Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 21 Hydref 2021

Penodol i Gymru

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 21 Hydref 2021

WFAC 21/10/02
I’w drafod

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Adroddiad y Cadeirydd

Crynodeb Gweithredol

1.    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru. 

2.    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor:

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

Cysylltwch â: Lucy Edwards
Lucy.Edwards@food.gov.uk 

 
WFAC 21/10/02
I’w drafod

Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Hydref 2021

1. Cyfarfodydd y Bwrdd

1.1      Cynhaliwyd cyfarfod agored diwethaf y Bwrdd ar 15 Medi 2021, yn dilyn trafodaethau paratoadol ar bynciau perthnasol y diwrnod blaenorol. Yn y cyfarfod hwn, aeth y Bwrdd ati i ystyried y materion canlynol: 

  • Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban Roedd y papur hwn yn nodi cynigion ar gwmpas a dull gweithredu ar gyfer adroddiad blynyddol ar y cyd ar safonau bwyd rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), gyda chynlluniau ar gyfer cyhoeddi ac ymgysylltu.
  • Y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol: Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Model Cyflenwi’r Dyfodol: Rhoddodd y papur hwn ddiweddariad ar bapur y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol a gyflwynwyd i Fwrdd yr ASB ar 26 Mai 2021, ac roedd yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar gynigion y Model Cyflenwi’r Dyfodol. 
  • Golygu Genomau – Diweddariad: Nododd y papur hwn ganolbwynt yr ASB, y cwestiynau strategol allweddol i’w hystyried, a dechreuodd brosesu’r opsiynau polisi y gallai fod angen i’r Bwrdd wneud penderfyniadau arnynt yn y dyfodol. 
  • Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Adroddiad y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr ar gyfer Cymru: Roedd y papur hwn yn adroddiad ar y cyd rhwng Cadeirydd WFAC a Chyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru. Amlinellodd weithgareddau allweddol yr ASB yng Nghymru, yn enwedig wrth ymateb i bandemig COVID-19 ac wrth sicrhau bod gan yr ASB drefniadau addas ar waith ar gyfer yr effeithiau parhaus sy’n codi yn sgil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw at y gweithgareddau allweddol hynny ac adroddais ar weithrediadau’r Pwyllgor. 
  • Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC) – Adroddiad y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr ar gyfer Gogledd Iwerddon: Yn yr un modd, amlinellodd y papur hwn y gwaith allweddol a wnaed gan yr ASB yng Ngogledd Iwerddon wrth ymateb i bandemig COVID-19 ac wrth sicrhau bod gan yr ASB drefniadau addas ar waith ar ôl Ymadael â’r UE, a hynny er mwyn bodloni gofynion y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Roedd hefyd yn cynnwys diweddariad ar hynt rhaglen waith yr ASB yng Ngogledd Iwerddon, uchafbwyntiau trafodaethau NIFAC a blaenoriaethau allweddol sydd ar y gweill ar gyfer yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.
  • Adroddiad Llywodraethu Blynyddol: Roedd y papur yn manylu ar y trefniadau Llywodraethu ar gyfer y Bwrdd a’i Bwyllgorau. 
  • Adroddiad Blynyddol i Fwrdd yr ASB gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg: Roedd y papur yn rhoi crynodeb o waith y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ystod 2020/21.  

1.2  Mae fideo o’r cyfarfod a gynhaliwyd 15 Medi ar gael ar YouTube. Bydd cofnodion y cyfarfod, pan fyddant ar gael, yn cael eu rhoi ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

1.3   Roedd WFAC wedi cynnal cyfarfod busnes ar 9 Medi 2021 er mwyn ystyried y papurau Bwrdd hyn, ac roedd fy nghyfraniadau yn ystod cyfarfod y Bwrdd yn cynnwys adrodd ar ein casgliadau. 

2. Cyfarfodydd eraill

2.1   Ar 21 Medi, cynhaliodd y Bwrdd ddwy sesiwn ar-lein a oedd yn para un awr yr un. Yn ystod y sesiwn gyntaf, cawsom ni drafodaeth a diweddariad strategol eang. Yr ail sesiwn oedd y sesiwn ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau ‘coffi’ ar gyfer staff. Ynddynt, mae aelodau’r Bwrdd ac amrywiaeth o arbenigwyr yn rhannu syniadau’n anffurfiol gan roi eu sylwadau ar eu cangen o’r gwaith. Y tro hwn, roedd ein staff Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio yn rhannu eu sylwadau. Ar ôl cyflwyniad byr, rydym ni’n rhannu’n grwpiau, sydd fel arfer yn cynnwys dau aelod o’r Bwrdd a phedwar aelod o staff. Wedyn, daw aelodau’r Bwrdd yn ôl at ei gilydd i drafod yr hyn a ddywedwyd wrthynt. Mae’r digwyddiad hwn yn darparu mewnwelediadau defnyddiol iawn. 

2.2   Ar 11 a 12 Hydref 2021, ymunais â digwyddiad ‘Cwrdd i Fwrdd’ y Bwrdd. Roedd hwn yn gyfle i aelodau’r Bwrdd edrych ymlaen, gan ystyried materion strategol sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Roedd y drafodaeth â staff perthnasol yn galluogi aelodau’r Bwrdd i ddeall y materion yn well ac i roi syniad o’u blaenoriaethau. 

2.3   Cynhaliwyd Cynhadledd Digwyddiadau ac Ymateb Brys Diogelwch Bwyd Byd-eang y Deyrnas Unedig 2021, a drefnwyd ar y cyd rhwng yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban, rhwng 13 a 15 Hydref. Gwnaeth Colm McKenna, Cadeirydd y NIFAC, a minnau esbonio rôl y pwyllgorau cynghori ac yna trafod heriau diogelwch bwyd penodol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. 

Disgrifiais ddatblygiad y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yng Nghymru a’i ddull blaengar o ran cael ei gydnabod gan y cyhoedd a chodi safonau. Yna, gwnes i amlinellu’r gyfraith newydd o ran labelu alergenau a’r gwaith paratoi helaeth a wnaed. Cafwyd hyn oll ei wneud fel rhan o waith ehangach yr ASB ar gorsensitifrwydd i fwyd, sef un o’i blaenoriaethau.

2.4   Ar 19 Hydref, byddaf yn mynd i’r cyfarfod Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) fel arsylwr sy’n cymryd rhan. 

2.5   Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd yng Nghaerdydd ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021. Mae cynlluniau ar y gweill i alluogi aelodau’r Bwrdd i wneud ymweliadau perthnasol y diwrnod blaenorol, gan gloi gyda derbyniad ar gyfer aelodau WFAC.


Peter Price
Aelod o Fwrdd Cymru a Chadeirydd WFAC