Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Jessica Williams - Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Dechreuodd gyrfa Jessica ar ôl cymhwyso fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (EHO) yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2006. 

Bu’n gweithio am 13 mlynedd gydag Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Gwynedd gan arbenigo mewn Hylendid Bwyd, Safonau Bwyd a Chlefydau Heintus.
 
Yn 2008 cafodd Jessica Ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru i fynd i Awstralia. 

Daeth Jessica yn Arweinydd Agrisgôp yn 2017, a hithau’n hunangyflogedig, gan ddarparu hyfforddiant busnes a datblygiad personol i Fusnesau Ffermydd trwy Raglen Cyswllt Ffermio Agrisgôp Llywodraeth Cymru. 

Ers hynny mae hi wedi llwyddo i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arwain Newid trwy Brifysgol Aberystwyth. 

Mae Jessica bellach yn byw yng nghefn gwlad Cymru yn Nhywyn, Gwynedd lle mae’n ffermio gyda’i gŵr a’i theulu ifanc.