Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

FSAW 22-04-01 - Cofnodion Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2022

Penodol i Gymru

Cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy Microsoft Teams.

Yn bresennol:

Aelodau o’r Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor) a oedd yn bresennol:

Peter Price, Cadeirydd; Alan Gardner; Dr Philip Hollington; Christopher Brereton OBE; Georgia Taylor; Dr John Williams; Helen Taylor; Jessica Williams

Swyddogion a oedd yn bresennol:

Julie Pierce – Cyfarwyddwr Cymru, Gwybodaeth a Gwyddoniaeth 
Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
Lucy Edwards – Rheolwr Busnes
Jonathan Davies – Pennaeth Polisi (Safonau) a Diogelu Defnyddwyr
Owen Lewis – Pennaeth Polisi (Hylendid) a’r Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
Ben Haden – Pennaeth Cyflawni Strategaeth
Sam Faulkner – Pennaeth yr Uned Strategaeth

Arsylwyr:

Caroline Kitson – Uwch-reolwr Cyfathrebu, yr ASB
Katie Mitchell – Uwch-gynghorydd Strategaeth
Nathan King – Uwch-gynghorydd Strategaeth
Kate Hargreaves – Pennaeth yr Uned Strategaeth
Kerys James-Palmer – Pennaeth Polisi Rheoleiddio

1. Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

1.1   Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru.

2. Datgan buddiannau

2.1   Ni wnaed unrhyw ddatganiadau newydd.

3. Diweddariad gan y Cadeirydd (Papur FSA 22/02/02)

3.1   Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr a’r papurau a drafodwyd yn niwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Bwrdd ym mis Ionawr. 

4. Diweddariad gan y Cyfarwyddwr (Papur FSA 22/02/03)

4.1   Yn absenoldeb y Cyfarwyddwr, cyflwynodd Jonathan Davies ac Owen Lewis yr adroddiad ysgrifenedig a oedd yn crynhoi prif weithgareddau’r ASB yng Nghymru ers y cyfarfod diwethaf ar 21 Hydref 2021.

5. Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

5.1   Cafwyd cyflwyniad ar Strategaeth yr ASB. Roedd y cyflwyniad yn egluro cenhadaeth a gweledigaeth yr ASB: Bwyd y gallwch ymddiried ynddo, Bwyd diogel, Bwyd sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label; Bwyd iachach a mwy cynaliadwy. Pwysleisiwyd y bydd yr ASB yn parhau i flaenoriaethu ein rôl graidd wrth ddiogelu defnyddwyr drwy atal clefydau a halogiad bwyd ac ymateb iddynt gan hefyd  roi hyder i ddefnyddwyr bod bwyd yn ddilys. Bydd yr ASB yn chwarae ein rhan wrth gefnogi partneriaid y llywodraeth ac eraill i’w gwneud hi’n hawdd i ddefnyddwyr gael mynediad at ddeiet iachach a mwy cynaliadwy.

5.2   Roedd y cyflwyniad hefyd yn amlinellu’r prif egwyddorion sy’n adlewyrchu cryfder yr ASB a’r hyn y mae am ei gynnal, a’r angen i foderneiddio ac esblygu dull yr ASB o ystyried system fwyd sy’n newid yn gyflym. 

5.3   Darparwyd gwybodaeth hefyd am yr amserlen a gweithrediad y strategaeth.

5.4   Roedd y Pwyllgor yn falch o gael y cyflwyniad, a gwnaed y sylwadau canlynol:

  • Ei fod yn falch o weld bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael ei chydnabod a’i hystyried, a’i fod yn hyderus bod yr ASB yng Nghymru yn gweithredu er budd y Ddeddf ym mhob agwedd ar ei gwaith.
  • Ei fod yn awyddus i ddeall sut y caiff effeithiolrwydd y strategaeth ei fesur ar draws y tair gwlad a sut y bydd gwahaniaethau ar draws y tair gwlad yn cael eu hystyried a’u gwerthuso.
  • Ei fod yn falch o weld gwaith trawslywodraethol mewn perthynas â chyfrifoldebau datganoledig fel labelu.
  • Bydd ganddo ddiddordeb mewn gweld sut mae Strategaeth yr ASB yn cyd-fynd â’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol gyfredol a’r un sydd ar y gweill yn Lloegr a’r strategaeth sy’n cael ei pharatoi yng Nghymru.
  • Bod angen i ddiffiniad ‘mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy’ fod yn glir, gyda’r holl wledydd yn gytûn. 

5.5   Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at weld y Strategaeth derfynol a phapur y Bwrdd

6. Rhagolwg y Pwyllgor

6.1   Bu’r Pwyllgor yn trafod pynciau o ddiddordeb ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys: 

  • Llaeth yfed amrwd
  • Byrgyrs heb eu coginio’n drylwyr
  • Rhith-gegin (dark kitchen)/busnesau bwyd heb eu cofrestru, a chyflenwyr ar-lein
  • Bwyd anifeiliaid
  • Ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • Bil Bwyd (Cymru)

6.2   Bydd y Cadeirydd a’r ysgrifenyddiaeth nawr yn gweithio ar ragolwg ar gyfer y cyfarfodydd â thema sydd i ddod yn 2022. 

7. Mapio rhwydweithiau’r Pwyllgor

7.1   Cynhaliodd y Cadeirydd ymarfer mapio rhwydweithiau gydag aelodau’r pwyllgor i bennu unrhyw gysylltiadau sy’n berthnasol i waith yr ASB y gellid eu harchwilio wrth drafod pynciau yn y dyfodol.

8. Unrhyw faterion eraill  

8.1   Nododd yr aelodau fod y cyfarfod nesaf â thema i’w gynnal ar 21 Ebrill yn swyddfa’r ASB yng Nghaerdydd.