Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Hydref 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Peter Price, Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

1.  Crynodeb

1.1    Oherwydd y cyfnod o Alaru Cenedlaethol, canslwyd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi yn ogystal â chyfarfodydd ac ymweliadau cysylltiedig yn Belfast. Cynhaliwyd cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes a’r Bwrdd ar-lein ar 23 a 26 Medi yn y drefn honno.

1.2    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.   

1.3    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2.  Cyfarfod y Bwrdd

2.1    Cynhaliwyd cyfarfod agored diwethaf y Bwrdd ar-lein ar 26 Medi 2022. Ystyriodd y Bwrdd y materion canlynol:

Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), ac yn trafod dull yr ASB o ddatblygu fframwaith rheoleiddio priodol a chymesur ar gyfer cynhyrchion a gynhyrchir yn Lloegr, gan ddefnyddio technegau bridio manwl. 

Bydd hyn yn ysgogi camau gweithredu deddfwriaethol yng Nghymru, a chodwyd y posibilrwydd o wahaniaethau gennyf. Mynegais bryderon Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) ynghylch olrhain, ac anogais bwysigrwydd sicrhau cyllid er mwyn cefnogi ymchwil i ddatblygu ffyrdd o wahaniaethu rhwng newidiadau sy’n digwydd yn naturiol a’r rheiny a oedd wedi’u hysgogi. Nodais hefyd fod y pwyllgor o blaid ymchwil ac ymgysylltu â defnyddwyr, gan gynnwys yng Nghymru, gan fod rhannu negeseuon â defnyddwyr yn hollbwysig. 

Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau

Rhoddodd y papur hwn ddiweddariad cynhwysfawr ar y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnes (ABC). 

Dywedais fod WFAC, ar y cyfan, yn cefnogi’r rhaglen ond codais eto’r defnydd o’r term ‘busnes dylanwadol/influtential business’ a allai fod yn gamarweiniol. Tynnais sylw at y gwahaniaethau yn strwythurau awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn y Cod Ymarfer. Mae hyn yn golygu bod angen addasu’r rhaglen ABC. Codais hefyd bwysigrwydd sicrhau hyder defnyddwyr yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a’r posibilrwydd y gallai’r hyder hwn gael ei danseilio pe bai arolygiadau’n cael eu cynnal yn llai aml.

System Labordai Swyddogol Dadansoddwr Cyhoeddus: Ein Dull o Feithrin System Wydn

Roedd y papur hwn yn esbonio’r system labordy swyddogol yn y DU ac yn argymell dull o feithrin gallu Prydain Fawr i brofi a datrys heriau presennol yn y system.  

Soniais am yr angen i ymgysylltu â Phrif Swyddog Gwyddonol Cymru, a dywedais fod Eurofins yn buddsoddi’n helaeth mewn labordy yng Nghaerdydd, a allai greu mwy o gapasiti yng Nghymru.

Rhaglen Gorsensitifrwydd i Fwyd: Amlinellu Cynlluniau ar gyfer Cam Dau

Roedd y papur hwn yn nodi’r blaenoriaethau arfaethedig, y gweithgareddau allweddol, a’r amserlen ar gyfer ail gam y Rhaglen Gorsensitifrwydd i Fwyd (Medi 2022 i Ebrill 2024). Arweiniodd hyn at drafodaeth am yr anawsterau a’r blaenoriaethau y mae’n ymarferol eu cyflawni.

Codais fater ynghylch defnyddwyr sy’n profi adweithiau alergaidd difrifol i fwydydd nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr o’r 14 prif alergen, a cheisiais gynlluniau ar gyfer ymchwil neu ddatblygiadau i gynnwys y cyfryw fwydydd ychwanegol. Soniais am bryderon WFAC ynghylch yr angen i gysoni â’r ffordd y cynhelir arolygiadau yng Nghymru, a bod yna fethiant i fanteisio ar y cyfle i gynnal gwiriadau rheoli alergenau ar yr un pryd â gwiriadau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Pwysleisiais hefyd yr angen am hyfforddiant da i staff yn y sector bwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw, a gofynnais a oedd hyfforddiant perthnasol ar gyfer y rheoleiddwyr wedi’i archwilio, ac a nodwyd unrhyw fylchau.

Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Roedd y papur hwn yn rhoi crynodeb i’r Bwrdd o’r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) yn ystod 2021/22 yn unol â Chylch Gorchwyl ARAC. Nid oedd aelodau WFAC wedi mynegi unrhyw bryderon.

Adroddiad gan Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Rhoddodd y papur hwn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr ASB yng Nghymru wrth gyflawni ei rhaglen waith ers yr adroddiad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2021.  Cyflwynais sylwadau ar y flwyddyn ddiwethaf gan nodi bod ein pwyllgor yn cefnogi’n llawn y blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol a nodir yn yr adroddiad.

2.2    Bydd recordiad o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi ar gael ar wefan yr ASB, ynghyd â chofnodion y cyfarfod pan gânt eu cyhoeddi.

2.3    Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 7 Rhagfyr 2022.

3.  Cyfarfodydd eraill

3.1    Cyflwynwyd fy adroddiad ysgrifenedig diwethaf i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar thema benodol ar 14 Gorffennaf. Ers hynny:

  • Ar 15 Gorffennaf, cynhaliodd y Bwrdd Sesiwn Cadw mewn Cysylltiad a Choffi (dwy sesiwn 1 awr yr un ar-lein). Yn ystod y sesiwn gyntaf, cafwyd diweddariad strategol (pynciau llosg), a thrafodaeth. Yr ail awr oedd y digwyddiad ‘coffi’ diweddaraf i staff. Yn ystod y sesiwn, bu aelodau’r Bwrdd a staff arbenigol yn cael trafodaethau anffurfiol, y tro hwn gyda’r Tîm Path-Safe. Rydym yn rhannu’n grwpiau, sydd fel arfer yn cynnwys 2 aelod o’r Bwrdd a 3 aelod o staff. Wedyn, daw aelodau’r Bwrdd yn ôl at ei gilydd i drafod gwybodaeth ddefnyddiol a nodwyd.
  • Ar 26 Gorffennaf, gwnaeth Susan Jebb, Nathan Barnhouse a minnau gwrdd â’r Gweinidog Lynne Neagle a’i thîm ar-lein i drafod Bridio Manwl. 
  • Ar 2 Awst, cefais gyfarfod 1:1 ar-lein defnyddiol gyda Susan Jebb er mwyn trafod pynciau yn ymwneud â’r Bwrdd a Chymru.
  • Ar 3 Awst, gwnes i gwrdd â Jane Clark, y Prif Filfeddyg, a Nathan yng Nghaerdydd.  Gwnaethom drafod materion yn ymwneud â phrinder milfeddygon, a chawsom drafodaeth am yr ASB yng Nghymru.
  • Ar 12 Awst, cynhaliodd y Bwrdd sesiwn Cadw mewn Cysylltiad er mwyn trafod y Bil Bridio Manwl, siarad am faterion cyfredol gyda’r Prif Weithredwr, Emily Miles, a rhoi cyfle i aelodau’r Bwrdd gael rhywfaint o amser preifat.
  • Ar 9 Medi, gwnes i gwrdd â Richard Wynn-Jones ar-lein i drafod y Rhaglen Trawsnewid Gweithrediadau (OTP) a’r rhaglen ABC. Yn benodol, gwnaethom drafod materion penodol yn ymwneud â Chymru, a hefyd y risgiau sy’n gysylltiedig â dargyfeirio oddi wrth reolau’r UE.
  • Ar 27 Medi, gwnes i gymryd rhan yng nghyfarfod Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) yng Nghaerdydd yn rhinwedd fy swydd fel arsylwr arferol.
  • Rwyf wedi cael sawl trafodaeth ar-lein gyda Sioned, Lucy a Christie i drafod y trefniadau a’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn ar thema benodol yng Ngogledd Cymru.  Rydym yn ddiolchgar i’n haelodau yng Ngogledd Cymru am eu syniadau niferus ac i Phil Hollington am dynnu’r syniadau hynny at ei gilydd i greu rhestr o opsiynau.

3.2    Cynhaliodd y Bwrdd ddigwyddiad deuddydd yn Rhydychen rhwng 10 a 11 Hydref i alluogi’r uwch dîm Gweithredol i roi brîff i aelodau’r Bwrdd ar y datblygiadau diweddaraf sy’n symud yn gyflym, a rhannu eu syniadau am newidiadau mewn rhaglenni allweddol cyn iddynt lunio papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.  

Gwnaethom gwestiynu, trafod a rhoi arweiniad i’r uwch dîm Gweithredol ar yr holl bynciau mawr hynny. Drwy hyn, bu modd gosod blaenoriaethau yng nghyd-destun yr angen i’r ASB gyflawni llawer iawn mewn amser byr. Clywsom yn anffurfiol gan Gadeirydd cyntaf yr ASB, yr Arglwydd Krebs, a rhannwyd syniadau gan Dr Claire Craig a’r Athro Syr Charles Godfray dros ginio.