Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol

Mae gwaith y pwyllgorau a’r gweithgorau annibynnol sy’n ein cynghori ni yn helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a mwyaf diweddar.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Hwb y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol

Mae Hwb Pwyllgorau Cynghori Gwyddoniaeth(link is external) (Opens in a new window) yn darparu mynediad i’n holl bwyllgorau yn ogystal â man storio ar gyfer dogfennau traws-bwyllgor.

Ein Pwyllgorau

Cyngor Gwyddoniaeth

Mae Cyngor Gwyddoniaeth(link is external) (Opens in a new window) yr ASB yn bwyllgor arbenigol annibynnol o’r ASB, sy’n cynnwys Cadeirydd a saith aelod. Mae’n darparu mewnwelediad, her a chyngor strategol lefel uchel, arbenigol i’n Prif Gynghorydd Gwyddonol, y Bwrdd a gweithrediaeth yr ASB ar ein defnydd o wyddoniaeth i gyflawni amcanion yr ASB.

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd a Phrosesau Newydd 

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP)(link is external) (Opens in a new window) yn gorff anstatudol o arbenigwyr gwyddonol annibynnol sy’n cynghori’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â bwydydd newydd (gan gynnwys bwydydd wedi’u haddasu’n enetig) a phrosesau newydd (gan gynnwys arbelydru bwyd).

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd(link is external) (Opens in a new window) yn rhoi cyngor arbenigol i’r llywodraeth ar gwestiynau sy’n ymwneud â materion microbiolegol a bwyd.

Pwyllgor ar Wenwyndra

Mae’r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT)(link is external) (Opens in a new window) yn bwyllgor gwyddonol annibynnol sy’n rhoi cyngor i’r ASB, yr Adran Iechyd ac Adrannau ac Asiantaethau eraill y Llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â gwenwyndra cemegau. 

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF)(link is external) (Opens in a new window) yn cynghori ar ddiogelwch a defnyddio bwydydd anifeiliaid ac arferion bwydo, gyda phwyslais arbennig ar ddiogelu iechyd pobl, a thrwy gyfeirio at ddatblygiadau technegol newydd.

Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol (link is external) (Opens in a new window)yn darparu cyngor strategol arbenigol i’r ASB ar ei defnydd o’r gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys dulliau, prosesau a systemau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg i holi data, i gyflawni amcanion yr ASB. Ei bwrpas yw helpu’r ASB i ddefnyddio’r gwyddorau a’r dulliau hyn o lunio a chyflawni ei hamcanion strategol a deall ei heffaith.

Pwyllgorau nad ydynt yn rhan o’r ASB

Pwyllgor ar Garsinogenedd (Carcinogenicity)

Mae’r Pwyllgor ar Garsinogenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd(link is external) (Opens in a new window) yn asesu ac yn rhoi cyngor ar risg carsinogenig i bobl.

Pwyllgor ar Fwtagenedd

Mae’r Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COM) yn asesu ac yn cynghori ar risgiau mwtagenig i bobl. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor ar Fwtagenedd(link is external) (Opens in a new window) ar GOV.UK.

Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol 

Sefydlwyd y Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol (VPC) i gynghori ar ddiogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd meddyginiaethau milfeddygol, ac i ystyried adroddiadau am adweithiau niweidiol i feddyginiaethau milfeddygol o dan amheuaeth.

Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus

Mae Is-grŵp Asesu Peryglon TSE y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus (ACDP) wedi’i sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol yn y maes hwn i’r ASB ac adrannau eraill, yn dilyn diddymu’r Pwyllgor Cynghori Enseffalopathi Sbyngffurf (SEAC) yn 2011.

Pwyllgor Arbenigol y DU ar Blaladdwyr  

Mae Pwyllgor Arbenigol y DU ar Blaladdwyr (ECP)(link is external) (Opens in a new window) yn rhoi cyngor annibynnol, diduedd i’r llywodraeth ar bob mater gwyddonol sy’n ymwneud â phlaladdwyr. Mae’r aelodau’n darparu cyngor gwyddonol ar awdurdodi plaladdwyr a materion eraill sy’n ymwneud â phlaladdwyr.

Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth

Mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN)(link is external) (Opens in a new window) yn bwyllgor ymgynghorol ledled y DU yn lle’r Pwyllgor ar Agweddau Meddygol Polisi Bwyd a Maeth (COMA)

Pwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd

Disodlwyd y Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr (PRiF) gan Bwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd. Mae’n darparu cyngor gwyddonol annibynnol ar weddillion plaladdwyr ym mwyd y Deyrnas Unedig (DU).

Mae’r Pwyllgor yn cynghori Gweinidogion a’n Prif Weithredwyr a’r Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion (CRD) ar gynllunio rhaglenni gwyliadwriaeth ar gyfer gweddillion plaladdwyr yng nghyflenwad bwyd y DU a gwerthuso’r canlyniadau, a gweithdrefnau ar gyfer samplu, prosesu samplau a dulliau dadansoddi newydd.

Pwyllgorau sydd wedi dod i ben

Yn dilyn adolygiad o bwyllgorau cynghori gwyddonol, disodlwyd Pwyllgor Cynghori Cyffredinol ar Wyddoniaeth (GACS) (link is external) (Opens in a new window)gan Gyngor Gwyddoniaeth newydd ar 1 Ebrill 2017 a’r Pwyllgor Ymchwil Gwyddoniaeth Gymdeithasol (SSRC)(link is external) (Opens in a new window) gan Bwyllgor Cynghori ar gyfer Wyddoniaeth Cymdeithasol (ACSS)(link is external) (Opens in a new window) ym mis Ebrill 2018. Mae gweithgor y Pwyllgor Cynghori Traws Wyddonol ar y fframwaith ar gyfer bwydydd sy’n peri risg, a sefydlwyd yn 2016, wedi cau.