Araith Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i Gynhadledd y Sefydliad Iechyd Siartredig (CIEH): Croesawu newid, grymuso iechyd yr amgylchedd
Rhoddodd Prif Weithredwr yr ASB, Katie Pettifer, araith yng nghynhadledd CIEH yng Nghymru ddydd Mercher, 22 Hydref 2025. Wrth siarad â chynulleidfa o weithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd, soniodd Katie am yr heriau sy’n wynebu’r proffesiwn a sut mae’r ASB yn helpu i fynd i’r afael â nhw.
Prynhawn da a diolch i chi am fy ngwahodd i siarad â chi heddiw. Mae bob amser yn fraint siarad yng nghynadleddau’r CIEH, gyda’r gweithwyr proffesiynol sy’n asgwrn cefn diogelwch bwyd yn ein cymunedau.
Dw i wrth fy modd â theitl y gynhadledd hon, dw i’n meddwl ei fod yn crynhoi’r hyn rydyn ni am ei wneud! Bydda’ i’n siarad am sut mewn munud, ond yn gyntaf dw i am ddweud rhywbeth amlwg, oherwydd dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n ei ddweud ddigon.
Rôl hanfodol iechyd yr amgylchedd
Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud yn bwysig. Yn yr ASB, rydym yn aml yn dweud bod tair llinell amddiffyn yn y system fwyd – busnesau bwyd eu hunain sy’n gorfod sicrhau bod y bwyd maen nhw’n ei werthu yn ddiogel, awdurdodau lleol sy’n cynnal rheolaethau swyddogol i wirio hyn, a’r ASB fel y rheoleiddiwr cenedlaethol sy’n monitro’r system gyfan. Bob dydd, mae gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd ledled Cymru yn gweithio’n galed i ddiogelu iechyd y cyhoedd ym mhob rhan o’r system honno – busnesau, awdurdodau lleol ac yn wir yr ASB. Diolch i chi, pan fydd pobl yn eistedd i fwyta gyda’u teuluoedd, gallan nhw ymddiried bod eu bwyd yn ddiogel.
Dw i’n meddwl mai dyna’r nod rydyn ni i gyd yn ei rannu.
Dw i’n mynd i fynd ymlaen i siarad am sut rydyn ni’n gwella’r cyfundrefnau ar gyfer arolygu a gorfodi, ond rhaid i ni beidio â cholli golwg ar rôl ehangach iechyd yr amgylchedd wrth lunio’r diwylliant diogelwch bwyd cryf sydd gennym ni yng Nghymru. Rydych chi’n helpu busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau, yn eu cefnogi i wella, ac yn helpu i greu amgylchedd lle mae arferion da o ran diogelwch bwyd yn dod yn ail natur. Ac mae canlyniadau’r ymroddiad hwn yn glir – mae 97% o fusnesau bwyd Cymru yn ennill sgôr hylendid bwyd o dri neu well, gyda mwy na 75% yn ennill y sgôr uchaf o bump. Dyna rywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.
Yn yr ASB, rydyn ni’n cydnabod na allwn ni gyflawni ein cenhadaeth heboch chi. Rydyn ni yma i gefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd wrth i ni ymdrechu ar y cyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Heddiw, dw i am archwilio’r meysydd lle gallwn ni gydweithio i sicrhau ein bod ni’n parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.
Cydnabod yr heriau presennol
Cyn edrych ymlaen, rhaid i ni fod yn onest ynglŷn â’r sefyllfa bresennol. Mae’r pwysau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn sylweddol. Er bod cynnydd wedi bod ers y pandemig, mae ôl-groniadau o hyd ac mae awdurdodau lleol yn dal i wynebu heriau sylweddol o ran adnoddau. Yng Nghymru, mae 12% o’r swyddi hylendid bwyd yn wag ac 11% o’r swyddi safonau bwyd yn wag. Ar draws y DU, mae mwy na 42,000 o fusnesau heb sgôr – a phob un ohonyn nhw’n cynrychioli bwlch o ran diogelu defnyddwyr.
Nid ystadegau yn unig yw’r rhain – maen nhw’n cynrychioli’r realiti dyddiol y mae timau bwyd awdurdodau lleol yn ei wynebu. Mae cyfyngiadau adnoddau yn golygu penderfyniadau anodd ynghylch blaenoriaethau, cyfnodau hirach rhwng arolygiadau, a gweithwyr proffesiynol yn cael eu hymestyn ar draws cyfrifoldebau lluosog. Rydyn ni’n clywed hyn yn yr adborth rydyn ni’n ei gael gan awdurdodau lleol ledled Cymru, a ledled Gogledd Iwerddon a Lloegr hefyd, ac rydyn ni’n ei weld yn y data. Mae’r gwaith yn mynd yn anoddach, mae nifer y busnesau bwyd ledled y DU yn tyfu, a dydy’r gweithlu ddim yn tyfu.
Sut mae’r ASB yn ymateb – yn y DU ac yng Nghymru
Rydyn ni’n ceisio ymateb i’r heriau hyn mewn ffordd gynhwysfawr a systematig.
Yn gyntaf oll, rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth gyda llunwyr polisi, gwleidyddion etholedig; pwy bynnag rydyn ni’n credu all helpu. Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i yn y Senedd yn lansio ein hadroddiad blynyddol ar safonau bwyd yn y DU, lle dywedon ni unwaith eto nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau i ddelio â nifer cynyddol o fusnesau bwyd.
Yn yr ASB, mae gennym ni ddyletswydd statudol i fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi ar draws y system fwyd. Felly, rydyn ni’n casglu data ac yn adrodd arno’n gyhoeddus, a phan fyddwn ni’n sylwi ar awdurdodau lleol sy’n cael trafferth wirioneddol i gyflawni, byddwn ni’n ymgysylltu â nhw ar sail unigol. Fel arfer, yr hyn a welwn ni yw timau bwyd yn ymdrechu’n fawr i wneud y gwaith heb y bobl sydd eu hangen arnyn nhw, ac weithiau gall ymyriad gan yr ASB eu helpu i gyflwyno’r achos i uwch-reolwyr am fwy o arian.
Rydyn ni hefyd yn newid yr hyn a ofynnwn gan awdurdodau lleol, i’w helpu i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ganddyn nhw. Mae’r Model Safonau Bwyd newydd yn mabwysiadu dull sy’n fwy seiliedig ar risg, gan neilltuo mwy o amser ar fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio a busnesau risg uchel. Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i dreialu’r model, a gafodd ei werthuso gennym ni’n gynharach yn y flwyddyn. Cadarnhaodd y gwerthusiad fod y model yn effeithiol, ac mae wedi’i gynnwys yn yr ymgynghoriad diweddar ar y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd.
Yn yr un ymgynghoriad hwnnw, fe gynigion ni newidiadau i’r model hylendid bwyd. Rydyn ni’n cefnogi cydnabod cymwysterau newydd ac yn ehangu rolau Swyddogion Cymorth Rheoleiddio. Rydyn ni’n hyrwyddo asesiadau o bell a gwaith brysbennu busnesau lle bo’n briodol, gan roi mwy o offer i dimau awdurdodau lleol reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol – gan rymuso iechyd yr amgylchedd.
Rydyn ni’n ceisio cymeradwyaeth gan weinidogion i wneud newidiadau i’r cod yn ddiweddarach yr hydref hwn ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, byddwn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i gychwyn cyfnod pontio a dechrau rhoi’r newidiadau ar waith erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn olaf, rydyn ni’n cefnogi’r gweithlu ac yn ceisio helpu i’w adeiladu. Yma yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo gyrfaoedd rheoleiddio, gan fynd i’r afael â’r heriau o ran y gweithlu trwy ymdrechion cydweithredol â Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd (Cymru) (neu DPPW), ac rydyn ni’n awyddus i gefnogi gwaith DPPW a nodwyd yn argymhellion eu hadroddiad, Adeiladu’r Dyfodol. Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid fel Mentera a Sgiliau Bwyd a Diod Cymru i ddenu talent newydd i’r proffesiwn.
Dw i’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i wneud hyd yma. Mae’n cynrychioli ymdrech ar y cyd i ymateb i heriau difrifol, ond mae angen i ni wneud mwy. Mae’r sector bwyd yn parhau i dyfu ac esblygu, a dydy’r pwysau ar arian cyhoeddus ddim yn diflannu. Ac, yn anffodus, mae risg yn y system fwyd yn tyfu hefyd. Mae’n gyfnod anwadal i gadwyni cyflenwi bwyd byd-eang, ac mae’n bosib y byddwn ni’n gweld mwy o siociau yn y system o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau geo-wleidyddol. Yn yr ASB, mae’r digwyddiadau bwyd rydyn ni’n delio â nhw’n mynd yn fwy cymhleth, ac mae timau bwyd awdurdodau lleol yn bartneriaid hanfodol wrth ymateb i’r rhain – fel y mae busnesau eu hunain. Felly, mae’r gwaith yn mynd i barhau i fynd yn anoddach.
Mae hynny’n golygu bod angen i bob un ohonom sy’n gweithio ym maes diogelwch bwyd fod yn fwy creadigol wrth ddod o hyd i ffyrdd o gadw bwyd yn ddiogel yn y dyfodol. Mae angen i ni feddwl am sut olwg fydd ar y system yn y dyfodol. Mae angen i ni archwilio sut y gallwn ni barhau i ddiogelu’r cyhoedd, wrth ddarparu system sy’n gynaliadwy yn y tymor hir.
Blociau adeiladu
Yn yr ASB, rydyn ni wedi bod yn meddwl am hyn ers ychydig flynyddoedd, ac wedi nodi’r hyn yr ydym yn credu a allai fod yn flociau adeiladu ar gyfer system yn y dyfodol. Mae gweithwyr proffesiynol medrus ym maes iechyd yr amgylchedd, wrth gwrs, yn ganolog i’r system reoleiddio, ond mae angen offer a chefnogaeth well arnoch chi i ymdopi â heriau sy’n esblygu, ac mae angen i ni fod yn barod i groesawu rhai ffyrdd gwahanol o wneud pethau.
Mae cofrestru manylach yn un bloc adeiladu o’r fath. Un o’r prif heriau sy’n ein hwynebu ni yw’r cynnydd yn nifer y busnesau bwyd newydd, ac efallai nad oes gan rai ohonyn nhw gymhwysedd a gwybodaeth am ddiogelwch bwyd. Drwy wella’r system gofrestru, gellir mynd i’r afael â hyn drwy ddarparu data gwell i awdurdodau lleol. Gallen ni hefyd gyflwyno ffi gofrestru o bosib i ariannu gweithgareddau rheoleiddio heb orlwytho mentrau bach.
Yng Nghymru, mae cofrestru manylach yn cynrychioli un o’n cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i gryfhau sylfaen rheoleiddio diogelwch bwyd. Yn dilyn cais gan weinidogion, rydym wedi lansio ffrwd waith gynhwysfawr sy’n archwilio sut i wella’r drefn o gofrestru busnesau.
Dydy hyn ddim yn ymwneud â chreu biwrocratiaeth er ei mwyn ei hun. Mae bylchau yn y system bresennol – busnesau sy’n cofrestru ond sydd byth yn masnachu; busnesau eraill sy’n ailgofrestru o dan enwau newydd i osgoi sgoriau CSHB isel; a chofrestriadau lluosog at wahanol ddibenion. Gallai system fanylach fynd i’r afael â’r problemau hyn wrth gynhyrchu cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiol.
Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac awdurdodau lleol drwy raglenni peilot i gasglu tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio. Mae’r dull yn fwriadol ymgynghorol – rydyn ni’n dysgu o’ch profiadau ar lawr gwlad cyn gwneud argymhellion i weinidogion yn y gwanwyn.
Rydyn ni wedi cynnal rhywfaint o waith archwilio gydag awdurdodau lleol ynghylch opsiynau posib o godi tâl ar gyfer rheoleiddio yn fwy cyffredinol. Yng Nghymru, mae yna ffafriaeth gref ar gyfer ffi sy’n gysylltiedig â chofrestru, yn debyg i’r model Trwydded Siop Cigydd blaenorol. Gallai hyn ddarparu mecanwaith ariannu cynaliadwy wrth sicrhau bod busnesau’n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif o’r cychwyn cyntaf.
Mae gwella gwaith gorfodi yn flaenoriaeth arall. Mae angen pecyn cymorth mwy cadarn ar awdurdodau lleol, gan gynnwys opsiynau fel hysbysiadau cosb sefydlog, sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn sectorau eraill fel trwyddedu alcohol. Gallen ni gefnogi rheoleiddio ymhellach drwy rannu cudd-wybodaeth a defnyddio data i nodi risgiau, fel yr ydym yn ei wneud yn y model safonau bwyd.
Mae gwybodaeth i ddefnyddwyr hefyd yn hanfodol. Mae cryn gefnogaeth i’r drefn orfodol o arddangos sgoriau hylendid bwyd – sydd eisoes yn ofynnol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon – a gellid ymestyn hyn yn Lloegr. Yma yng Nghymru, hoffen ni weld sgoriau’n cael eu harddangos ar-lein yn ogystal ag yn y siop, er mwyn grymuso dewis defnyddwyr ymhellach.
Mae yna ffyrdd y gallwn ni adeiladu ar y sail wych honno i wella gwybodaeth i ddefnyddwyr hyd yn oed yn fwy hefyd.
Mae’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda llwyfannau dosbarthu bwyd ar-lein yn enghraifft dda. Ers y pandemig, mae bron i hanner ohonom yn archebu bwyd tecawê trwy ap neu ar-lein, gyda channoedd ar filoedd o fusnesau bwyd ar gael trwy ein ffonau. Mae gan agregwyr ar-lein fel Just Eat, Uber Eats a Deliveroo gyrhaeddiad sylweddol ar draws y sectorau bwyd tecawê, bwytai a bwyd i fynd, yn ogystal â miliynau o ddefnyddwyr. Fe wnaethon ni ddatblygu siarter diogelwch bwyd gyda’r tair llwyfan ar-lein hyn, gan eu rhwymo i sicrhau bod busnesau sy’n gwerthu bwyd trwy eu llwyfannau wedi’u cofrestru gyda’u hawdurdod lleol ac yn bodloni safon ofynnol o ran sgôr hylendid. Mae’r Siarter hefyd yn eu rhwymo i ddefnyddio eu sianeli cyfathrebu ar gyfer busnesau a chwsmeriaid i rannu gwybodaeth hylendid a diogelwch yr ASB ac i gefnogi’r rheiny sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.
Wrth gwrs, dylen ni siarad am Reoleiddio ar Lefel Genedlaethol ar gyfer busnesau bwyd mawr hefyd. Dyma’r bloc adeiladu sydd wedi bod fwyaf dadleuol hyd yn hyn, a dydy hynny ddim yn syndod gan mai dyma’r newid mwyaf sylweddol rydyn ni’n ei ystyried o ran sut rydyn ni’n mynd ati i oruchwylio diogelwch bwyd. Dw i’n gwybod o siarad â llawer o weithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd am Reoleiddio ar Lefel Genedlaethol fod hyn yn rhywbeth y mae gan bobl farn gref amdano.
Gadewch i mi egluro ein rhesymeg yn hyn o beth. Mae deg manwerthwr mawr sy’n gwerthu 95% o’n bwyd i ni ledled y DU, felly mae ganddyn nhw gyrhaeddiad aruthrol. Rhyngddyn nhw, mae ganddyn nhw filoedd a mwy o siopau, sydd i gyd yn cael eu rheoleiddio fel safleoedd unigol. Rydyn ni fel rheoleiddwyr yn eu trin fel pe baen nhw’n filoedd o fusnesau bach ar wahân, ond nid dyna fel maen nhw’n cael eu rhedeg. Mae ganddyn nhw systemau cydymffurfio mewnol mawr a chynhwysfawr. Mae rhywfaint o’r hyn sy’n digwydd ar lefel y siop yn dibynnu ar reolwyr a staff lleol, ond mae llawer ohono’n cael ei yrru’n ganolog a’i fonitro’n ganolog.
Fe wnaethon ni gynnal treial yn Lloegr gyda phump o’r manwerthwyr mawr hyn a oedd, yn y bôn, yn ceisio ateb y cwestiwn: “os edrychwn ar eu holl ddata cydymffurfio ar lefel busnes, a’i gyfuno â rhai gwiriadau ar lawr gwlad, a allwn ni gael darlun cystal neu well o’r hyn sy’n digwydd na’r hynny a geir drwy bob arolygiad unigol?”. Os gallwn, mae hynny’n wirioneddol arwyddocaol oherwydd mae’n rhoi ffordd newydd i ni o ddiogelu iechyd y cyhoedd, gyda hyd yn oed mwy o welededd o’r hyn sy’n digwydd yn y busnesau enfawr hyn. Ac mae’r dull hwn yn cymryd llai o amser gwerthfawr mewn timau iechyd yr amgylchedd lleol.
Roedd ein treial yn gadarnhaol iawn. Ond wrth i ni ddechrau siarad am ble y gallai arwain yn y tymor hir, dw i’n gwybod i hynny arwain at lawer o bryder ein bod ni’n rhuthro ymlaen â hyn. Rydyn ni’n gwrando ar y pryderon hynny, ac rydyn ni wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn ymgysylltu’n helaeth iawn â channoedd o bobl sy’n gweithio ar draws y system, gan gynnwys swyddogion iechyd yr amgylchedd yma yng Nghymru.
Gwnaeth y Fforwm Llywio Uwch, sy’n cynnwys cynrychiolaeth o CIEH a DPPW, helpu i oruchwylio’r camau nesaf uniongyrchol yn dilyn ein treial. Er gwaethaf y pryderon a godwyd ynghylch y dull newydd posib hwn, roedd consensws y dylen ni fod yn gwneud mwy o ddefnydd o’r data hwn. Felly, rydyn ni’n symud ymlaen i geisio defnyddio dull cenedlaethol o graffu ar ddata i wella’r system bresennol yn hytrach na’i disodli. I Gymru, gallai hyn olygu goruchwyliaeth fwy effeithlon o fanwerthwyr mawr sy’n gweithredu ledled y wlad, gan roi mewnwelediad a sicrwydd gwerthfawr i awdurdodau lleol a’u grymuso i neilltuo mwy o’u hadnoddau i ganolbwyntio ar y busnesau llai, annibynnol sydd angen mwy o gymorth ymarferol.
Mae’r wybodaeth allweddol o’n proses ymgysylltu wedi bod yn glir: rhaid i ddiogelu defnyddwyr aros wrth wraidd unrhyw system reoleiddio. Dydy Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol ddim yn ymwneud â rheoleiddio llai trylwyr – mae’n ymwneud â rheoleiddio mwy deallus sy’n defnyddio data a dulliau meddwl trwy systemau i gyflawni canlyniadau gwell.
Edrych ymlaen – heriau a chyfleoedd a rennir
Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rydyn ni’n wynebu heriau cyffredin sy’n gofyn am weithredu ar y cyd. Dydy cyfyngiadau adnoddau ddim yn mynd i ddiflannu yn y tymor byr, felly rhaid i ni ddefnyddio ein hadnoddau yn y mannau cywir, gan wneud y defnydd mwyaf o ddata i ddweud wrthyn ni ble mae’r risgiau.
Mae angen i ni hefyd edrych ar ffynonellau ariannu mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn archwilio modelau codi tâl a allai ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiol. Gallai’r gwaith adfer costau rydyn ni’n ei wneud gydag awdurdodau lleol ddarparu’r sefydlogrwydd ariannol sydd ei angen ar gyfer cynllunio a datblygu’r gweithlu yn y tymor hir.
Ac ni fydd y system fwyd yn sefyll yn llonydd. Wrth iddi esblygu, bydd angen i ni chwilio am gyfleoedd a heriau. Un newid tymor byr iawn fydd awdurdodi bwydydd a gynhyrchir trwy fridio manwl yn Lloegr, a fydd yn gofyn am ganllawiau gorfodi cenedl-benodol ar gyfer awdurdodau lleol Cymru. Byddwn ni’n dal i orfod rheoli risg drwy reolaethau mewnforio a systemau ar gyfer diogelu ein ffiniau yn ystod cyfnod arall o newid, wrth i’r DU a’r UE drafod cytundeb ar barth SPS newydd. A byddwn ni’n parhau i ddatblygu’r achos dros fodelau newydd fel systemau manylach ar gyfer cofrestru busnesau a allai drawsnewid sut rydyn ni’n rheoli’r boblogaeth fusnes.
Dydy arloesedd ddim yn stopio gyda thechnoleg. Rydyn ni’n gweld dulliau newydd ar gyfer datblygu proffesiynol, llwybrau gwahanol i yrfaoedd ym maes iechyd yr amgylchedd, a phartneriaethau creadigol sy’n ymestyn ein cyrhaeddiad i gymunedau.
Bydd dyfodol rheoleiddio diogelwch bwyd yn gofyn i ni fod yn feiddgar, yn gydweithredol ac yn addasadwy. Bydd yn rhaid i ni ddiwygio ein systemau i wynebu heriau newydd – o dechnolegau bwyd sy’n dod i’r amlwg i ymddygiadau defnyddwyr sy’n newid, o effeithiau hinsawdd i fodelau busnes sy’n esblygu.
Ond, wrth lwyddo i ymgorffori diwygiadau, gallwn ni gryfhau ein gwaith o ddiogelu defnyddwyr. Mae’n gwneud defnydd gwell o arbenigedd proffesiynol, yn darparu canllawiau cliriach i fusnesau, ac yn cyflawni canlyniadau gwell i ddefnyddwyr. Yn bwysicaf oll, mae’n cydnabod bod gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd yn parhau i fod yn gwbl ganolog i ddiogelu’r cyhoedd.
Casgliad
Dw i’n ddiolchgar am eich ymdrechion parhaus i ddiogelu’r cyhoedd, er gwaethaf heriau’r blynyddoedd diwethaf. Mae’r safonau bwyd uchel sydd gennym ni yng Nghymru, ac ar draws y DU, yn dibynnu ar eich proffesiynoldeb, eich ymroddiad a’ch arbenigedd.
Ein hymrwymiad i chi yw cydweithio parhaus. Byddwn ni’n parhau i wrando, yn parhau i addasu ein cefnogaeth, ac yn parhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein system reoleiddio’n parhau i ddiogelu ein cymunedau. Mae angen i ni gydweithio i wneud yn siŵr bod y system yn parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd wrth addasu i realiti newydd.
Bob dydd, rydych chi’n gwneud penderfyniadau sy’n diogelu pobl ledled y DU rhag salwch a gludir gan fwyd. Rydych chi’n helpu busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau a gwella. Rydych chi’n ymateb i ddigwyddiadau ac yn cynnal y systemau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr fod â hyder yn eu bwyd.
Dydy eich rôl chi erioed wedi bod yn bwysicach. Mewn system fwyd sy’n gynyddol gymhleth, gyda thechnolegau newydd, modelau busnes newydd, a heriau newydd, mae arnom angen eich barn broffesiynol, eich gwybodaeth leol, a’ch ymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd yn fwy nag erioed.
Mae’r ASB wedi ymrwymo i’ch cefnogi yn y gwaith hanfodol hwn. Gyda’n gilydd, gallwn ni lunio system reoleiddio sy’n addas ar gyfer y dyfodol – un sy’n diogelu defnyddwyr, sy’n cefnogi busnesau cyfrifol, ac sy’n cydnabod yr arbenigedd proffesiynol sy’n gwneud y cyfan yn bosib. Mae diwygio yn hanfodol, a bydd angen i ni gydweithio i wneud yn siŵr ein bod yn ei wneud yn dda ac yn cadw bwyd yn ddiogel ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr.