Alison Austin – Aelod o Fwrdd yr ASB
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Alison Austin - Aelod o Fwrdd yr ASB
Mae gan Alison lu o brofiad fel cyfarwyddwr anweithredol yn y sector cyhoeddus ac fel sylfaenydd ymgynghoriaeth cynaliadwyedd annibynnol. Mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau i ddatblygu strategaethau sy’n cwmpasu materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Treuliodd 25 mlynedd yn gweithio i Sainsbury’s Supermarkets Ltd. mewn rolau yn amrywio o Farchnata i Dechneg Bwyd a Chynaliadwyedd. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd ddealltwriaeth gref o anghenion defnyddwyr yn y sector bwyd.
Ers gadael Sainsbury’s 16 mlynedd yn ôl, mae hi wedi parhau i ystyried buddiannau cydgysylltiedig defnyddwyr a chynaliadwyedd o fewn cwmnïau a sefydliadau’r sector cyhoeddus. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (corff statudol sy’n darparu llais a chyngor i ddefnyddwyr mewn marchnad reoleiddiedig), Aelod Annibynnol o Fwrdd Seafish, lle roedd hi’n cynrychioli Gogledd Iwerddon am chwe blynedd, ac Ymddiriedolwr i WRAP (Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) ar strategaethau gwastraff bwyd a phecynnu. Mae hi wedi gweithio gydag SGS UK Ltd a Chymdeithas y Pridd ar lywodraethu archwilwyr ar gyfer ardystio safonau ac achredu.
Cafodd ei phenodi i Bwyllgor Ymgynghori’r ASB ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) ym mis Mehefin 2021 i gynrychioli anghenion defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod eu buddiannau wrth wraidd trafodaethau’r Pwyllgor.
Mae Alison yn gyn-Ymddiriedolwr y Gynghrair Werdd (ers naw mlynedd) ac, ar hyn o bryd, yn Gyfarwyddwr cwmni cydweithredol gwres adnewyddadwy, sy’n darparu system wresogi ardal ar gyfer cyfadeilad cartref gofal. Mae hefyd yn aelod gweithredol o nifer o gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol eraill yn ei hardal leol.
Cafodd OBE am ei gwasanaethau i gynaliadwyedd yn 2000.
Buddiannau Personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Cwmni cydweithredol Springbok Sustainable Wood Heat
- Wedi lled-ymddeol, ymgynghorydd cynaliadwyedd yn masnachu fel Unig Fasnachwr
Rolau Di-dâl
- Dim
Gwaith â thâl
- Dim
Cyfranddaliadau
- Pensiwn Buddsoddi Personol (SIPP), wedi’i reoli gan Rathbones Group plc.
- Cyfrif ISA Stociau a Chyfrannau, wedi’i reoli gan Rathbones Group plc.
- Ysgutor cyfrif ISA Stociau a Chyfrannau ei diweddar ŵr, wedi’i reoli gan Rathbones Group plc.
Clybiau a sefydliadau eraill
- Aelod oes o’r Cynghrair Gwyrdd
Buddiannau personol eraill
- Mae ei brawf yn gynghorydd Llafur ar gyfer Cyngor Tref y Fflint, Cymru
Cymrodoriaethau
- Dim
Cymorth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Yn berchen ar ddau eiddo rhent yn Guildford a Llundain
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Published: 30 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2025