Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021 dros Microsoft Teams.

Penodol i Gymru

Dros Microsoft Teams

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021 dros Microsoft Teams.

Yn bresennol:

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor) a oedd yn bresennol:

Peter Price, Cadeirydd
Alan Gardner
Dr Philip Hollington
Christopher Brereton OBE
Helen Taylor
Georgia Taylor 
Dr John Williams

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:

Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Julie Pierce – Cyfarwyddwr Cymru, Gwybodaeth a Gwyddoniaeth 
Helen George – Pennaeth Gwasanaethau Busnes a Chyfathrebu Cymru
Lucy Boruk – Rheolwr Busnes
Kerys James –  Palmer – Pennaeth Polisi Rheoleiddio 
Owen Lewis – Pennaeth Polisi Rheoleiddio a’r Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
Sarah Aza – Pennaeth Gwaith Gweithredu Awdurdodau Lleol

Siaradwyr Gwadd: 

Jayne Griffiths – Swyddog y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol, yr ASB
Helen Graham – Uwch Wyddonydd Data, yr ASB 
Neel Savani-Patel – Gwyddonydd Data Arweiniol Data Cognizant

Arsylwyr:

Caroline Kitson – Uwch Reolwr Cyfathrebu, yr ASB

1.    Cyflwyniadau

1.1    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2.    Datgan buddiannau

2.1    Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau newydd ers y cyfarfod diwethaf ar 20 Mehefin 2021.

3.    Diweddariad gan y Cadeirydd (Papur FSA 21/07/01)

3.1       Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar y cyfarfod polisi diwethaf a gynhaliwyd ar 16 Mehefin a’r saith papur a ystyriwyd. Rhoddwyd diweddariad hefyd ar gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg (ARAC) a gynhaliwyd ar 9 Mehefin. 

3.2       Rhoddwyd diweddariad i’r Pwyllgor ar Gynaeafu Molysgiaid yn y Fenai ynghyd â diweddariad ar y cyfarfod rhagarweiniol gyda Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant sydd newydd ei phenodi, a gynhaliwyd ar 23 Mehefin.  

4.    Diweddariad gan y Cyfarwyddwr (Papur FSA 21/06/02)

4.1      Cyflwynodd y Cyfarwyddwr ei adroddiad ysgrifenedig a oedd yn crynhoi prif weithgareddau’r ASB yng Nghymru ers y cyfarfod diwethaf ar 20 Mehefin 2021.

4.2    Mewn diweddariad a roddwyd ar lafar, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cyfarfod rhagarweiniol gyda Lynne Neagle MS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant sydd newydd ei phenodi, wedi rhoi  cyfle i gyflwyno’r ASB yn ffurfiol, ac i drafod ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), Cynllun Adfer COVID-19 ac adolygiad yr ASB yng Nghymru.  Roedd yn gyfarfod cadarnhaol ac mae’r cyfarfod nesaf wrthi’n cael ei drefnu ar hyn o bryd.  

4.3     Wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor, nodwyd bod y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddai adolygiad o weithrediadau’r ASB yng Nghymru yn cael ei gynnal. Gofynnwyd i swyddogion Llywodraeth Cymru ddatblygu manyleb ar gyfer yr adolygiad hwn a phenodi tîm annibynnol. Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd yr ASB yng Nghymru, ynghyd ag Uwch Reolwyr ar draws yr ASB, yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i gefnogi’r adolygiad. 

4.4    Wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am drafodaethau  sy’n cael eu cynnal o fewn Grŵp Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) nodwyd mai 23 Mehefin oedd dyddiad cyfarfod diwethaf y grŵp.  Mae Matthew Frankcom (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) wedi gadael ei rôl fel Cadeirydd. Mae’r broses o ethol Cadeirydd newydd wedi dechrau a bydd swyddog o Lywodraeth Cymru yn goruchwylio’r broses enwebu. Cynhelir y cyfarfod nesaf fis Medi. Mae cyfarfod nesaf is-grŵp adfer SSAFW yn cael ei drefnu ar gyfer canol mis Gorffennaf, lle bydd trafodaethau’n cael eu cynnal ar ddisodli’r is-grŵp adfer gyda grŵp adolygu trywydd (roadmap).

4.5    Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad ar welyau pysgod cregyn yn ardal y Fenai. Nodwyd bod yr ASB yn parhau i gysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch mater ansawdd dŵr ac unrhyw oblygiadau perthnasol o ran dosbarthu gwelyau.  

5.    Trosolwg o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (y Cynllun)

5.1   Cafwyd cyfres o gyflwyniadau ar y Cynllun yng Nghymru, gan gynnwys trosolwg o’r Cynllun, y byd digidol, ystadegau, ac effaith COVID-19 ar y Cynllun. 

5.2   Rhoddodd Jayne Griffiths gyflwyniad ar gefndir gwreiddiau’r Cynllun yng Nghymru a’i ddiben. Nododd yr aelodau ddatblygiadau cadarnhaol pellach ac estyniadau i’r cynllun statudol yng Nghymru sydd wedi cyflawni’r canlynol: 

  • dod â’r fasnach busnes i fusnes (er enghraifft gweithgynhyrchwyr) o fewn cwmpas y Cynllun, gan alluogi busnesau bwyd sy’n prynu gan fusnesau bwyd eraill neu sy’n cyflenwi i fusnesau bwyd ddefnyddio gwybodaeth am sgoriau ac elwa o’r wybodaeth honno 
  • gwneud defnyddio datganiad dwyieithog yn ofynnol, a hwnnw’n  cyfeirio defnyddwyr at y dudalen we sgoriau bwyd, a’i gynnwys ar rai deunyddiau bwyd tecawê copi caled, gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael mynediad gwell at wybodaeth am sgoriau.  

 

5.3   Rhoddwyd manylion o ran sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu’r Cynllun yng Nghymru, gan amlinellu’r rhaglen arolygu sy’n seiliedig ar risg. Rhoddir sgôr o’r rhaglen hon gan ddefnyddio tair elfen sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth busnesau â rheoliadau hylendid bwyd. Gan gynnwys:

  • lefel gydymffurfio â gweithdrefnau hylendid a diogelwch bwyd 
  • gofynion strwythurol 
  • hyder mewn gweithdrefnau rheoli (nodwyd hefyd bod yr holl wybodaeth yn ddata agored a’i bod ar gael i'w hailddefnyddio)

6.      Datblygiadau Parhaus

6.1     Gwnaeth cyflwyniad gan Jayne Griffiths ymdrin â diogelu busnesau a swyddogaethau statudol yr ASB. Nodwyd mai dyma’r mesurau diogelu: 

  • yr hawl i apelio yn erbyn y sgôr hylendid bwyd os yw’r busnes o’r farn ei bod yn anghyfiawn
  • yr hawl i ymateb
  • y gallu i ofyn am ymweliad ail-sgorio os ydynt wedi gwella’r safonau hylendid

6.2     O ran swyddogaethau statudol yr ASB, nododd yr aelodau fod deddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar yr ASB i werthuso cyflwyno a gweithredu’r Cynllun bob tair blynedd ac i adolygu gweithredu’r system apelio’n flynyddol. Mae adroddiadau’r adolygiad yn cael eu gosod gerbron y Senedd ac anfonir copi at Weinidogion Cymru. Mae’r adroddiadau hyn yn gwneud argymhellion o ran gweithredu a datblygu parhaus y Cynllun yng Nghymru. Mae’r ASB yn cyflawni a/neu’n monitro camau gweithredu a chynnydd yn erbyn yr argymhellion fel rhan o’i gwaith pob dydd ar y Cynllun.

6.3     Darparwyd gwybodaeth am ddatblygiad posibl y Cynllun yng Nghymru yn y dyfodol sy’n deillio o argymhellion a ddarparwyd yn yr adroddiadau priodol.  Croesawodd aelodau’r Pwyllgor y gwaith sydd ar y gweill i archwilio’r posibilrwydd o ehangu cwmpas y Cynllun i gynnwys gwarchodwyr plant, ac roedd ganddynt ddiddordeb hefyd mewn clywed am waith sydd ar y gweill yn yr ASB ar arddangos gwybodaeth am sgoriau ar-lein.    

6.4     Nododd yr Aelodau fod defnyddwyr, y diwydiant ac awdurdodau lleol yn derbyn yr angen am wybodaeth am sgoriau ar-lein a chefnogaeth i’r ASB wrth fwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Mae gwaith diweddar wedi nodi cyd-ddibyniaethau ehangach â rhaglenni eraill yr ASB, er enghraifft rhaglenni Cofrestru Busnesau Bwyd a Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau.  

7.    Y Byd Digidol

7.1     Roedd cyflwyniad gan Helen Graham a Neel Savani-Patel yn rhoi gwybodaeth am rai o’r swyddogaethau arloesol yr ymchwilir iddynt i gefnogi’r posibilrwydd o arddangos sgoriau’n ddigidol ar-lein. Rhannwyd gwybodaeth am y cynigion i greu adnodd sy’n monitro arddangos sgoriau ar-lein ac sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i ragweld cydymffurfiaeth/sgôr hylendid busnesau.  Nodwyd y gallai unrhyw ddatrysiad digidol newydd fod â’r potensial i wella’r broses arolygu ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn y dyfodol. Ni fyddai unrhyw ddatrysiad newydd yn disodli’r angen am swyddog iechyd yr amgylchedd, ond gallai ychwanegu gwerth a chefnogi eu gwaith. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi gwaith yr ASB yn y maes hwn.

8.    Beth mae’r ystadegau yn ei ddweud wrthym?

8.1  Darparwyd gwybodaeth am ddata gan awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â’r Cynllun. Nododd aelodau’r Pwyllgor y canlynol:

 

  • bod y Cynllun yng Nghymru yn parhau i gael effaith gadarnhaol, gyda busnesau bwyd yn cyflawni cynnydd cyffredinol o ran cydymffurfiaeth: 87% yn 2013, 95% yn 2017 a 97% ym mis Gorffennaf 2021
  • bod nifer y busnesau sy’n cael sgôr o 5 hefyd wedi cynyddu: 45% yn 2013, 65% yn 2017 a dros 70% heddiw
  • bod 89% o fusnesau yn arddangos eu sgôr – sy’n gynnydd o gymharu â blynyddoedd blaenorol (87% yn 2019 ac 84% yn 2018)
  • bod 38% o fusnesau yn dweud bod arddangos eu sgôr yn cael effaith gadarnhaol – cynnydd o 7% ers y flwyddyn flaenorol
  • bod cynnydd parhaus yn nifer y rheiny sy’n adnabod y Cynllun yng Nghymru, gyda 94% o’r rheiny a arolygwyd yn adnabod y sticeri sgorio (cynnydd ar 89% yn 2016);
  • bod 71% o’r ymatebwyr mewn arolwg defnyddwyr yn nodi mai sgôr hylendid dda oedd y ffactor pwysicaf a oedd yn dylanwadu ar benderfyniadau o ran ble i fwyta allan
  • bod pobl iau rhwng 16 a 44 oed yn fwy tebygol o sôn am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
     

9.      Effaith COVID-19 ar y Cynllun


9.1      Roedd y cyflwyniad terfynol yn rhoi gwybodaeth am yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar y Cynllun yng Nghymru. Nododd y Pwyllgor fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwneud llawer o waith ychwanegol i ddiogelu cymunedau yn ystod pandemig COVID-19. Ar 20 Ebrill 2020, cyhoeddodd yr ASB ganllawiau i awdurdodau lleol ar wyro oddi wrth y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, i gynorthwyo penderfyniadau ar flaenoriaethu gweithgareddau diogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig, ond daeth y canllawiau gwyro i ben ar 30 Mehefin 2021. Bellach mae awdurdodau lleol yn gweithio tuag at y cerrig milltir a nodir yn y map cynllun adfer yng Nghymru. 

9.2      Gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau canlynol am y Cynllun:

 

  • Byddai’n ddefnyddiol archwilio’r posibilrwydd o nodi sgoriau blaenorol busnesau ar draws y Deyrnas Unedig (DU) i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr am dueddiadau, gan alluogi defnyddwyr i wneud penderfyniad gwybodus drwy edrych ar gysondeb.  Mewn ymateb i’r awgrym hwn, nodwyd bod yr ASB yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu gwybodaeth ychwanegol i ddefnyddwyr.
  • Roedd y potensial ar gyfer defnydd twyllodrus o’r bathodynnau ar-lein yn peri pryder i aelodau.  Nodwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried yn ystod cyfnod datblygu’r bathodynnau digidol. 
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y posibilrwydd o orfodi’r angen i weithredu ar achosion o ddefnyddio’r bathodyn mewn modd twyllodrus ar-lein mewn deddfwriaeth.
  • Trafodwyd y posibilrwydd o weithio gyda chydgasglwyr (aggregators) i arddangos sgoriau.
  • Nodwyd y cymhlethdodau o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial/arddangos ar-lein mewn perthynas â manwerthwyr sydd heb safleoedd sefydlog.
  • Amlygwyd problemau sy’n ymwneud â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’r Cynllun. 
  • Ystyriwyd bod y gydnabyddiaeth o duedd anfwriadol wrth gymhwyso deallusrwydd artiffisial a phwysigrwydd hyn wrth ystyried data economaidd-gymdeithasol yn gadarnhaol. Nodwyd bod gwerthusiadau moesegol wedi’u cynnal i ystyried hyn. 
  • Trafodwyd cysondeb arolygiadau gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd. Mewn ymateb i hyn, nodwyd bod yr ASB wedi datblygu canllawiau i gefnogi swyddogion, ac ei bod yn cynnig hyfforddiant ar lefel ranbarthol, Cymru gyfan ac ar draws y DU, a bod hefyd ganddi grŵp llywio i annog trafodaeth gydag awdurdodau lleol ac i hwyluso cysondeb.  
  • Wrth nodi bod cydnabyddiaeth defnyddwyr o’r Cynllun yng Nghymru yn uchel, sef 94%, holodd yr aelodau a oedd modd casglu data hefyd ar ddealltwriaeth defnyddwyr o’r Cynllun. Nododd y Pwyllgor fod yr arolwg i ddefnyddwyr wedi casglu gwybodaeth gyfyngedig am ddealltwriaeth defnyddwyr ond y gallai gynnig cyfle i archwilio ymhellach.  

 9.3     Dyma’r materion gwlad-benodol a godwyd yn ystod trafodaethau:  

 

  • Trafodwyd cost model adfer awdurdodau lleol yng Nghymru a’r angen am gyllid cynaliadwy i sicrhau gweithredu. Cadarnhawyd y byddai trafodaethau yn parhau gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
  • Nodwyd pwysigrwydd ymchwil defnyddwyr barhaus, gan gynnwys ymchwil yng Nghymru ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, i lywio datblygiad y rhaglen.  
  • Cafodd pwysigrwydd dull cydweithredol parhaus ei bwysleisio, gyda’r ASB yn ymgynghori ag Adrannau eraill y Llywodraeth, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill. 
  • Trafodwyd hefyd y materion ymarferol i awdurdodau lleol o ran gorfodi arddangos tystysgrifau’r Cynllun.
  • Nodwyd awgrym o ran cael bathodyn dwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

10.    Unrhyw Faterion Eraill  

10.1  Nododd yr aelodau fod y cyfarfod nesaf â thema i’w gynnal ar 21 Hydref 2021.