Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021

Penodol i Gymru

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 yng ngwesty'r Clayton, Caerdydd.

Yn bresennol:

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor) a oedd yn bresennol:

Peter Price, Cadeirydd
Alan Gardner (dros Teams)
Dr Philip Hollington (dros Teams)
Christopher Brereton OBE
Georgia Taylor 
Dr John Williams

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:

Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Julie Pierce – Cyfarwyddwr Cymru, Gwybodaeth a Gwyddoniaeth 
Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
Lucy Edwards – Rheolwr Busnes
Kerys James- Palmer – Pennaeth Polisi Rheoleiddio (dros Teams)
Jonathan Davies – Pennaeth Polisi (Safonau) a Diogelu Defnyddwyr

Siaradwyr Gwadd: 
Sarah Pattison, rhiant plentyn sydd â sawl alergedd bwyd ac ymgyrchydd ar y cyfryngau cymdeithasol
Meleri Williams, yn dioddef o alergedd ac wedi cymryd rhan yn ymgyrch ‘Hawdd Holi’ yr ASB
Gary Davies – Cadeirydd y Grŵp Labelu a Gwybodaeth am Fwyd ar gyfer Awdurdodau Lleol

Arsylwyr:

Caroline Kitson – Uwch Reolwr Cyfathrebu, yr ASB

1.    Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau                    

1.1    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nodwyd ymddiheuriadau gan Helen Taylor. 

2.    Datgan buddiannau

2.1    Dywedodd Chris Brereton ei fod wedi’i benodi’n Is-lywydd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

3.    Diweddariad gan y Cadeirydd (Papur FSA 21/07/01)

3.1    Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar ddigwyddiad Hydref y Bwrdd a chyfarfod polisi diwethaf a gynhaliwyd ar 16 Mehefin a’r saith papur a ystyriwyd. 

4.    Diweddariad gan y Cyfarwyddwr (Papur FSA 21/10/03)

4.1    Cyflwynodd y Cyfarwyddwr ei adroddiad ysgrifenedig a oedd yn crynhoi prif weithgareddau’r ASB yng Nghymru ers y cyfarfod diwethaf ar 21 Gorffennaf 2021.

4.2    Mewn diweddariad llafar, noddodd y Cyfarwyddwr fod y Grŵp Ansawdd Dŵr Pysgod Cregyn wedi’i ailsefydlu’n ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru a bod gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu ag awdurdodau lleol mewn perthynas â’u hymateb i Covid. 

5.    Gorsensitifrwydd i Fwyd – Straeon personol

5.1    Cafwyd cyfres o gyflwyniadau ar orsensitifrwydd i fwyd gan gynnwys dau brofiad personol, trosolwg o Raglen Gorsensitifrwydd i Fwyd yr ASB a’r Gyfraith Labelu Alergenau Newydd yn ogystal â diweddariad gan awdurdodau lleol ar weithredu’r Gyfraith a chymorth i fusnesau. 

5.2    Esboniodd Sarah Pattison sut mae’n defnyddio ei sianel cymdeithasol ‘Welsh Allergy Mummy’ i godi ymwybyddiaeth o alergenau a rhannu gwybodaeth a negeseuon credadwy. Dywedodd Sarah fod gan ei mab 7 oed sawl alergedd bwyd gan gynnwys llaeth buwch, gwenith (nid glwten) wy, soia, gwenith yr hydd, corbys, pys a chnau coed. 

5.3    Disgrifiodd Sarah anawsterau byw gyda’r alergeddau hyn gan fanylu pa mor anodd yw hi i gael gwybodaeth gan gynhyrchwyr mewn perthynas â’r labelu alergenau rhagofalus ‘gallai gynnwys’ oherwydd bod llawer o alergeddau ei mab y tu allan i’r ‘14  prif alergen’. Eglurodd Sarah fod bwyta allan hefyd yn broblem sylweddol oherwydd hyn.

5.4    Dywedodd Sarah ei bod yn siopa mewn mwy nag un archfarchnad bob wythnos i sicrhau ei bod hi’n gallu prynu nwyddau addas ar gyfer ei mab. O’i phrofiad hi o wirio deunydd pecynnu a labeli, mae’n anodd cael eglurder ar labeli ‘gallai gynnwys’ ac os oes angen iddi wirio cynnyrch newydd gall ymateb gan weithgynhyrchwr gymryd wythnosau neu fisoedd ac mae’n rhaid iddi daflu llawer o gynhyrchion am nad oes modd cadarnhau’r alergenau nad ydynt ar y rhestr ‘14 prif alergen’. Mae hyn yn cyfyngu ar yr amrywiaeth o fwydydd y gall Sarah eu cynnig i’w mab ac yn cyfyngu ar ei ddeiet.

5.5    Esboniodd Meleri Williams fod ganddi alergedd i gnau coed a physgnau, ac iddi brofi sioc anaffylactig ar ôl bwyta cnau Brasil pan oedd hi’n 8 oed. Dywedodd Meleri ei bod wedi cymryd rhan yn ymgyrch ‘Hawdd Holi’ yr ASB i helpu i godi ymwybyddiaeth o alergenau ymhlith myfyrwyr a phobl ifanc. 

5.6    Dywedodd Meleri mai ei her fwyaf yw bwyta allan gan nad yw rhai sefydliadau bob amser mor barod i gael ceisiadau am alergenau ond dywedodd ei bod wedi gweld cynnydd yn nifer y bwytai sy’n gofyn am alergenau penodol neu ofynion deietegol a’i bod yn teimlo bod hyn yn gwella. Dywedodd Meleri ei bod hi’n osgoi prynu bwydydd mewn siopau bara a chaffis oherwydd yn aml, nid ydynt yn gallu cadarnhau nad yw’r cynnyrch yn cynnwys cnau. 

6.    Gorsensitifrwydd i fwyd – trosolwg gan yr ASB

6.1    Rhoddodd Kerys James-Palmer drosolwg o Raglen Gorsensitifrwydd i Fwyd yr ASB, gan nodi bod hyn yn flaenoriaeth i’r ASB oherwydd ei fod yn fater iechyd sylweddol sy’n ymwneud â bwyd yn y DU sy’n cael effaith ddifrifol a pharhaus ar bobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

6.2    Rhoddodd Kerys wybod am y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL) sy’n cynnwys canllawiau PAL i gefnogi busnesau bach a chanolig, ymgynghoriad PAL, gweithdy PAL yn ogystal ag ymchwil defnyddwyr a gweithredwyr busnesau bwyd.

6.3    Rhoddodd Kerys wybod i’r pwyllgor am ddatblygiad y Model Adrodd am Adwaith Alergaidd i Fwyd (FARRM). Bwriad yr adnodd yw darparu gwybodaeth i’r ASB am raddfa a natur adweithiau alergaidd, yn enwedig wrth brynu bwyd y tu allan i’r cartref. Byddai’r wybodaeth hon yn rhoi gwell dealltwriaeth o natur adweithiau ac yn llywio datblygiad polisi ym maes alergeddau ac anoddefiadau bwyd. 

6.4    Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr ASB hefyd yn edrych ar gyflwyno ‘cynllun diogelwch alergeddau bwyd’ (FASS) i roi mwy o hyder i ddefnyddwyr fod busnesau bwyd wedi dangos y lefel ofynnol o ran rheoli risg alergenau a chyfathrebu am alergenau.
 
6.5    Rhoddodd Kerys drosolwg o’r gyfraith labelu alergenau newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2021. Roedd cynllunio ar gyfer gweithredu hyn yn cynnwys: diweddaru’r tudalen we PPDS, ‘adnodd penderfynu ar gyfer labelu bwyd’ ar gyfer busnesau, canllawiau technegol gwybodaeth a labelu alergenau, cwrs e-ddysgu alergeddau ac anoddefiadau wedi’i ddiweddaru a gweminarau hyfforddi awdurdodau lleol a busnesau ar wahân. Mae’r ASB yng Nghymru wedi ariannu a datblygu ‘canllaw cyflym’ i Gyfraith Natasha, wedi cyfrannu at ddatblygu cyfres o adnoddau alergenau amlieithog, wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau penodol i Gymru i siarad am y ddeddfwriaeth newydd, ac wrthi’n datblygu hyfforddiant pwrpasol ar PPDS ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.  

7. Diweddariad Awdurdodau Lleol

7.1    Rhoddodd Gary Lewis drosolwg o’r gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol a Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf i gynhyrchu cyfres o adnoddau alergenau amlieithog. Mae’r adnoddau hyn ar gael mewn 9 iaith wahanol a byddant yn helpu nifer helaeth o fusnesau. Dywedodd Gary fod awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio gyda’r ASB i baratoi ar gyfer y rheolau labelu alergenau newydd drwy hyrwyddo gweminarau hyfforddiant i fusnesau, rhannu negeseuon yn y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio fforymau a blogiau ar-lein yn ogystal ag ymateb i ymholiadau busnesau a darparu gwybodaeth wrth arolygu busnesau.
 
7.2    Dywedodd Gary wrth y pwyllgor fod rhai pryderon o ran cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd a dywedodd y byddai diffiniad statudol o PPDS wedi bod yn well. Mae pryderon bod y gyfraith hon yn cael effaith fawr ar fusnesau micro mewn perthynas â diffinio prif gynhwysyn cynhyrchion, defnyddio cynhwysion amgen lle nad yw labeli’n cael eu diweddaru’n rheolaidd a chael hyd i wybodaeth gan gyflenwyr. 

8. Trafodaeth banel

8.1    The committee and presenters participated in a panel discussion and the following topics were discussed: 8.1 Cymerodd y pwyllgor a’r cyflwynwyr ran mewn trafodaeth banel a thrafodwyd y pynciau a ganlyn: 

  • Y posibilrwydd o gysylltu’r Cynllun Sgorio a chydymffurfiaeth â chyfraith alergenau er mai’r consensws cyffredinol oedd y dylid datblygu system ddangosol newydd ar gyfer alergenau
  • Gall siopa ar-lein fod yn anodd weithiau gan nad yw rhai cynhyrchion yn dangos rhestr gynhwysion lawn neu mae llawer o’r cynhyrchion yn defnyddio ‘gallai gynnwys’
  • System rhybuddio am alergenau’r ASB a’r data gwerthfawr a gesglir i ganiatáu ar gyfer dadansoddi gwraidd y broblem

8.2    Dywedodd y pwyllgor ei bod yn hynod fuddiol clywed straeon personol y rheiny sy’n byw ag alergeddau. Roedd y drafodaeth wedi rhoi persbectif gwahanol ac wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn a fydd yn helpu i lywio gwaith yr ASB ar orsensitifrwydd i fwyd wrth symud ymlaen.

9.    Unrhyw fater arall

9.1    Nododd yr aelodau fod y cyfarfod nesaf â thema i’w gynnal ar 3 Chwefror 2022.