Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Hydref 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru.

1.  Crynodeb 

1.1    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.

1.2    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol:  

  • nodi’r diweddariad 

  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach 

2.  Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd 

2.2    Daeth Adroddiad y Prif Weithredwr i law’r Bwrdd.

3.  Ymgysylltu Allanol gan Uwch Reolwyr yr ASB yng Nghymru 

3.1    Ers cyfarfod WFAC diwethaf ar thema benodol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, mae uwch reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol:

  • 18 Gorffennaf – Gyda’r Cadeirydd, Susan Jebb yn Sioe Frenhinol Cymru, yn cymryd rhan mewn gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau.
  • 26 Gorffennaf – Cadeirydd, Susan Jebb, yn cwrdd â’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle.
  • 16 Awst – Roedd cyfarfod cyswllt chwarterol diweddaraf yr ASB/Llywodraeth Cymru yn gyfle i drafod datblygiadau mewn perthynas â bridio manwl a gwneud arddangos sgoriau hylendid bwyd yn orfodol.
  • 6 Medi – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
  • 12 Medi – Cyfarfod Rhwydwaith Rheoleiddwyr Cymru.
  • 27 Medi – Cyfarfod Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) – roedd y cyfarfod yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Amgylchedd Bwyd Iach Llywodraeth Cymru, cyflwyniad ar arolwg Defnyddwyr Bwyd a Chi yr ASB a diweddariad gan is-grŵp SSAFW.
  • 11 Hydref – Cyfarfod Iechyd yr Amgylchedd Cymru – cafwyd cyflwyniad ar brif flaenoriaethau a chynlluniau gwaith yr ASB ar gyfer y dyfodol.

3.2    Rhagolwg ar waith ymgysylltu allanol:

  • 24-28 Hydref – Wythnos Safonau Masnach Cymru – cyfraniad yr ASB yn ystod yr wythnos hon i’w gadarnhau.
  • 27 Hydref – Cyfarfod cyswllt chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.
  • 1 Tachwedd – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
  • 16 Tachwedd – Y Dirwedd Fwyd sy’n Newid: Cynhadledd Flynyddol UKAFP – Bydd Nathan Barnhouse a Phrif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, Robin May, yn rhoi cyflwyniad a bydd stondin yn y digwyddiad hwn.
  • 24 Tachwedd – Cyfarfod Cynllunio Busnes Safonau Masnach Cymru 

4.  Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â’r ASB yng Nghymru 

4.1    Sioe Frenhinol Cymru 2022 – Dros y digwyddiad 4 diwrnod, bu staff ac aelodau WFAC yn ymgysylltu â thua 750 o bobl. Mae’n werth nodi bod dau ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol ymhlith y poethaf a gofnodwyd erioed yn y DU, gyda’r tymheredd ar faes y sioe yn Llanelwedd yn cyrraedd 38 gradd. Heb os, effeithiodd hyn ar nifer yr ymwelwyr, yn enwedig gan fod y dydd Llun fel arfer yn un o ddiwrnodau prysuraf y sioe. Yn sicr, mae’n werth chweil cael presenoldeb yn y digwyddiadau hyn drwy gael stondin, ac mae hefyd yn gyfle i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid. Aeth Cadeirydd yr ASB a minnau i gyfarfodydd gyda Hybu Cig Cymru, NFU Cymru, canolfannau Arloesi Bwyd Cymru ac amrywiaeth o gynhyrchwyr bwyd Cymreig i glywed mwy am eu gwaith. Dywedodd Cadeirydd yr ASB fod hon yn ffordd wych o gwrdd â rhanddeiliaid allweddol a chynnal perthnasoedd gwaith, sy’n hanfodol ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. 

 4.2    Eisteddfod Genedlaethol 2022 – Dros y digwyddiad 8 diwrnod yn Nhregaron, croesawodd staff yr ASB ac aelodau WFAC dros 2100 o ymwelwyr i’r stondin, gyda llawer yn bachu lliain sychu llestri’rr ASB i’w hatgoffa am yr hanfodion hylendid bwyd. Un o’r uchafbwyntiau oedd Dr Ruth Hussey, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd yr ASB yn cael ei hurddo i Orsedd y Beirdd am ei chyfraniadau i iechyd cyhoeddus yng Nghymru. 

 4.3    Mynychu Gwasanaeth Cymru ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth – Ddydd Gwener 16 Medi, fe es i i wasanaeth gweddi a choffadwriaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar ran yr ASB, ym mhresenoldeb Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III a’r Frenhines Gydweddog.  Roeddwn yn hynod falch bod yr ASB wedi’i gwahodd i’r achlysur hwn o goffâd cenedlaethol: nid yn unig er mwyn i ni allu bod yn rhan ohono, ond hefyd oherwydd ei fod yn dangos ein bod yn cael ein gweld yn rhan annatod o’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. 

4.4    Newid Cyfarwyddiaeth – Mewn ymateb i’r cynnydd mewn cyfrifoldebau yr ydym wedi’u hetifeddu ers ymadael â’r UE, mae newidiadau Cyfarwyddiaeth ar draws yr ASB yn cael eu rhoi ar waith wrth i ni esblygu ac ymateb i’r newid hwn. Bydd Cymru, ynghyd â Gogledd Iwerddon, yn symud i gyfarwyddiaeth y DU a Materion Rhyngwladol (IUK) ar 1 Rhagfyr 2022 fel bod gwaith polisi datganoli’r ASB wedi’i leoli yn yr un gyfarwyddiaeth â swyddfeydd Cymru a Gogledd Iwerddon. Felly, hwn fydd cyfarfod olaf WFAC Julie Pierce fel Cyfarwyddwr Cymru. 

4.5    Bridio manwl – Rydym yn parhau i ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru wrth i’r Bil Bridio Manwl symud drwy Senedd y DU gyda gweithdy â swyddogion wedi’i gynllunio. Mae ymchwil defnyddwyr bellach yng ngham dau gyda gweithdai ansoddol ar y gweill, a bwriedir adrodd ar y canfyddiadau erbyn diwedd y flwyddyn. 

4.6    Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) – Mae’r ASB yn gyfrifol am 113 darn o ddeddfwriaeth ar ddiogelwch bwyd yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â 39 o ddarnau ychwanegol yng Nghymru lle mae gennym gyfrifoldebau ehangach. Mae’r Bil yn gyfle i ni edrych ar y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’n gwaith a nodi meysydd lle y gallwn ei symleiddio neu ei diwygio. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni yn unol â’n hegwyddorion arweiniol, er enghraifft bod yn seiliedig ar risg ac yn gymesur. Drwy gydol hyn, ni fyddwn yn peryglu diogelwch na safonau bwyd. Byddwn hefyd yn parhau i bwysleisio gwerth rheoleiddio i gefnogi busnesau a masnach, i annog arloesedd, buddsoddiad a thwf. Mae’r amserlen gyfredol a gyflwynir gan y Llywodraeth yn ymestyn, ac mae Bwrdd yr ASB yn pryderu o ran maint y gwaith sydd ei angen. Rydym yn gweithio’n agos gyda phob llywodraeth fel y gall pobl a busnesau fod yn sicr bod bwyd y DU yn parhau i fod ymhlith y bwyd mwyaf diogel ac o’r ansawdd uchaf yn y byd. 

5.  Ymgynghoriadau 

5.1   Ymgynghoriadau sydd ar agor: 

Dyddiad lansio: 1 Medi 2022 

Dyddiad cau: 23 Tachwedd 2022 

Dyddiad lansio: 12 Hydref 2022 

Dyddiad cau: 06 Rhagfyr 2022 

  • Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: dau fwyd newydd, un ychwanegyn bwyd ac un cyflasyn. 

Dyddiad cyhoeddi: Dydd Gwener, 17 Hydref. Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor am 8 wythnos 

5.2    Edrych tua’r dyfodol:  

  • Gweithdy Bridio Manwl (PB) - Fel y nodwyd uchod, rydym yn trefnu gweithdy gyda Llywodraeth Cymru i’n helpu i ddeall ei blaenoriaethau a’i buddiannau mewn perthynas â Bridio Manwl ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru am rôl yr ASB yn y Bil a fframwaith rheoleiddio’r dyfodol.