Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Anthony Harbinson – Aelod Bwrdd yr ASB ar gyfer Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Anthony Harbinson

Gwnaeth Anthony Harbinson ymddeol o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon fel Ysgrifennydd Parhaol Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Gorffennaf 2022, wedi 37 mlynedd o wasanaethu cyhoeddus. Ac yntau’n Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig o ran cymhwyster, dechreuodd ei yrfa yng Ngwasanaeth Trydan Gogledd Iwerddon, cyn symud i Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Personol Gogledd Iwerddon am 15 mlynedd, lle ymgymerodd ag ystod o Swyddi Cyfarwyddwr, gan gwmpasu meysydd fel Cyllid, Cynllunio, AD, TGCh, Ystadau a Chontractio mewn ystod o gyrff iechyd, gan gynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans, Gofal Sylfaenol, ac Ymddiriedolaethau Ysbytai Acíwt.

Yn 2001 ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil gan dreulio’r pum mlynedd nesaf fel Uwch Gyfarwyddwr Cynorthwyol Erlyniadau Cyhoeddus, gan ddylunio a gweithredu’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon cyn symud i Swyddfa Gogledd Iwerddon lle treuliodd dair blynedd fel Cyfarwyddwr Adnoddau.  Yn 2010 ymunodd ag Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon, a oedd newydd ei ffurfio, lle gwasanaethodd i ddechrau fel Cyfarwyddwr Cyflawni Cyfiawnder, ac yna fel Cyfarwyddwr Cymunedau Diogelwch, ac yn olaf fel Cyfarwyddwr Mynediad at Gyfiawnder a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon.

Ef hefyd yw cyn-Lywydd Byd-eang Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), corff cyfrifyddu byd-eang mwyaf y byd; bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Cyrff Cyfrifyddu (CCAB), sef grwpiau ymbarél o gyrff proffesiynol siartredig ar gyfer cyfrifwyr ardystiedig siartredig ym Mhrydain.

Diddordebau personol

  • Cerdded
  • Coginio
  • Gwaith Elusennol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Dim

Gwaith am ffi

  • Dim

Gwaith heb ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim.

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Trysorydd ac Aelod o Urdd Farchogol Beddrod Sanctaidd Caersalem, Rhaglawiaeth Iwerddon.

Buddiannau personol eraill

  • Aelod Bwrdd Anweithredol Nazareth Care Ireland – elusen cartref nyrsio a gynhelir gan urdd grefyddol.
  • Cyfarwyddwr Anweithredol Richmond Fellowship Ireland (sy’n masnachu fel Threshold) – elusen iechyd meddwl.

    Cymrodoriaethau

    • Cymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.

    Cymorth anuniongyrchol

    • Aelod o Bwyllgor Cyllid Corfforaethol a Dibenion Cyffredinol Cynhadledd Esgobol Iwerddon.

    Ymddiriedolaethau

    • Ymddiriedolwr Cynllun Pensiwn Staff ACCA.

    Tir ac eiddo

    • Dau eiddo preswyl yng Ngogledd Iwerddon

    Penodiadau cyhoeddus eraill

    • Dim

    Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

    • Dim

     

    Add to smarter communications search Off