Ymunwch â’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan uwch arbenigwyr i ymuno â’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol. Eleni rydym hefyd yn recriwtio aelodau cyswllt, gyda’r nod o annog arbenigwyr ar ddechrau a chanol eu gyrfa i gymryd rhan yng ngwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae gwaith y pwyllgorau annibynnol sy’n cynghori yn helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a mwyaf diweddar. I ddysgu rhagor am waith y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gwyliwch y fideo isod i glywed gan Dr Camilla Alexander-White (Saesneg yn unig), Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Brosesau Bwyd Newydd (ACNFP).
Manyleb y person
Rydym yn chwilio am arbenigwyr i lenwi oddeutu 21 o rolau arbenigol, ar draws pum pwyllgor a grwpiau arbenigol. Rhaid i ymgeiswyr i’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol allu dangos y canlynol:
Sgiliau cyffredinol gofynnol
- profiad a thystiolaeth o gyfraniad effeithiol i grwpiau amlddisgyblaethol sy’n cynghori ar gwestiynau gwyddonol neu dechnegol cymhleth.
- sgiliau dadansoddi a barnu cryf, gyda’r gallu i feddwl yn annibynnol a bod yn agored
- bod yn agored i her
- sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf gydag arddull gydweithredol a’r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu â chynulleidfaoedd nad ydynt yn rhai arbenigol.
- meistrolaeth ragorol ar Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau arbenigol gofynnol
Rydym yn recriwtio pobl ag arbenigedd penodol ar gyfer pob pwyllgor, fel yr amlinellir isod. Rhaid i ymgeiswyr ddangos lefel uchel o arbenigedd yn un neu fwy o’r meysydd, gyda thystiolaeth gref o gyflawniad ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, a rhwydweithiau cryf yn y maes. Ar gyfer rolau gwyddonol, gellir cyflwyno tystiolaeth ar ffurf cyhoeddiadau mewn cyfnodolion proffil uchel a adolygir gan gymheiriaid a/neu gyflwyniad mewn cyfarfodydd rhyngwladol.
Aelodau Cyswllt
Nod cynnwys aelodau cyswllt ar Bwyllgor Cynghori Gwyddonol (SAC) yw annog ymchwilwyr sydd ar ddechrau neu ganol eu gyrfa i gymryd rhan yng ngwaith yr ASB drwy ymuno â Phwyllgor na fyddai o bosib yn gallu ymuno ag ef fel aelod llawn fel arall. Neilltuir aelod, neu Gadeirydd, o’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol i’r aelod cyswllt fel mentor ar holl waith y pwyllgor.
Bydd aelodau cyswllt yn gwasanaethu am dymor o flwyddyn, i’w galluogi i gael dealltwriaeth dda o gylch gorchwyl y Pwyllgor a’r ffyrdd o weithio.
Meysydd Arbenigedd/Swyddi gwag
Rydym yn chwilio am arbenigedd mewn ystod eang o feysydd ar draws y gwahanol bwyllgorau a grwpiau a gwmpesir yn y broses recriwtio hon, fel y manylir isod. I gael rhagor o fanylion am waith pob un o’r pwyllgorau yr ydym yn recriwtio ar eu cyfer, gweler ein tudalen ar waith y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol.
Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynnyrch Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT)
- Cemeg organig - gydag arbenigedd yn y tir cyffredin gyda Pherthnasau Gweithgarwch Strwythurau Meintiol
- Biocemeg
- Imiwnotocsicoleg
- Tocsicoleg atgenhedlu
- Patholeg
Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF)
- Epidemioleg ddynol
- Arlwyo yn y sector cyhoeddus
- Parasitoleg anifeiliaid bwyd
- Methodoleg asesu risg
Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP)
- Deiet a thocsicoleg faethol
- Microbioleg/mycoleg Glinigol
- Technegau addasu genetig a golygu genomau mewn microbau
- Arbenigedd milfeddygol i gefnogi adolygu cymwysiadau GM /PBO o safbwynt diogelwch anifeiliaid
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid (ACAF)
- Cadeirydd
- Aelod lleyg
- Tocsicoleg
- Arbenigedd milfeddygol, gyda diddordeb mewn maeth dofednod yn benodol
- Arbenigedd mewn gweithgynhyrchu a sefydlogrwydd
- Cemegydd a all asesu cyfansoddion synthetig, amhureddau a gweddillion
The Joint Expert Group on Additives, Enzymes and other regulated products (AERJEG)
- Cadeirydd
- Cysylltiad
- Genotocsig
Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion penodiadau cyhoeddus yn seiliedig ar deilyngdod a chyfle cyfartal, gydag asesiad annibynnol a phroses agored a thryloyw. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl â chymwysterau addas, waeth beth fo’u nodweddion gwarchodedig a’u patrymau gwaith. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i Dîm Recriwtio Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol.
Mae’n bosib y bydd ymgeiswyr, p’un a chânt eu dewis ai peidio, yn cael gwahoddiad ar wahân i ymuno â’n Cofrestr Arbenigwyr, lle gellir eu gwahodd i ddarparu cyngor neu ymchwil ar sail cytundeb untro.
Ein ffyrdd o weithio
Mae’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yn defnyddio Microsoft Teams a SharePoint fel platfform i rannu dogfennau a gwybodaeth ac i gynnal cyfarfodydd rhithwir. Bydd gofyn i aelodau ddefnyddio Microsoft Teams a SharePoint yn effeithiol fel rhan o’u rolau, felly bydd angen mynediad at gyfrifiadur arnoch gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog a chamera.
Ymrwymiad Amser
Mae’r Pwyllgorau’n cynnal hyd at wyth cyfarfod undydd y flwyddyn, fel arfer yn Llundain, gyda theithio achlysurol y tu allan i Lundain, ac mae aelodau’n darparu mewnbwn ychwanegol rhwng cyfarfodydd, ac ar adegau yn ffurfio is-grwpiau sy’n canolbwyntio ar bynciau tymor byr penodol. Gallai’r ASB hefyd geisio cyngor gan bwyllgorau ar sail ad hoc neu mewn argyfwng.
Bydd yr ymrwymiad amser cyffredinol yn dibynnu ar raddau cyfranogiad aelodau yng nghyfarfodydd y grwpiau ac anghenion strategol yr ASB. Fodd bynnag, disgwylir y bydd aelod yn ymrwymo oddeutu 15 diwrnod y flwyddyn fel isafswm.
Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus
Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus gynnal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus wrth gyflawni rôl cynghorydd annibynnol i’r ASB. Bydd ymgeiswyr a wahoddir am gyfweliad yn cael eu holi am unrhyw faterion yn eu hanes personol neu broffesiynol a allai fwrw amheuaeth ar eu gallu i gyflawni’r rôl hon, ac mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn dwyn materion o’r fath i sylw’r panel.
Tâl a threuliau
Nid oes cyflog yn gysylltiedig â’r swyddi hyn, ond gall aelodau hawlio ffioedd a threuliau teithio rhesymol a threuliau eraill, am waith a gyflawnir ar ac ar ran y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, yn unol â’r Canllawiau ar Ffioedd a Threuliau Pwyllgorau.
Dyma’r ffioedd cyfredol ar gyfer aelodau:
- Cadeiryddion: £400 y diwrnod o waith ar fusnes pwyllgor neu grŵp arbenigol
- Aelodau: £300 y diwrnod o waith ar fusnes pwyllgor neu grŵp arbenigol
- Aelodau Cyswllt: £150 y diwrnod o waith ar fusnes y pwyllgor
Gall aelodau wneud cais cronnus am waith rhwng cyfarfodydd os treulir cryn dipyn o amser ar un darn o waith neu ar gyfres o ddarnau byrion o waith.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
- Ni all aelodau ddal unrhyw swyddi â thâl na swyddi proffil uchel di-dâl mewn plaid wleidyddol, ac ni chânt gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol penodol ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar waith y corff hwn.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan aelodau presennol Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol y llywodraeth; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr restru penodiadau cyfredol perthnasol ar eu cais er mwyn nodi unrhyw draws-aelodaeth ac asesu unrhyw wrthdaro posibl mewn buddiannau.
Sut i wneud cais
Darllenwch fanyleb y person cyn llenwi eich ffurflen gais. Sylwch, os bydd angen y ffurflenni cais arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â thîm recriwtio’r Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol.
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi a darparu:
- Ffurflen gais, gan gynnwys Holiadur Gweithgarwch Gwleidyddol
- Datganiad o fuddiannau
- CV a/neu restr o gyhoeddiadau
- Holiadur monitro (dewisol)
Gan mai Saesneg yw iaith waith yr holl bwyllgorau a’r grwpiau arbenigol, mae'r dogfennau canlynol ar gael yn Saesneg yn unig.
England, Northern Ireland and Wales
England, Northern Ireland and Wales
Pwysig: 17 Mawrth 2023, 23:59 yw'r dyddiad cau.
Peidiwch ag argraffu’r ffurflenni. Rhaid eu llenwi’n ddigidol a’u hanfon atom dros e-bost. Dylech hefyd osgoi arbed y ffurflenni ar ffurf PDF lle bynnag y bo modd.
Ewch ati i lenwi ac anfon eich ffurflen gais dros e-bost i dîm recriwtio’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol.
Amserlen ar gyfer penodiadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer ym mis Ebrill 2023.
Cadarnheir penodiadau ym mis Mai 2023.
Bydd y cyfnod cynefino (induction) yn digwydd ym mis Mehefin 2023 .
Lleoliad: Rhithwir.
Hanes diwygio
Published: 30 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Mawrth 2023