethau rhyngwladol yr ASB ar gyfer y 12 i 18 mis nesaf.

2.2     Bydd recordiad o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin ar gael ar wefan yr ASB, ynghyd â chofnodion y cyfarfod pan gânt eu cyhoeddi.

2.3     Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym Melffast 14 Medi 2022. 

3. Cyfarfodydd eraill

3.1     Y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd ar 15 Mehefin, rhannwyd aelodau’r Bwrdd yn dri grŵp ar gyfer ymweliadau â Phrifysgol Newcastle, Greggs a FareShare. Roeddwn yn rhan o’r grŵp a oedd yn ymweld â’r Brifysgol, a dysgais am y gwaith mewn meysydd uwch-dechnoleg sy’n ymwneud â bwyd a’i effeithiau amgylcheddol. Cyflawnwyd rhywfaint o’r gwaith hwn ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. 

3.2     Ar 16 Mehefin, ar ôl dychwelyd o Newcastle y noson gynt, cawsom gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) ar-lein a wnaeth ymdrin â rhai materion a drafodwyd yn ehangach gan y Bwrdd.

3.3     Ar 5 Gorffennaf, gydag aelodau eraill o WFAC, es i ddigwyddiad dros ginio lle cynhaliodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB, drafodaeth breifat â ni, a oedd yn debyg i’r hyn a ragwelais wrth ofyn am gyfle o’r fath.

3.4     Ar 6 Gorffennaf, unwaith eto gydag aelodau eraill o WFAC, bûm yn bresennol yn y digwyddiad yn y Senedd lle lansiodd Susan Adolygiad Blynyddol yr ASB o Safonau Bwyd y DU, a lle siaradodd y Dirprwy Weinidog Lynne Neagle hefyd. Roeddem yn falch bod Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles, swyddogion Llywodraeth Cymru a llawer o gynrychiolwyr sefydliadau rhanddeiliaid wedi ymuno.

Peter Price
Aelod o Fwrdd Cymru a Chadeirydd WFAC