Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwaith rhyngwladol yr Asiantaeth

Mae gennym rwydwaith o gysylltiadau ledled y byd i sicrhau bod negeseuon yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gallu cyrraedd cynulleidfa eang a’i bod yn gallu elwa ar y gwaith diweddaraf ar ddiogelwch bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae gennym ni rwydwaith o gysylltiadau ledled y byd i sicrhau bod negeseuon yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gallu cyrraedd cynulleidfa eang a bod yr ASB yn gallu elwa ar y gwaith diweddaraf ar ddiogelwch bwyd.

Mae'r ASB yn gweithio ar fforymau rhyngwladol i ddiogelu bwyd sy'n dod i mewn i'r Deyrnas Unedig (DU) ac i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau rhyngwladol ym maes diogelwch bwyd. Rydym ni’n gweithio gyda'n partneriaid i ddylanwadu ar safonau diogelwch bwyd rhyngwladol. Mae hyn yn ein galluogi ni i sicrhau bod safonau byd-eang yn diogelu defnyddwyr yn y DU. 

Darllenwch ein strategaeth ryngwladol. Diweddarwyd Bwrdd yr ASB ar y strategaeth ym mis Mehefin 2022.

Mae'r dudalen hon yn rhestru rhai enghreifftiau o sut rydym yn ymgysylltu yn rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Dîm Strategaeth Ryngwladol drwy international.strategy@food.gov.uk.

Comisiwn Codex Alimentarius

Sefydlwyd Comisiwn Codex Alimentarius gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i ddatblygu safonau, canllawiau a chodau ymarfer bwyd rhyngwladol. Mae'r DU yn aelod gweithredol o Codex.

Mae safonau cytunedig yn wirfoddol ac felly nid yw aelod-wledydd yn eu gweithredu’n awtomatig. Fodd bynnag, caiff safonau Codex eu cydnabod fel testunau cyfeirio ar gyfer anghydfodau masnach sy’n cael eu dwyn o flaen Panel Anghydfodau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw prif Adran Llywodraeth y DU ar gyfer Codex. Mae'r ASB yn arwain llawer o bwyllgorau fertigol sy'n delio â hylendid bwyd, ychwanegion bwyd, samplu a dadansoddi dulliau, halogion bwyd a systemau ardystio mewnforion ac allforion. 

I gael rhagor o wybodaeth am Codex, cyfeiriwch at wybodaeth Defra am y safonau Codex.

Ar hyn o bryd, Steve Wearne yw Cadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius, y corff sy’n pennu safonau ansawdd a safonau bwyd yn fyd-eang. Cafodd ei ethol ym mis Tachwedd 2021 ac mae ar secondiad o’r ASB.  

Grwpiau Gwyddonol

Wrth wraidd gwerthoedd yr ASB yw bod ein penderfyniadau polisi a rheoleiddio yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Credwn yn gryf fod gwyddoniaeth yn parhau i fod wrth wraidd gwaith llunio polisïau rhyngwladol. Rydym ni’n cymryd rhan mewn ystod eang o grwpiau gwyddonol rhyngwladol mewn meysydd fel gwyddor gymdeithasol, economeg reoleiddiol ac alergenau bwyd.

Mae'r ASB yn cefnogi arbenigwyr yn y DU i gymryd rhan mewn pwyllgorau arbenigol, er enghraifft:

  • Cyd-bwyllgor Arbenigol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Ychwanegion Bwyd (JECFA) a gynhelir ddwywaith y flwyddyn 
  • Comisiwn Rhyngwladol ar y Manylebau Microbiolegol ar gyfer Bwydydd (ICMSF) – dyma ffynhonnell flaenllaw ar gyfer cyngor gwyddonol annibynnol i gyrff rhyngwladol sy’n pennu safonau

Llwyfannau rhyngwladol

Mae cyfarfodydd rhyngwladol yn llwyfan i rannu dysgu, manteisio ar arbenigedd a chyfleoedd byd-eang i gydweithio ar heriau diogelwch bwyd rhyngwladol. Rydym ni wedi elwa trwy gyfuno adnoddau a rhannu mynediad at yr arferion arloesol diweddaraf. Mae'r DU yn cymryd rhan ac yn cyfrannu at gyfarfodydd rhyngwladol i ddysgu neu rannu arfer gorau. Er enghraifft, rydym ni’n cymryd rhan weithredol yn y Gynghrair Fyd-eang ar Droseddau Bwyd, a'r Rhwydwaith Awdurdodau Diogelwch Bwyd Rhyngwladol (INFOSAN).