Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - mis Chwefror 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - mis Chwefror 2022

WFAC 22/02/02
I’w drafod

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Adroddiad y Cadeirydd

Crynodeb Gweithredol

  1. Mae’r adroddiad sydd ynghlwm yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru. 
     
  2. Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i:
  • nodi trafodaethau’r Bwrdd;
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach


Cysylltwch â: Lucy Edwards
Lucy.Edwards@food.gov.uk 


WFAC 22/02/02
I’w drafod
Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Chwefror 2022

1. Cyfarfodydd y Bwrdd

1.1    Cynhaliwyd cyfarfod agored diwethaf y Bwrdd yng Nghaerdydd ar 8 Rhagfyr 2021, a’r trafodaethau paratoadol y diwrnod blaenorol. Bu modd i Aelodau WFAC gymryd rhan yng nghyfarfod y Bwrdd a chlywed sut y cafodd pwyntiau allweddol yn deillio o’n hystyriaeth flaenorol eu bwydo i'r trafodaethau. Aeth y Bwrdd ati i ystyried y materion canlynol: 

  • Diweddariad yr ASB ar Bolisi Pontio’r Undeb Ewropeaidd (UE): Roedd y papur hwn yn myfyrio ar y sefyllfa bresennol flwyddyn ar ôl diwedd cyfnod pontio’r UE ac yn canolbwyntio ar feysydd sy’n gysylltiedig â pholisi pedair gwlad yn y dyfodol. Codais yr effaith ar borthladdoedd Cymru a oedd yn trin nwyddau a oedd yn cael eu cludo drwy Weriniaeth Iwerddon ar y ffordd i Ogledd Iwerddon a phwysigrwydd cefnogi’r awdurdodau lleol lle mae dau brif borthladd Cymru wedi’u lleoli.
  • Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau: Yn y papur hwn, rhoddwyd diweddariad ar gynnydd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC), ac yn enwedig, y prosiect sy’n edrych ar reoleiddio ar lefel mentrau a’r gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud i feintioli lefel y risg a berir gan fwyd a werthir ar-lein. Tynnais sylw at y ffaith bod y term ‘busnesau dylanwadol’ yn cyfeirio at eu goruchafiaeth yn y farchnad, ond ei fod yn agored i gael ei gamddehongli fel bod ganddynt fwy o ddylanwad dros yr ASB ac felly dylid ceisio geiriad arall.
  • Diweddariad ar Wyddoniaeth 2021: Roedd y papur hwn yn rhoi diweddariad blynyddol ar wyddoniaeth yr ASB, gan gynnwys: i) rôl gwyddoniaeth yn yr ASB; ii) buddion gwyddoniaeth yr ASB; iii) disgrifiad o’n gallu gwyddonol; iv) adolygiad o’r gwaith a wnaed ers y diweddariad diwethaf; a v) chrynodeb o’r prif flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt. Dywedais fod WFAC wedi croesawu’r ffaith y byddai rhai o’r swyddi gwyddoniaeth yr oedd yr ASB yn bwriadu eu creu wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, gan greu cysylltiadau cryf â phrifysgolion Cymru.  
  • Diweddariad 2021 y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol: Roedd y papur hwn yn rhoi diweddariad ar weithgareddau Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol Ymgynghorol y Gwyddorau Cymdeithasol (ACSS).
  • Deall Safbwyntiau Defnyddwyr 2021: Roedd y papur hwn yn amlinellu’r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu safbwyntiau defnyddwyr, yn rhoi crynodeb o dueddiadau o ran pryderon a buddiannau defnyddwyr, yn amlinellu’r gwersi allweddol a ddysgwyd o raglen deall safbwyntiau defnyddwyr yr ASB ac yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen honno yn y flwyddyn i ddod.  Gofynnais sut roedd y gwaith yn ymwneud ag agweddau defnyddwyr tuag at fwydydd fu’n destun Golygu Genomau (GE) yn mynd rhagddo. Dywedodd Michelle Patel mai’r arfer gorau wrth gyfathrebu risg oedd deall i ddechrau pa wybodaeth oedd ei hangen, a bod y gwaith i fesur dealltwriaeth defnyddwyr yn parhau. Roeddent hefyd yn edrych ar yr ymatebion i ymgynghoriad Defra ar GE. 

1.2    Mae fideo o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr ar gael ar-lein a bydd cofnodion y cyfarfod, pan fyddant ar gael, yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB.  

1.3    Ar 17-18 Ionawr, es i i ddigwyddiad ‘Cwrdd i Fwrdd’ y Bwrdd. Roedd hwn yn gyfle i aelodau’r Bwrdd edrych i’r dyfodol ac ystyried materion strategol sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Roedd y drafodaeth â staff perthnasol yn galluogi aelodau’r Bwrdd i ddeall y materion yn well ac i roi syniad o’u blaenoriaethau. 

1.4    Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd yn Birmingham ddydd Mercher 9 Mawrth 2022. 

2. Cyfarfodydd eraill

2.1    Tra roeddent yng Nghaerdydd ar gyfer cyfarfod y Bwrdd, ar 7 Rhagfyr, ymwelodd grwpiau o aelodau Bwrdd yr ASB â ZerotoFive ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Labordy Dadansoddwr Cyhoeddus ‘Minton, Treharne and Davies’. Cafwyd llawer o ymatebion cadarnhaol. Y noson honno, cafodd aelodau’r Bwrdd, tîm rheoli Gweithredol yr ASB ac aelodau o WFAC ginio gwaith defnyddiol a thrafodwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

2.2    Ar 24 Ionawr, es i i gyfarfod Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) fel arsylwr sy’n cymryd rhan. 

2.3    Ar 26 Ionawr, cefais drafodaeth â Phrif Filfeddyg yr ASB am y prinder milfeddygon a ffyrdd y gellid cynyddu recriwtio.

Peter Price
Aelod o Fwrdd Cymru a Chadeirydd WFAC