Dr Rhian Hayward MBE – Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Proffil
Ymunodd Rhian ag AberInnovation fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2017, gan arwain y gwaith o adeiladu’r Campws Arloesedd gwerth £40.5 miliwn a’r mentrau sy’n cefnogi twf busnesau biowyddoniaeth cyfnod cynnar. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Rhian wedi bod yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU, wedi gweithio mewn swyddi cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethu ar Fwrdd Datblygu Diwydiannol Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod ac wedi dod yn un o Gymrodorion Sefydliad y Cyfarwyddwr.
Mae ymrwymiad Rhian i wyddoniaeth ac arloesi yn parhau, ar ôl sawl rôl ym maes masnacheiddio technolegau gwyddor bywyd, a hynny yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ymhlith y rhain, mae Rhian wedi sefydlu busnes ymgynghori i gynorthwyo buddsoddwyr gyda’r gwaith diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â busnesau sy’n seiliedig ar dechnoleg, gweithio mewn rolau marchnata a datblygu busnes mewn cwmnïau biotechnoleg (gan gynnwys Abcam plc) a gweithio mewn rolau trosglwyddo technoleg yn y sector Addysg Uwch. Mae ganddi DPhil mewn epidemioleg clefydau heintus o Brifysgol Rhydychen a BSc dosbarth cyntaf o Goleg y Brenin Llundain. Derbyniodd Rhian yr MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.
Cofrestr
Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).
Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.
Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.
- Prif Weithredwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyf
- Cyfarwyddwr Anweithredol Swyddfa Cymru, Llywodraeth y DU