Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Hysbysiad preifatrwydd cofrestru busnesau bwyd

Gwybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd Cofrestru Busnesau Bwyd, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mawrth 2021

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion cyflawni ein rhwymedigaethau statudol, o dan Erthygl 113 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/625, ac fel a ddargedwir (retained) yng nghyfraith y Deyrnas Unedig (DU), ar reolaethau swyddogol i sicrhau bod manylion busnesau bwyd ar gael i bobl sy'n holi am statws cofrestru/cymeradwyo gweithredwyr busnesau bwyd.

Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Efallai y byddwn am gysylltu â chi i'ch gwahodd i roi adborth ar y gwasanaeth. Dim ond gyda'ch caniatâd y byddwn ni’n gwneud hyn.  

Beth sydd ei angen arnom a sut rydym ni'n ei ddefnyddio

Mae manylion sefydliadau bwyd cymeradwy i'w gweld ar wefan yr ASB. Mae’r rhestr o sefydliadau busnesau bwyd cofrestredig yn cael ei chyhoeddi gan yr awdurdod lleol perthnasol.

Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi'r wybodaeth hon ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth rydym ni wedi’i chael o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pan fyddwch yn darparu eich cyfeiriad e-bost ar y ffurflen adborth yn ystod eich cofrestriad neu'n cytuno i ni gysylltu â chi i roi adborth ar y gwasanaeth ar ddiwedd y broses gofrestru, gall yr ASB, neu un o'n partneriaid ymchwil sy'n gweithio ar ein rhan, gysylltu â chi at y pwrpas hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â  futuredelivery@food.gov.uk

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon cyhyd â bod busnes wedi'i gofrestru a/neu ei gymeradwyo fel gweithredwr busnes bwyd. Cedwir rhestrau hanesyddol o fusnesau cofrestredig a/neu rai wedi'u cymeradwyo am 6 blynedd.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, caiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo i'r awdurdod lleol perthnasol sydd â chyfrifoldeb dros arolygu busnesau bwyd. Weithiau bydd yr ASB yn rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, a gyda’r rhain a sefydliadau ac unigolion preifat eraill, fel gweithredwyr busnesau bwyd, pan fydd er budd y cyhoedd. Efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu'r data fel rhan o waith gwerthuso a dadansoddi risg gyda chyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill, fel Safonau Masnach ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, am yr un rhesymau.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)  

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.