Neidio i’r prif gynnwys

Ymateb i argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol adroddiad ar effeithiolrwydd y trefniadau rheoleiddiol cyfredol er mwyn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Fel rhan o'r adroddiad hwn, cynigodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nifer o argymhellion i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac adrannau eraill y llywodraeth.

Derbyniodd yr ASB yr holl argymhellion ar y pryd, ac rydym ni bellach yn darparu diweddariad o’n cynnydd a’n hymatebion i’r argymhellion

Argymhellion ac ymatebion

Dylai’r ASB sefydlu’r rôl y mae samplu yn ei chwarae wrth leihau risgiau i ddefnyddwyr. Fel rhan o’i gwaith ar ddatblygu strategaeth samplu, dylai asesu pa ddull a lefel samplu sydd eu hangen i roi sicrwydd bod risgiau bwyd, gan gynnwys twyll bwyd, yn cael eu rheoli’n effeithiol gan fusnesau bwyd.

Mae'r ASB wedi datblygu strategaeth samplu yn sgil adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae'r strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd samplu ac yn ei ystyried yn adnodd gwerthfawr na ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun ond fel rhan o ddull rheoleiddiol eang, gyda fframwaith cadarn ar waith i’w gefnogi. O ystyried y dull hwn, mae’r ASB wedi cynyddu ei weithgareddau gwyliadwriaeth samplu ar gyfer manwerthu a mewnforion.

Rydym ni’n cynnal rhaglenni gwyliadwriaeth samplu pellach yn 2021-22, sy’n adeiladu ar ganlyniadau gwaith blaenorol. Rydym ni’n cynhyrchu adroddiad gwyliadwriaeth blynyddol a metrigau ar gyfer y Bwrdd sy’n amlinellu ein cynnydd, heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. 

Dylai’r ASB fynd i'r afael â bylchau mewn mesurau a thargedau ar gyfer asesu cydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd a safonau cyfansoddiad.

Cyflwynir ein prif fesurau a thargedau sy'n seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer asesu a monitro diogelwch a safonau bwyd i Fwrdd yr ASB bob chwarter. Mae’r rhain yn esblygu dros amser er mwyn parhau i fod yn gyson â'n cenhadaeth, ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau. Yn benodol, gwnaethom gyflwyno mesurau yn ddiweddar (Chwarter 3, 20/21) i allu adrodd ar berfformiad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a pherfformiad Dilysrwydd a Samplu (Chwarter 4 20/21). Wedyn, rydym ni’n bwriadu adrodd ar fesurau mewn perthynas â Gorsensitifrwydd i Fwyd yn 21/22, yn ogystal ag adroddiadau ychwanegol ar agweddau eraill ar samplu bwyd. 

Dylai'r ASB fwrw ymlaen â datblygu dangosyddion ar gyfer asesu perfformiad awdurdodau lleol wrth roi sicrwydd bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â safonau bwyd.

Dechreuon ni dreialu model cyflenwi safonau bwyd newydd ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2021. Rydym ni wedi nodi dangosyddion posibl ar gyfer asesu perfformiad awdurdodau lleol, a byddwn yn eu profi yn ystod y cynlluniau peilot a fydd yn cael eu cynnal hyd at fis Ionawr 2022. Rydym ni’n bwriadu cyflwyno’r model cyflenwi safonau bwyd newydd i awdurdodau lleol yn ystod 2023. Erbyn hyn, bydd perfformiad awdurdodau lleol yn cael ei asesu yn erbyn y metrigau newydd. . 

Dylai’r ASB fwrw ymlaen â datblygu mesurau i weld a yw’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn cael effaith wrth fynd i’r afael â thwyll bwyd. 

Rydym ni’n adrodd ar berfformiad yr Uned i Fwrdd yr ASB bob chwarter, ac mae’r adroddiad perfformio hwn wedi’i gyhoeddi. Mae’r drafodaeth ar yr adroddiad perfformio’n cael ei chynnal yn gyhoeddus. Mae’n cael ei ffrydio’n fyw gan sicrhau ei bod hefyd ar gael i’w gweld yn nes ymlaen. Mae'r Uned bellach yn gweithio gyda’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) i sicrhau bod ein gweithgarwch i darfu ar droseddau bwyd yn cael ei adlewyrchu yn y data cenedlaethol mewn perthynas ag ymyriadau sy'n mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol. 

Dylai’r ASB osod targed ar gyfer pryd y bydd yn sefydlu cyfres o ddangosyddion i fesur a yw’r ASB yn effeithiol wrth roi sicrwydd i ddefnyddwyr fod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Fel y nodwyd ar gyfer argymhelliad dau, rydym ni’n adrodd ar ystod eang ac esblygol o ddangosyddion i fesur ein heffeithiolrwydd. Credwn fod gennym ni gyfres o ddangosyddion i asesu p’un a yw bwyd cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label (yn ogystal â ph’un a yw bwyd yn ddiogel). Bydd y rhain yn parhau i esblygu, a bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno dros amser. Mae hyn yn cynnwys mesur newydd ar gyfer Gorsensitifrwydd i Fwyd sy’n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 21/22.

TDylai’r ASB fwrw ymlaen â'i huchelgais o'i gwneud hi'n orfodol i arddangos sgoriau hylendid bwyd mewn busnesau bwyd yn Lloegr. Gan gydnabod y gofyniad am ddeddfwriaeth a’r gofynion ar amser y Senedd ar hyn o bryd, dylai’r ASB geisio gwneud hyn o fewn cyfnod amser sy’n rhesymol bosibl i wella’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr. 

Rydym ni’n parhau i geisio cefnogaeth weinidogol a chyfrwng deddfwriaethol ar gyfer hyn.

Dylai'r ASB fynd i'r afael â bylchau yn y pwerau gorfodi, gan gynnwys y rhai sydd ar gael i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd. O ystyried y cyllid ychwanegol sydd wedi'i neilltuo i’r Uned, dylai'r ASB wneud cynlluniau cadarn i ddarparu'r pwerau sydd eu hangen ar yr Uned i weithio'n annibynnol. 

Rydym ni wedi cyfathrebu ein gofyniad am roi pwerau ychwanegol i’r Uned i swyddogion a gweinidogion ledled Whitehall, ac mae'r gwaith yn parhau i bennu'r llwybrau gorau i gael y pwerau hynny.

Dylai'r sefydliadau yn y system rheoleiddio bwyd weithio gyda'i gilydd i asesu teimlad y llywodraeth am risgiau ac i wneud penderfyniadau ar lefel yr arian sydd ei hangen i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i'w fwyta a’i fod yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label. Dylai’r sefydliadau ystyried manteision a risgiau ystod o opsiynau dosbarthu cyllid er mwyn sicrhau system reoleiddiol gynaliadwy.

Gallai’r rhain gynnwys adennill costau gan fusnesau, systemau rheoli canolog cenedlaethol neu ystod o fodelau comisiynu. 

Rydym ni’n gweithio'n agos â sefydliadau ar draws y llywodraeth a gyda Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) (sef yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau erbyn hyn) mewn ymateb i heriau parhaus o ran cyllid ar draws y system rheoleiddio bwyd. Nid yw’r heriau hyn yn gyfyngedig i reoleiddio bwyd ond maent hefyd yn berthnasol ar draws ystod o wahanol wasanaethau rheoleiddio. Trwy weithio gyda MHCLG, rydym ni wedi cyflwyno ein dadleuon ar roi cyllid i awdurdodau lleol fel rhan o'r cyflwyniad adolygu gwariant ehangach cyn y gyllideb nesaf.

Byddwn ni’n parhau i weithio ar draws y Llywodraeth, gyda MHCLG, Trysorlys Ei Mawrhydi ac adrannau eraill i gytuno ar lefel y cyllid sydd ei hangen, y dull a’r opsiynau dosbarthu ar gyfer sicrhau’r cyllid hwnnw, ochr yn ochr â datblygu opsiynau ar gyfer dylunio’r system reoleiddio yn y dyfodol trwy ein rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau.

O fewn chwe mis i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE), dylai'r ASB ddechrau gweithio'n agos gyda'r adrannau eraill yn y system reoleiddio i werthuso effeithiau ymadael â'r UE yn y tymor canolig a'r tymor hwy ar allu'r system rheoleiddio bwyd a diffygion posibl mewn adnoddau, a nodi amserlen ar gyfer adrodd. Dylai nodi’r hyn sydd angen ei wneud i liniaru risgiau a gwneud cynlluniau nawr i osgoi digwyddiadau bwyd, a allai effeithio ar hyder yn y dyfodol ac ar berthnasoedd masnachu.

Bydd hyn yn gofyn am ddadansoddiad ar sail sefyllfaoedd o reolaethau posibl yn y dyfodol ar fewnforion, diogelwch bwyd ychwanegol a gwiriadau safonau y gallai fod eu hangen er mwyn cefnogi allforion y DU. Bydd hefyd yn gofyn am asesiad o effaith nifer cynyddol y mewnforion gan bartneriaid masnachu newydd. 

Ers ymadael â’r UE, rydym ni wedi parhau i fonitro sut y gweithredir newidiadau sy'n gysylltiedig ag Ymadael â'r UE, sydd wedi cynnwys cynnal adolygiad manwl ar ddigwyddiadau a barn defnyddwyr. Rydym ni’n parhau i fonitro'r rhain wrth symud ymlaen, ond nid oes tystiolaeth hyd yn hyn o unrhyw newid i risg diogelwch bwyd o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r UE. Yn fwy eang, mae rhai o’r newidiadau sydd ar y gweill o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r UE yn cael eu cyflwyno'n raddol, yn enwedig mewn perthynas â rheolaethau ar symud nwyddau o'r UE. Rydym ni’n defnyddio'r amser ychwanegol hwn i sicrhau bod adrannau eraill, fel Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yn deall yn llawn ein rôl yn y meysydd hyn, ac yn gweithio gyda’n hanghenion mewn prosiectau yn y dyfodol.

Rydym ni hefyd yn bwrw ymlaen ag ystod o weithgareddau i sicrhau bod newidiadau posibl i batrymau masnach yn cael eu deall a'u cynllunio, a byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar safonau bwyd.