Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 21 Ebrill 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad y Cadeirydd ar gyfer Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) 21 Ebrill 2022

WFAC 22/04/02
I’w drafod

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Adroddiad y Cadeirydd

Crynodeb Gweithredol

1.    Mae’r adroddiad sydd ynghlwm yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru. 

2.    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i:

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach.


Cysylltwch â: Lucy Edwards

 

1. Cyfarfodydd y Bwrdd

1.1   Cynhaliwyd cyfarfod agored diwethaf y Bwrdd yn Birmingham ar 9 Mawrth 2022. Aeth y Bwrdd ati i ystyried y materion canlynol:

  • Rheoli Risg Strategol: Roedd y papur hwn yn adlewyrchu ymagweddau strategol, corfforaethol a rheoli'r ASB at risg, gan gynnwys nodi pa gyfrifoldebau sydd gan y Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) neu’r Weithrediaeth. Roedd hefyd yn rhoi’r asesiad Risg Strategol diweddaraf i’r Bwrdd. Wrth adrodd ar ein trafodaethau yn WFAC, canolbwyntiais ar atal – yn arbennig, fod angen i’r ymateb i ddigwyddiadau ystyried gwraidd y broblem. Gofynnais a oes angen rhoi mwy o bwyslais ar y ffordd y mae’r ASB yn edrych ar wraidd y broblem a ffyrdd o atal yn y dyfodol. Cefais sicrwydd bod y ffactorau hyn wedi cael sylw ond y byddai’r dulliau’n cael eu hystyried unwaith eto. 
     
  • Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Disgrifiodd y papur hwn ddatblygiad strategaeth newydd yr ASB a’r cynigion presennol ar gyfer y cyfnod 2022-2027. Tynnais sylw at y ffaith nad oedd y Strategaeth yn rhoi sylw i orsensitifrwydd i fwyd. Nodais fod ein Pwyllgor yn croesawu’r cyfeiriad at Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dywedais fod y Pwyllgor yn gefnogol iawn i’r papur hwn. 
     
  • Adolygiad Blynyddol o’r Broses Dadansoddi Risg: Ffocws ar Berfformiad Cyffredinol a Rheoli Risg: Roedd y papur hwn yn amlinellu’r gwaith o gyflawni proses dadansoddi risg yr ASB yn ystod y deuddeg mis cyntaf ers i amgylchiadau newid ar ddiwedd y Cyfnod Pontio ym mis Ionawr 2021. Roedd yn canolbwyntio ar berfformiad cyffredinol a rheoli risg.
     
  • Adolygiad o Reoliad a Ddargedwir 2016/6 ar fewnforio bwyd o Japan yn dilyn damwain niwclear Fukushima: Roedd y papur yn adrodd ar Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2016/6, a gafodd ei ddargadw yng nghyfraith Prydain Fawr yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n cymhwyso rheolaethau gwell ar fwydydd penodol a gaiff eu mewnforio o Japan o ganlyniad i ddamwain niwclear Fukushima ym mis Mawrth 2011. Dywedais fod WFAC wedi’i sicrhau gan y dadansoddiad risg a wnaed yn yr adroddiad hwn a’i fod yn cefnogi ysgrifennu at Weinidogion fel y cynigiwyd. 
     
  • Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth: Roedd y papur hwn yn rhoi trosolwg o waith y Cyngor Gwyddoniaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn myfyrio ar ei lwyddiannau a’r heriau a wynebwyd, ac yn rhoi rhagolwg ar weithgareddau’r dyfodol.

1.2  Gallwch chi wylio recordiad o gyfarfod 9 Mawrthdarllen cofnodion y cyfarfod Bwrdd.

1.3   Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ddydd Mercher 15 Mehefin 2022. 

2. Cyfarfodydd eraill

2.1   Ar 11 Mawrth, cefais gyfarfod â Susan Jebb, Cadeirydd y Bwrdd, i drafod fy nghyfrifoldebau dros faterion yr UE a Chymru.

2.2   Ar 8 Ebrill, cymerais ran yn nwy sesiwn ar-lein y Bwrdd – un i drafod pynciau allweddol a’r llall yn un o gyfres o gyfarfodydd ‘dros goffi’ gyda staff i drafod eu meysydd cyfrifoldeb. Yn yr achos hwn, roedd y staff yn aelodau o’n timau milfeddygol. 

2.3   Cyfarfu Pwyllgor ARAC ddiwethaf ar 1 Mawrth a bydd yn cael cyfarfod hir ar 17 Mai i ystyried yr adroddiad blynyddol a chyfrifon drafft, gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac eraill yn bresennol. Dyma fydd un o’r camau olaf yn y broses o gwblhau cyfrifon Cymru yn derfynol, cyn y dyddiad y bwriedir eu mabwysiadu ar 7 Mehefin.

2.4 Cynhaliwyd cyfarfodydd ar-lein eraill i baratoi ar gyfer sesiwn hon y Pwyllgor ar thema benodol.

Peter Price
Aelod o Fwrdd Cymru a Chadeirydd WFAC