Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 21 Hydref 2021

Penodol i Gymru

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 21 Hydref 2021

Papur FSAW 21/10/03
I’w drafod
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr

Crynodeb Gweithredol

1.    Mae’r papur sydd ynghlwm yn cyfeirio at faterion a nodwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021. Mae cofnodion llawn y cyfarfod hwnnw ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (Saesneg yn unig). Mae’r papur hwn hefyd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n berthnasol i Gymru ac yn sail i’r diweddariad i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor).

2.      Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gyda diweddariad ar lafar, lle bo’n briodol.

3.     Gwahoddir aelodau i:

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

Swyddog Cyswllt yn ASB Cymru: Lucy Edwards
lucy.edwards@food.gov.uk

 

Papur FSAW 21/10/03
I’w drafod
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr

1.    Crynodeb o Adroddiad y Prif Weithredwr i Gyfarfod Agored y Bwrdd ar 15 Medi 2021.

1.1.    Fe gafodd y Bwrdd adroddiad ysgrifenedig y Prif Weithredwr (FSA 21/09/03) (Saesneg yn unig) sydd ar gael ar ein gwefan.

2.      Adroddiad Cyfarwyddwr Cymru ar Faterion yn ymwneud â Chymru

Ymgysylltu’n allanol

2.1.    Rwyf wedi bod yn rhan o’r cyfleoedd ymgysylltu canlynol ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 15 Gorffennaf 2021:

  • 27 Gorffennaf – Cyfarfod Grŵp Ymgysylltu RCVS a chyfarfod Grŵp Adfer Covid-19 Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW)
  • 28 Gorffennaf – Cyfarfod rhagarweiniol gyda Victoria Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Amaethyddiaeth – Is-adran Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru 
  • 7 Medi – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd a chyfarfod Grŵp Adfer Covid-19 SSAFW
  • 10 Medi – Cyfarfodydd rhagarweiniol gyda Chadeirydd Bwrdd yr ASB a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop a’r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton
  • 15 Medi – Bwrdd yr ASB, yn cyflwyno’r diweddariad blynyddol gan yr ASB yng Nghymru
  • 24 Medi – ymweliad â’r Ganolfan Technoleg Bwyd, Ynys Môn a Phorthladd Caergybi gyda Chadeirydd Bwrdd yr ASB
  • 1 Hydref – Cyfarfod Cyswllt Chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru
  • 11 Hydref – Cyfarfod ag awdurdodau lleol Rhanbarth Bwyd Gogledd Cymru 
  • 12 Hydref – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd a chyfarfod ag awdurdodau lleol Rhanbarth Bwyd De Orllewin Cymru.
  • 19 Hydref – Cyfarfod SSAFW 

Adolygiad Blynyddol o Ddosbarthiadau ar gyfer ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn

2.2    TMae’r ASB wedi cynnal ei hadolygiad blynyddol o ddosbarthiadau ar gyfer ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddodd yr ASB restr wedi’i diweddaru ar 1 Medi 2021. Mae’r adolygiad dosbarthiad blynyddol yn broses arferol sy’n ystyried canlyniadau data monitro E. coli dros gyfnod penodol (Gorffennaf 2018 – Mehefin 2021 ar gyfer yr adolygiad hwn). Mae hyn yn pennu’r statws dosbarthu ar gyfer pob ardal cynaeafu pysgod cregyn yn amodol ar ganlyniadau monitro parhaus. Fel rhan o’r adolygiad blynyddol eleni, mae dau faen prawf ychwanegol ar gyfer trin canlyniadau anghyson sydd uwch na’r trothwy Dosbarth A wedi eu cyflwyno. Amlinellir y rhain yn Adroddiad Prif Weithredwr yr ASB i’r Pwyllgor Busnes ar 16 Mehefin 2021. Mae dosbarthu ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn yn agwedd hollbwysig ar gyfer sicrhau diogelwch iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, un o ofynion hanfodol gwella statws dosbarthu ardaloedd cynaeafu yw gwella ansawdd dŵr. Ni ddisgwylir i newidiadau mewn protocolau arwain at newidiadau mawr yn y dosbarthiadau a ddyfernir ar gyfer ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn yng Nghymru a Lloegr nes bod ansawdd dŵr yn gwella. 

Cynhadledd Digwyddiadau ac Ymateb Brys Diogelwch Bwyd Byd-eang y Deyrnas Unedig 2021
 

2.3    Rhwng 13-15 Hydref, cynhaliodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) gynhadledd rhithiwr ar y cyd yn Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg. Roedd y gynhadledd yn cynnig cyfle amserol a phwysig i ystyried digwyddiadau ac argyfyngau diogelwch bwyd, a sut rydym ni’n ymateb yn fyd-eang i heriau a allai effeithio ar ddiogelwch bwyd a chyflenwad bwyd ar draws y byd. Yn fwy cyffredinol, roedd y gynhadledd yn edrych ar rôl systemau bwyd a rheoleiddwyr mewn digwyddiadau diogelwch bwyd, gan gynnwys yr arfer gorau ar gyfer rheoli achosion o salwch a gludir gan fwyd, defnyddio technegau gwyliadwriaeth a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg. Ystyriodd rôl y diwydiant bwyd wrth ddatrys digwyddiadau a galw cynnyrch yn ôl, yn ogystal ag arfer gorau o ran troseddau bwyd, diogelu bwyd a dilysrwydd bwyd, a’r ffordd orau o gyfleu risgiau bwyd. Edrychodd hefyd ar ystod o faterion gan gynnwys sut rydym ni’n sicrhau cysondeb a defnyddio arfer gorau ar draws gwahanol systemau rheoleiddio rhyngwladol, yn ogystal â heriau i’r diwydiant a rheoleiddwyr yn y dyfodol. Roedd y gynhadledd yn archwilio amrywiaeth o bynciau, o sut rydym ni’n rheoli digwyddiadau ac argyfyngau fel rhan o systemau bwyd ehangach, i sut gallwn weithio’n agosach â Rhwydwaith Rhyngwladol yr Awdurdodau Diogelwch Bwyd (INFOSAN), Comisiwn Codex Alimentarius a Sefydliad Iechyd y Byd i helpu i osod safonau uchel a chefnogi’r diwydiant a rheoleiddwyr. 

2.4    Daeth y gynhadledd â rhwydwaith amrywiol ac unigryw o reoleiddwyr rhyngwladol, gwyddonwyr diogelwch bwyd, arbenigwyr labordai bwyd ac arbenigwyr technegol o bob cwr o’r byd ynghyd. Roedd y panel rhyngwladol o siaradwyr a chyflwynwyr yn cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol o bob rhan o’r maes iechyd y cyhoedd, rheoleiddio bwyd a’r diwydiant bwyd, oll yn cynnig eu mewnwelediad awdurdodol i gyfres o gyflwyniadau, seminarau, gweithdai a sesiynau llawn addysgiadol dros y tridiau. Roedd y gynhadledd yn helpu i sicrhau bod diogelwch bwyd ac arfer da wrth reoli digwyddiadau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni mewn byd llawn digwyddiadau byd-eang cyfnewidiol. 

3.     Cyfarwyddwr Cymru yn Bwrw Golwg Ymlaen


3.1    Rhwng nawr a chyfarfod nesaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 2 Chwefror 2022, rwyf wedi ymrwymo i’r pethau hyn sy’n berthnasol i’r ASB yng Nghymru: 

  • 2 Tachwedd – Cyfarfod â Chadeirydd/Dirprwy Weinidog Lynne Neagle ar reoleiddio technolegau genetig.
  • 2 Tachwedd – Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd
  • 10 Tachwedd – Cyfarfod ag awdurdodau lleol Rhanbarth Bwyd De Ddwyrain Cymru
  • 23 Tachwedd – Cyfarfod Grŵp Ymgysylltu RCVS
  • 26 Rhagfyr – Cyfarfod cyswllt yr ASB/Llywodraeth Cymru
  • 15 Rhagfyr – Cyfarfod SSAFW


Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr, yr ASB yng Nghymru
Hydref 2021