Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Rebecca Sudworth

Ymunodd Rebecca â’r ASB ym mis Ebrill 2019 fel Cyfarwyddwr Polisi.

Mae gan Rebecca brofiad helaeth fel Uwch-was Sifil yn y Trysorlys ac yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn ei swyddi blaenorol yn y gwasanaeth sifil, bu hi’n canolbwyntio ar bolisi cymdeithasol – yn benodol dylunio a diwygio budd-daliadau, polisi’r farchnad lafur a rhaglenni i gefnogi’r bobl fwyaf difreintiedig i ddod o hyd i waith.

Yn fwy diweddar, bu Rebecca’n Gyfarwyddwr Strategaeth yn Peabody, un o gymdeithasau tai fwyaf y Deyrnas Unedig, ac yn City, Prifysgol Llundain. Bu hi hefyd yn Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Shaw (elusen genedlaethol yn helpu pobl i gael addysg, i ddod o hyd i waith, i ddatblygu eu gyrfa, i wella eu llesiant neu i ailadeiladu eu bywydau) ac yn Gadeirydd i Ixion Holdings, sef is-gwmni Ymddiriedolaeth Shaw sy’n darparu cyfleoedd addysg a dysgu ar draws y wlad.