Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Ein hymrwymiad i bolisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal a chael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu a bwlio o bob math. Rydym ni’n hyrwyddo amgylchedd gweithio da a chytûn lle caiff pawb eu trin â pharch a lle na fydd unrhyw un yn goddef gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath.
Mae'n ofynnol i'n gweithwyr ac unigolion sy'n gweithio dan drefniadau contract ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth, ac i osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon.
Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Daeth Dyletswydd y Sector Cyhoeddus i rym ar 5 Ebrill 2011. Yn unol â'i ofynion, rydym wedi ymrwymo i roi sylw dyledus i:
- gael gwared ar wahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth
- hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng gwahanol grwpiau
- meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau
Mae deddfwriaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a gyflwynwyd yn 2017 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob cyflogwr sy'n cyflogi dros 250 o weithwyr gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a menywod, wedi'u mynegi mewn perthynas ag enillion dynion.
Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2021
Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2020
Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2019
Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2018
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2017 (Saesneg yn unig)
Adroddiad amrywiaeth
Mae ein hadroddiad amrywiaeth blynyddol yn adeiladu ar adroddiadau blaenorol ac yn cyflwyno crynodeb a throsolwg lefel uchel o ddata cydraddoldeb, gan gynnwys proffiliau'r gweithlu a gwybodaeth data monitro ar weithgareddau cyflogaeth.
Amcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth (Saesneg yn unig)
Mae ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn nodi blaenoriaethau cydraddoldeb ac amcanion mesuradwy. Mae'r adroddiad yn crynhoi ein cyfeiriad strategol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae'n dangos sut yr ydym ni’n cyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb ar lefel strategol, a cheisio parhau i wneud hynny.
England, Northern Ireland and Wales