Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Junior Johnson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Dyma lun o Junior Johnson, sef Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ymunodd Junior Johnson â’r ASB ym mis Mai 2022. Fel y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, mae’n gyfrifol am reoleiddio a chyflawni rheolaethau swyddogol ar gyfer cig, cynnyrch llaeth a gwin yng Nghymru a Lloegr. Mae ei rôl yn cynnwys ymateb i ddigwyddiadau o ran diogelwch bwyd ac achosion o alw cynhyrchion yn ôl. Mae ei rôl hefyd yn cynnwys erlyn pan fo twyll a throseddau bwyd, sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cynnal, ymgymryd ag archwiliadau o fusnesau bwyd domestig ac awdurdodau rhyngwladol i sicrhau masnach y DU. Mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid, busnesau a’r llywodraeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Junior hefyd yw’r uwch-noddwr ar gyfer Rhwydwaith Hil ac Ethnigrwydd a Rhwydwaith Staff Rhyngwladol yr ASB.

Cyn ymuno â’r ASB, bu Junior yn gweithio yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yno, roedd yn gyfrifol am gytuno ar ganlyniadau perfformiad ar draws carchardai a sicrhau tryloywder ar draws y system carchardai a phrawf, gan weithio’n agos â chyrff hyd braich annibynnol, a oedd â’r nod o wella atebolrwydd, safonau a chanlyniadau i droseddwyr trwy eu trefniadau monitro ac arolygu. Cyn hyn, roedd yn gyfrifol am ddiwygio Gweithlu a Chyflog Carchardai a gweithredu strategaeth newydd ar gysylltiadau gweithwyr.

Mae Junior hefyd wedi gweithio yn yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn amrywiaeth o rolau, am fwy nag 20 mlynedd. Fel Pennaeth Trawsnewid Gwasanaeth a Gallu ar gyfer Gweithrediadau Credyd Cynhwysol, roedd yn gyfrifol am Drawsnewid y Farchnad Lafur, Meithrin Arweinyddiaeth a Gallu Digidol, a datblygu a gweithredu fframwaith perfformiad newydd. 

Mae gan Junior gefndir da o ran cyflawni gweithrediadau ar ôl bod yn uwch arweinydd mewn rolau amrywiol ar draws Llundain a’r Deyrnas Unedig. Arweiniodd hefyd dîm a oedd yn gyfrifol am gydlynu ymateb y Ganolfan Byd Gwaith i’r dirywiad economaidd yn dilyn secondiad yn Rhif 10. Mae hefyd wedi datblygu a gweithredu cyfres o bolisïau a strategaethau ac wedi arwain cyfres o brosiectau a rhaglenni newid.     

Mae Junior yn mwynhau mentora ac mae’n ymwneud â sawl elusen a sefydliad sy’n helpu i wella dyfodol pobl ifanc yn ei gymuned leol.