Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyngor Adran 42

Cyngor a gyflwynwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban i’r Adran Busnes a Masnach ar ôl cael eu comisiynu o dan Adran 42.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi’u comisiynu gan yr Adran Busnes a Masnach i gyfrannu at adroddiad y llywodraeth (sy’n ofynnol o dan Adran 42(2) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020), fel rhan o’r broses graffu Seneddol ar gyfer Cytundebau Masnach Rydd. 

Gofynnwyd yn benodol i’r ASB ac FSS gynhyrchu cyngor ar y cyd ynghylch a yw’r mesurau mewn Cytundebau Masnach Rydd yn gyson, neu i ba raddau y maent yn gyson, â’r angen i gynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn ein cylchoedd gwaith. 

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyngor a gyflwynwyd gan yr ASB ac FSS i’r Adran Busnes a Masnach mewn ymateb i’w chomisiynau o dan Adran 42.

Cyngor Adran 42: Awstralia 

Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd y DU sydd â dyletswydd statudol i ddiogelu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, ar 8 Mawrth 2022 gofynnodd yr Adran Busnes a Masnach i’r ASB ac FSS ddarparu cyngor ar y cyd ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia.
 
Yn benodol, gofynnwyd i’r ASB ac FSS, yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ddarparu cyngor ynghylch a yw’r mesurau yn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia yn gyson, neu i ba raddau y maent yn gyson, â’r angen i gynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn cylch gorchwyl statudol yr ASB/FSS.
 
Mae’r ASB ac FSS wedi llunio adroddiad ar gyngor Adran 42 ar y Cyd – Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia, sydd wedi’i atodi i adroddiad Adran 42 yr Adran Busnes a Masnach.

Cyngor Adran 42: Cytundeb Masnach Rydd Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP)

Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd y DU sydd â dyletswydd statudol i ddiogelu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid ar draws y pedair gwlad, ar 17 Gorffennaf 2023, gofynnodd yr Adran Busnes a Masnach i’r ASB ac FSS ddarparu cyngor ar y cyd ar ymaelodaeth y DU â Chytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP). 

Yn benodol, gofynnwyd i’r ASB ac FSS, yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ddarparu cyngor ynghylch a yw’r mesurau yn y Cytundeb Masnach Rydd CPTPP, neu i ba raddau y maent yn gyson, â chynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn cylch gorchwyl statudol yr ASBFSS

Mae’r ASB ac FSS wedi  llunio adroddiad ar gyngor Adran 42 yr ASB ac FSS ar y cyd: Ymaelodaeth y DU â CPTPP, sydd wedi’i atodi i adroddiad Adran 42 yr Adran Busnes a Masnach.

Cyngor Adran 42: Seland Newydd 

Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd y DU sydd â dyletswydd statudol i ddiogelu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, ar 13 Mai 2022 gofynnodd yr Adran Busnes a Masnach i’r ASB ac FSS ddarparu cyngor ar y cyd ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd. 

Yn benodol, gofynnwyd i’r ASB ac FSS, yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ddarparu cyngor ynghylch a yw’r mesurau yn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd yn gyson, neu i ba raddau y maent yn cyson, â’r angen i gynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn cylch gorchwyl statudol yr ASB/FSS

Mae’r ASB ac FSS wedi llunio adroddiad ar gyngor Adran 42 ar y cyd – Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd, sydd wedi’i atodi i adroddiad Adran 42 yr Adran Busnes a Masnach.