Louise Hoste – Aelod o Fwrdd yr ASB
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Louise Hoste - Aelod o Fwrdd yr ASB
Proffil
Mae Louise Hoste yn arweinydd profiadol ym maes manwerthu, ac yn gyfarwyddwr anweithredol gyda mwy na 35 mlynedd o brofiad yn y sectorau bwyd, cyfleustra a nwyddau cyffredinol. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi cyfuno arweinyddiaeth fasnachol ymarferol ag arbenigedd llywodraethu cryf. Mae hi wedi cyflawni rolau lefel uchel, gan gynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr SPAR UK a Chyfarwyddwr Masnachol Gweithredol The Card Factory PLC.
Fel cadeirydd bwrdd ac arweinydd pwyllgor, mae Louise wedi ysgogi gwelliannau llywodraethu, trawsnewid strategol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws sefydliadau amrywiol. Mae hi wedi arwain mentrau i ail-lunio modelau masnachol, moderneiddio fframweithiau llywodraethu, a meithrin byrddau cynhwysol sy’n adlewyrchu lleisiau’r aelodau.
Gyda phrofiad helaeth mewn busnesau manwerthu rhyngwladol fel ASDA a Walmart, yn ogystal â busnesau teulu a busnesau sy’n eiddo i aelodau, mae Louise yn dod â phersbectif eang ar strategaethau manwerthu, cyflawni gweithredol, a chynaliadwyedd. Mae hi’n adnabyddus am fod yn arweinydd diffuant, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a data, mentora talent a symleiddio heriau cymhleth.
Cofrestr
Gofynnir i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau partïon cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiad allanol y ceir tâl amdanynt (p’un a ydynt yn berthnasol ai peidio).
Gall unigolyn fod â buddiannau eraill ac, er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir nad ydynt yn berthnasol i rôl yr Aelodau ac felly nid ydynt o fewn y cwmpas ar gyfer cyhoeddi.
Mae’r adran yn rheoli’r holl fuddiannau perthnasol i atal y risg o wrthdaro buddiannau canfyddedig, posib neu wirioneddol.
- Portffolio buddsoddi mewn pensiynau a reolir gan drydydd parti
- Cyfranddaliwr gyda Walmart
- Cyfranddaliwr gyda GSK
- Cynghorydd ar gyfer ‘Stuart’, sef busnes cyflawni ar alw