Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

FSAW 22-10-01 - Cofnodion Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022

Penodol i Gymru

Cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy Microsoft Teams

Yn bresennol:

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:

Peter Price, Cadeirydd; Alan Gardner; Dr Philip Hollington; Christopher Brereton OBE; Georgia Taylor; Dr John Williams; Jessica Williams

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:

Julie Pierce – Cyfarwyddwr Cymru, Gwybodaeth a Gwyddoniaeth
Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
Lucy Edwards – Rheolwr Busnes
Jonathan Davies – Pennaeth Polisi (Safonau) a Diogelu Defnyddwyr

Observers:

Kerys James-Palmer- Head of Regulatory Policy
Representatives from Shared Regulatory Services (Vale of Glamorgan)
Torfaen County Borough Council
Representatives from CIEH

Arsylwyr:

Rebecca Lamb
Chris Stockdale
Bill MacDonald
Laura Broomfield
Yr Athro Huw Jones

1. Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

1.1   Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod. Nodwyd ymddiheuriadau gan Helen Taylor.

2. Datgan buddiannau

2.1   Ni wnaed unrhyw ddatganiadau newydd.

3. Technoleg Enetig – Bridio Manwl

3.1   Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB - Cafwyd cyflwyniad wedi’i recordio gan yr Athro Robin May i osod y cyd-destun gwyddonol ar gyfer Bridio Manwl ac amlinellu’r gwahaniaeth rhwng Addasu Genynnau a Golygu Genynnau. O ystyried ein rôl wrth gynnal diogelwch a hyder defnyddwyr mewn bwyd, esboniodd yr Athro Robin y bydd proses awdurdodi’r ASB ar gyfer bridio manwl yn cael ei hategu gan bum prif egwyddor; Diogelwch, Tryloywder, Cymesuredd, Olrheiniadwyedd a Meithrin Hyder Defnyddwyr.

3.2   Peter Quigley, Rebecca Lamb, Chris Stockdale, Tîm Polisi’r ASB – Eglurodd Rebecca mai nod y Bil yw tynnu bridio manwl allan o gwmpas rheoliadau Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMO). Arweiniodd Defra’r Bil yn Lloegr. Disgrifiodd Rebecca y broses seneddol a’r amserlenni disgwyliedig o ran cael cydsyniad brenhinol ar gyfer y Bil. Esboniodd Chris y bydd y Bil yn rhoi’r pŵer i’r ASB greu fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio organebau sydd wedi’u bridio’n fanwl at ddefnydd bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd hyn yn cyd-fynd â fframweithiau eraill ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig. Yn ogystal â’r fframwaith, bydd yr ASB yn creu ac yn cynnal cofrestr gyhoeddus newydd a fydd yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ac yn bodloni ymrwymiadau’r ASB mewn perthynas â thryloywder. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd wrth i’r ASB ddisgwyl i’r Bil ennill cydsyniad brenhinol, gan weithio gyda chydweithwyr ar draws yr asiantaeth. Mae dull gweithio ar draws y pedair gwlad yn cael ei gymhwyso wrth ddatblygu’r fframwaith newydd ynghyd ag ymgysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid.

3.3   Bill MacDonald, Llywodraeth Cymru - Eglurodd Bill nad oedd Golygu Genynnau’n flaenoriaeth i Weinidogion Llywodraeth Cymru cyn y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Dywedodd nad yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ar hyn eto, ond mae safbwynt y Gweinidog yn parhau i fod yn rhagofalus, a nodwyd bod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymchwilio ac yn casglu tystiolaeth i lunio ymateb. Dywedodd Bill fod Gweinidogion yn siomedig â’r lefel isel o ymgysylltu a thrafodaethau manwl ar y camau cynharaf posibl gyda Llywodraeth y DU, ond bod Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chydweithwyr yn Defra i gael rhagor o gyngor a goblygiadau i’r tri fframwaith y mae’r Bil yn effeithio arnynt. Mae angen ystyried hefyd sut mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn berthnasol yma a’r gwrthdaro rhwng deddfwriaethau gwahanol. Mae pryderon y bydd y Bil yn effeithio ar y sector organig gan fod yn rhaid iddynt wirio bod cadwyni cyflenwi yn rhydd rhag GMOs, a byddai diffyg darpariaeth ar gyfer labelu, olrhain ac adnabod y cynhyrchion bridio manwl hyn yn peri risg i’r diwydiant hwn yn ogystal â hyder defnyddwyr. Mae’n bosib yr effeithir ar fasnach yn yr un modd hefyd a gallai diffyg labelu, olrheiniadwyedd ac adnabod arwain at y posibilrwydd o golli mynediad i farchnadoedd yr UE. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio deall unrhyw faterion technegol ac effaith bosib yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu yn y Bil cyn gwneud penderfyniad. O safbwynt bwyd a bwyd anifeiliaid, mae cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos i roi cyngor i Weinidogion ac wedi cynghori ei bod yn hanfodol sicrhau bod cynhwysion bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddiogel. Mae'r tryloywder hwnnw a gwybod y prosesau y tu ôl i'r broses golygu genynnau yn bwysig, yn enwedig o ystyried bod angen parhaus am farcwyr genynnau ac olrhain. Mae pwysigrwydd sicrhau hyder ac ymwybyddiaeth defnyddwyr hefyd yn flaenoriaeth.

3.4   Yr Athro Huw Jones, Prifysgol Aberystwyth – Eglurodd Dr Jones fod ei adran yn y Brifysgol wedi esblygu o Fridfa Blanhigion Cymru i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Mae ymchwil yn canolbwyntio ar rywogaethau a mathau o blanhigion sy’n bwysig i amaethyddiaeth Cymru er enghraifft, meillion (clover), ceirch a rhygwellt (rye grass). Mae gan yr adran hefyd un o’r casgliadau hadau mwyaf yn y byd ar gyfer y rhywogaethau hyn sy’n adnodd hynod o bwysig. Mae golygu genynnau yn arf allweddol i ymchwil yr adran i drosi broses grai ddilyniannu DNA yn ddealltwriaeth o swyddogaeth genynnau er mwyn cael dealltwriaeth o’r ffordd y mae planhigion yn rhyngweithio â’i gilydd a’r amgylchedd. Pwrpas yr ymchwil yw trosi dilyniant DNA yn swyddogaeth a defnyddio’r genynnau hynny mewn ffyrdd arloesol a chymhwysol. Eglurodd Dr Jones fod yr adran yn defnyddio’r Archif Niwcleotid Ewropeaidd sydd â 2.6 biliwn o ddilyniannau o enynnau neu genomau, gyda thros 100,000 o ddilyniannau anodedig yn cael eu hychwanegu bob awr. Mae hwn yn adnodd enfawr i wyddonwyr Cymru. Dywedodd Dr Jones fod yr adran yn gweithio ar enynnau sy’n rheoleiddio goddefgarwch i straen amgylcheddol, ansawdd maethol, ymwrthedd i blâu a chlefydau, chwalu hadau, effeithlonrwydd defnyddio nitrogen a hunan-anghydnawsedd. Pwysleisiodd Dr Jones bwysigrwydd gallu mynd o’r cysyniad i’r labordy i’r maes, gan mai dim ond yn y cae y bydd y planhigion hyn yn rhyngweithio â’r hinsawdd a’r amgylchedd. Rhoddodd Dr Jones drosolwg o ymchwil ar gynyddu cynnwys lipidau planhigion ond o dan y ddeddfwriaeth bresennol, ni fyddent yn gallu mynd â’r ymchwil hwn i’r maes. Mae yna bryderon y bydd ymchwil Cymru yn cael ei adael ar ôl.

3.5   Laura Broomfield, Gwyddor Gymdeithasol yr ASB – Dywedodd Laura y byddai’n cyflwyno canfyddiadau ymchwil 2021 ynghylch canfyddiadau defnyddwyr o olygu genomau, a bwyd wedi’i olygu gan genomau a allai fod ar gael yn y DU. Defnyddiodd y tîm astudiaeth fethodoleg gymysg. Yn ystod Ionawr a Chwefror, cynhaliwyd cam ansoddol a oedd yn defnyddio gweithdai deialog cydgynghorol ar-lein, wedi’i bontio gan gymuned, gydag 80 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd cam meintiol a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein o dros 2000 o ddefnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dyna oedd prif ganfyddiadau’r ymchwil yn ôl Laura: roedd ymwybyddiaeth o fwydydd wedi’u golygu â genynnau yn isel; roedd pobl yn drysu rhwng y termau golygu genynnau (GE) ac wedi’u haddasu’n enetig (GM); roedd rhai cyfranogwyr yn meddwl bod bwydydd GM eisoes ar gael. O ran pryder defnyddwyr a derbynioldeb, roedd pryderon ynghylch cynhyrchion annaturiol, heb wybod yr effeithiau hirdymor ar iechyd pobl, lles anifeiliaid a phryderon ffermio. Dywedodd Laura fod cyfranogwyr yn fwy parod i dderbyn golygu genynnau pan oedd y pwnc yn canolbwyntio’n fwy ar blanhigion nag anifeiliaid. O ran rheoleiddio a labelu, roedd defnyddwyr o’r farn y gellid rheoleiddio GM a GE ar wahân ond y dylai’r broses reoleiddio fod yr un mor llym i’r naill a’r llall. Dylai holl gynhyrchion GE gael eu labelu’n glir a’u cyfleu i’r cyhoedd pan fyddant yn mynd ar farchnad y DU am y tro cyntaf. Daeth y cyfranogwyr yn fwy parod i dderbyn a bwyta bwydydd GE ar ôl y gweithdai. Dywedodd Laura fod y sampl yng Nghymru yn fach, ond bod dadansoddiad wedi’i gynnal ac nid oes gwahaniaeth arwyddocaol yng Nghymru a Lloegr o ran barn. Dywedodd Laura y bydd yr arolwg yn cael ei gynnal eto yng Nghymru a Lloegr gyda sampl mwy cynrychioliadol, o ystyried y newidiadau i’r cyd-destun nawr bod y Bil yn mynd drwy Senedd Prydain. Mae’r tîm hefyd yn cynllunio cyfres o fforymau defnyddwyr i gael mewnwelediadau ansoddol pellach ar y materion mwy cymhleth o ran sut y bydd yr ASB yn rheoleiddio Bridio Manwl a sut mae defnyddwyr am gael gwybod amdano.

4. Trafodaeth WFAC

4.1   Trafododd WFAC y cyflwyniadau ac adolygodd y 5 prif egwyddor o ran sut y bydd yr ASB yn ymdrin â maes Bridio Manwl. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

  • Mae’n bwysig cynnal perthnasoedd rhwng Defra, yr ASB a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau trafodaeth agored a rhannu gwybodaeth.
  • Mae’r pwyllgor yn nodi’r ymchwil sy’n cael ei wneud yn Aberystwyth a ledled Cymru.
  • Mae’n falch y bydd sampl mwy cynrychioliadol o Gymru yn yr arolwg nesaf o fewnwelediadau defnyddwyr.
  • Mae’n ymddangos bod diffyg gwybodaeth a rhywfaint o gamsyniad ymhlith defnyddwyr ar hyn o bryd, felly byddai angen i unrhyw negeseuon i ddefnyddwyr fod yn glir iawn er mwyn galluogi defnyddwyr i wneud dewis gwybodus.
  • Mae’n faes gwaith cymhleth iawn sy’n datblygu’n gyflym.

4.2   Yn gyffredinol, nid yw’r pwyllgor yn gwrthwynebu Bridio Manwl ond mae ganddo rai pryderon ynghylch sut y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chymhwyso.

5. Adroddiad y Cadeirydd (Papur 22/07/02)

5.1   Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar lafar ar ei adroddiad a dywedodd ei fod wedi ymweld â Phrifysgol Newcastle fel rhan o weithgareddau’r Bwrdd. Ymhelaethodd hefyd ar ymweliad Cadeirydd y Bwrdd â Chaerdydd ar gyfer digwyddiad y Senedd i lansio Adroddiad Blynyddol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar Safonau Bwyd.

6. Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 22/07/03)

6.1   Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad ar lafar ar ei adroddiad a nododd fod ymgysylltu bellach yn cynnwys ymgysylltiad ag Uwch-dîm yr ASB yng Nghymru. Tynnodd sylw hefyd at y cyflwyniad yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI) i Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf am eu gwaith ar yr adnoddau alergenau amlieithog.

7. Unrhyw fater arall

7.1   Nododd yr aelodau y byddai’r cyfarfod busnes nesaf yn cael ei gynnal ar 8 Medi a’r cyfarfod â thema nesaf yn cael ei gynnal ar 20 Hydref yng Ngogledd Cymru.

7.2   Nododd arsylwyr eu bod yn gwerthfawrogi bod y cyfarfodydd bellach yn sesiynau agored eto. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch cynnal cyfarfodydd busnes yn agored er mwyn galluogi rhanddeiliaid i gyfrannu ac i roi adborth. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod gyda chydweithwyr ac yn darparu ymateb.

7.3   Gwnaed sylw pellach y byddai’n fuddiol i wybodaeth gael ei rhoi ar y dudalen we cyn y cyfarfod er mwyn sicrhau cyfraniad ehangach gan randdeiliaid a allai fod â diddordeb.

       Cam Gweithredu: Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn datblygu cynllun cyfathrebu ar gyfer WFAC.

7.4 Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.