Hysbysiad Preifatrwydd – Tystysgrif Cymhwysedd a Thystysgrif Cymhwysedd Dros Dro
Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd mewn perthynas â'r Dystysgrif Cymhwysedd Dros Dro (TCoC) a'r Dystysgrif Cymhwysedd (CoC), pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.
Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithredu fel 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.
Pam mae angen yr wybodaeth hon?
Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu prosesu'ch cais am Dystysgrif Cymhwysedd.
Mae'r ASB yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych chi yn y ffurflen hon wrth gyflawni ei dyletswyddau statudol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad statudol a gallai methu â darparu'r wybodaeth olygu nad yw'r ASB yn gallu prosesu eich cais.
Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu?
Mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei phasio i Lywodraeth Cymru, awdurdodau llywodraeth leol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.
Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 60 mlynedd wedi iddi ddod i law.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)
I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler adran dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Eich hawliau
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.
Hanes diwygio
Published: 15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Chwefror 2021