Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Sicrwydd Mynediad i’r Farchnad Fewnforio

Rhaid i unrhyw wlad sy’n dymuno allforio anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (gan gynnwys bwyd) i Brydain Fawr wneud cais am fynediad i’r farchnad a chael cymeradwyaeth gan lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU).

Rhoi cymeradwyaeth i allforio cynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr

Rhaid i unrhyw wlad sy’n dymuno allforio cynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys bwyd) i Brydain Fawr gael cymeradwyaeth i wneud hynny yn gyntaf gan lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU). Dim ond awdurdodau cymwys (nid busnesau bwyd na chyrff masnach) sy’n gallu gwneud cais am gymeradwyaeth i allforio cynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr.

Er mwyn mewnforio cynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr, rhaid bodloni amodau diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd penodol (mae angen bodloni amodau eraill, er enghraifft mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid):

  1. Rhaid i’r wlad sy’n allforio fod â system rheoli diogelwch bwyd genedlaethol effeithiol ar waith i sicrhau bod allforion i Brydain Fawr yn cael eu cynhyrchu i’n safonau ni, a’u bod wedi’u hasesu a’u cymeradwyo gan Brydain Fawr.
  2. Rhaid i’r wlad sy’n allforio fod â chynllun rheoli gweddillion ar waith sydd wedi’i asesu a’i gymeradwyo gan Brydain Fawr.
  3. Unwaith y bydd gwlad wedi’i chymeradwyo, rhaid i unrhyw sefydliad sy’n dymuno allforio gael ei gymeradwyo gan awdurdod cymwys y wlad honno.

I wneud cais am gymeradwyaeth mynediad i’r farchnad, neu i ddiwygio’r gymeradwyaeth, rhaid i awdurdodau cymwys yn gyntaf anfon e-bost i Defra yn ukassurance@defra.gov.uk.

Dull traws-lywodraethol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw awdurdod cymwys canolog y DU ar gyfer masnachu cynhyrchion bwyd-amaeth.  Swyddfa’r DU ar gyfer Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol sy’n gyfrifol am gydlynu ceisiadau mynediad i’r farchnad ar draws y llywodraeth.

Rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Mae’r ASB yn sicrhau bod diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol yn y broses o wneud penderfyniadau trawslywodraethol ynghylch mynediad i’r farchnad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod bwyd wedi’i fewnforio yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Sefydlodd yr ASB ddau dîm (Sicrwydd Mynediad i’r Farchnad Fewnforio ac Archwilio a Sicrwydd Masnach Ryngwladol), gan dynnu ar arbenigedd o bob rhan o’r ASB, i weithio gyda Defra. Mae’r ASB yn gwerthuso ceisiadau mynediad i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid mewn perthynas â risgiau i iechyd y cyhoedd (Defra sy’n asesu risgiau i iechyd anifeiliaid). Mae’r ASB yn gwneud hyn er mwyn rhoi sicrwydd bod systemau rheoli diogelwch bwyd cenedlaethol priodol ar waith gan unrhyw wlad sy’n gwneud cais am fynediad i’r farchnad er mwyn allforio bwyd i Brydain Fawr, a bod y rheolaethau hyn yn cael eu cymhwyso’n briodol. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod bwyd sy’n cael ei allforio o wledydd eraill yn bodloni safonau diogelwch bwyd cadarn Prydain Fawr.

Mae’r ASB hefyd yn monitro gwledydd sydd eisoes wedi’u hawdurdodi i allforio bwyd i Brydain Fawr ar gyfer arwyddion o broblemau posib gyda’u systemau rheoli diogelwch bwyd cenedlaethol, a bydd yn gweithredu lle bo’n briodol.

Y broses asesu

Mae proses drawslywodraethol gadarn ar waith i asesu ceisiadau mynediad i’r farchnad gan bartneriaid masnachu. Lle bo angen, mae’n bosib y cynhelir archwiliad dilysu yn y wlad i gadarnhau bod systemau rheoleiddio a sicrwydd iechydol a ffytoiechydol gwlad allforio’n cael eu gweithredu’n effeithiol.

Ar ôl cwblhau’r asesiad mynediad i’r farchnad, mae Defra yn cyhoeddi’r adroddiad archwilio terfynol ar GOV.UK. Mae’r adroddiad yn cynnwys y sylwadau a wnaed yn ystod yr archwiliad dilysu yn y wlad, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu a argymhellir i’r wlad sy’n gwneud cais. Mae ymateb y wlad sy’n gwneud cais hefyd yn cael ei gyhoeddi, gyda manylion unrhyw gamau unioni neu ataliol i’w cymryd yn dilyn yr archwiliad.

Yn dilyn canlyniad yr archwiliad, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gamau unioni neu ataliol sydd wedi’u cynllunio gan y wlad allforio, ystyrir penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu mynediad i’r farchnad.

Argymhellion yr ASB

Mae’r ASB yn darparu argymhellion ysgrifenedig i Defra yn ein maes cymhwysedd (diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd) er mwyn bwydo i mewn i’r broses drawslywodraethol o wneud penderfyniadau ac i gynnig gwledydd ar gyfer archwiliadau ar sail risg. Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.

Ebrill 2023

Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yng Ngwlad Pwyl, i asesu’r modd y caiff Salmonela ei ganfod a’i reoli mewn cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod sy’n cael eu hallforio o Wlad Pwyl i’r DU.

Mehefin 2023

Argymhelliad yr ASB ar reolaethau mewnforio ar gig eidion a dofednod a chynhyrchion cig o Frasil, sy’n cytuno â’r penderfyniad i gael gwared ar reolaethau mewnforio uwch ar gig eidion a dofednod o Frasil ac i ddileu’r cyfyngiad ar Frasil i restru sefydliadau dofednod a chig eidion i’w hallforio i Brydain Fawr.

Add to smarter communications search Off