Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymdrin â datgeliadau

Gwybodaeth am roi gwybod os ydych yn amau unrhyw gamymddwyn a sut y caiff chwythwyr chwiban eu diogelu wrth gyflwyno datgeliad.

Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn diogelu gweithwyr rhag triniaeth niweidiol neu erledigaeth gan eu cyflogwr os ydyn nhw’n datgelu unrhyw gamymddwyn. Mae’r Ddeddf yn berthnasol yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban – mae deddfwriaeth wahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Rydym yn berson rhagnodedig o dan Orchymyn Datgelu er Lles y Cyhoedd (Personau Rhagnodedig) 2014. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr, contractwyr, hyfforddeion neu staff asiantaeth sy’n ymwybodol o gamymddwyn yn y diwydiant bwyd ac sy’n dewis rhoi gwybod amdano i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael eu gwarchod gan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd os ydynt yn dilyn gweithdrefn benodol.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gamymddwyn a amheuir mewn perthynas â lles anifail adeg ei ladd. Bydd unrhyw ddatgeliad cymwys a gyflwynir i ni yn cael ei ‘ddiogelu’ os yw’r gweithiwr yn cymryd y camau canlynol:

  • mae’n gwneud y datgeliad er lles y cyhoedd
  • mae’n credu’n rhesymol fod y methiant yn effeithio ar iechyd unrhyw aelod o’r cyhoedd mewn perthynas â bwyta bwyd, neu ei fod yn fater sy’n ymwneud â diogelu defnyddwyr bwyd yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
  • mae’n credu’n rhesymol fod yr wybodaeth a ddatgelir, ac unrhyw honiad sydd ynddi, yn sylweddol wir

Mae’r mesur diogelu hwn yn dechrau’n awtomatig os yw’r meini prawf cymhwyso wedi'u bodloni.

Gall datgeliadau cymwys fod yn un neu fwy o’r gweithredoedd hyn:

  • trosedd
  • torri rhwymedigaeth gyfreithiol
  • camweinyddiad cyfiawnder
  • peryglu iechyd a diogelwch unrhyw unigolyn
  • difrod i’r amgylchedd
  • cuddio gwybodaeth yn fwriadol sy’n tueddu i ddangos unrhyw un o’r pum mater uchod

Manylion cryno a dienw o ddatgeliadau a wnaed i’r ASB fel Person Rhagnodedig o dan ddeddfwriaeth datgelu er lles y cyhoedd. Prif amcan yr ASB yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau a allai godi mewn cysylltiad â bwyta bwyd, ac fel arall diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Diogelu chwythwyr chwiban

Os daw datgeliad cymwys i law, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu hunaniaeth y chwythwr chwiban ac unrhyw beth a allai arwain at ddatgelu ei hunaniaeth. Byddai gwybodaeth ynghylch datgeliad cymwys, gan gynnwys enw’r chwythwr chwiban, hefyd wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000).

Os bydd erlyniad troseddol, gall diffynnydd wneud cais i’r llys i’n gorchymyn i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â hunaniaeth y chwythwr chwiban. Byddem yn gwrthod datgelu ei hunaniaeth trwy ddadlau na fyddai’r gorchymyn hwn er lles y cyhoedd.

Os oes angen cyngor cyfrinachol arnoch ar yr hyn a ddiogelir gan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd a sut orau i godi eich pryder, efallai yr hoffech siarad â’ch cyfreithiwr neu’r tîm cyfreithiol yn Protect (Yn agor mewn ffenestr newydd) sy’n elusen annibynnol ac yn awdurdod blaenllaw ar ddatgeliadau er lles y cyhoedd.