Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cais gan Frasil i adolygu rheolaethau mewnforio ar gig eidion a dofednod a chynhyrchion cig

Argymhelliad gan yr ASB yn dilyn cais gan Frasil i adolygu rheolaethau mewnforio ar gig eidion a dofednod a chynhyrchion cig.

Cefndir

Ar 17 Mawrth 2017, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau ym Mrasil am ymchwiliad yr heddlu i dwyll yn y prif wladwriaethau sy’n cynhyrchu cig ym Mrasil (a elwir yn 'Carne Fraca') a oedd yn effeithio ar ambell gwmni allweddol a staff arolygu swyddogol. Yn dilyn cais brys gan y Comisiwn Ewropeaidd, darparodd awdurdodau Brasil wybodaeth am y gweithgareddau twyllodrus. Roedd rhai sefydliadau cynhyrchu bwyd a restrir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) i allforio cig a chynhyrchion cig, yn rhan o ymchwiliad yr heddlu. Ataliodd y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Da Byw a Chyflenwi Bwyd (MAPA) weithgareddau ym mhob un ohonynt a chymerodd yr UE gamau cyfreithiol i ddad-restru'r sefydliadau dan sylw a oedd wedi'u cymeradwyo'n flaenorol ar gyfer allforion yr UE.

Cynhaliodd y Comisiwn Ewropeaidd archwiliad o’r rheolaethau swyddogol a’r system ardystio ar gyfer cig eidion a dofednod yn 2017. Nododd yr archwiliad ddiffygion yn systemau rheoli diogelwch bwyd cenedlaethol Brasil. Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad, cymhwysodd yr UE reolaethau mewnforio wedi’u hatgyfnerthu ar gyfer allforion cig eidion, cig dofednod a chynhyrchion cig o Frasil ym mis Mawrth 2017. Mae’r rheolaethau mewnforio hyn yn parhau mewn grym yn yr UE ac yn y DU. 

Ym mis Awst 2021, yn dilyn cais gan Frasil i adolygu’r rheolaethau mewnforio, cytunodd Swyddfa’r DU i gychwyn asesiad o system rheolaethau swyddogol Brasil a’i heffeithiolrwydd o ran cynnal y rheolaethau swyddogol sydd eu hangen i ddarparu’r gwarantau angenrheidiol fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth Prydain Fawr.

Argymhelliad yr ASB 

Mae'r adroddiad archwilio yn nodi bod awdurdodau Brasil wedi cymryd camau sylweddol i unioni eu systemau rheoli diogelwch bwyd cenedlaethol yn dilyn argymhellion o archwiliadau'r UE oherwydd 'Carne Fraca'. Ar ôl ceisio gwybodaeth ychwanegol gan Swyddfa’r DU am y camau hyn, er mwyn helpu’r broses benderfynu drwy ddeall yr hyn y maent yn ei olygu ar gyfer diogelwch bwyd, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cytuno â’r penderfyniad i gael gwared ar reolaethau mewnforio uwch ar gig eidion a dofednod ac i gael gwared ar y cyfyngiad ar Frasil i gyflwyno sefydliadau dofednod a chig eidion i'w rhestru ym Mhrydain Fawr. 

Er y bu 36 o Hysbysiadau Ffiniau ac 17 o Reolaethau Swyddogol Dwysach ar gyfer Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid ers mis Ionawr 2021, mae dychwelyd i'r lefel ddiofyn o wiriadau’n golygu y bydd mewnforion o Frasil yn parhau i fod yn destun gwiriadau ar sail risg ar y ffin a, lle bo angen, gellir rhoi rheolaethau swyddogol dwysach ar waith os canfyddir llwythi nad ydynt yn cydymffurfio.