Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr Arglwydd Blencathra – Cyfyngiadau ar ei weithgarwch gwleidyddol wrth iddo wasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Fel rhan o adolygiad diweddar o drefniadau llywodraethu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), rydym yn cyhoeddi’r cyfyngiadau sydd ar waith o ran yr hyn y caiff yr Arglwydd Blencathra ei ddweud yn Nhŷ’r Arglwyddi am fusnes yr ASB, a’r hyn na chaiff ei ddweud.

1. Yn ogystal â’r cyfyngiadau cyffredinol yng Nghymal 12 o’r Telerau Penodi(footnote), byddaf yn cadw at gymal 2.2 yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o Fwrdd yr ASB(footnote), ac ni fyddaf yn dal unrhyw swydd na swyddfa wleidyddol mewn unrhyw blaid wleidyddol, boed yn gyflogedig ai peidio.

2. Ni fyddaf yn mynd i unrhyw gynhadledd wleidyddol o’m gwirfodd. Os bydd unrhyw barti, corff anllywodraethol neu sefydliad arall, boed mewn cynhadledd flynyddol ai peidio, yn gofyn i mi gymryd rhan mewn cyfarfod fel llefarydd ar ran yr ASB, yn unol â chymal 2.3 ac 8.1 o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o Fwrdd yr ASB(footnote), ni fyddaf yn gwneud hynny, oni bai fy mod wedi cael caniatâd gan Gadeirydd neu Brif Weithredwr yr ASB.

3. Ni fyddaf yn chwarae unrhyw ran o gwbl mewn unrhyw ymgyrchu gwleidyddol o unrhyw fath yn ystod etholiad neu refferendwm nac ar unrhyw adeg arall.

4.  Yn Nhŷ’r Arglwyddi, ni fyddaf yn siarad nac yn gofyn cwestiynau am unrhyw faterion sy’n ymwneud â gwaith perthnasol yr ASB, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) nac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

5. Wrth fynd i gyfarfodydd Cyngor Ewrop, ni fyddaf yn gwneud areithiau ar unrhyw fater sy’n ymwneud â gwaith perthnasol yr ASB, DHSC ac a allai adlewyrchu’n wael ar yr ASB, DHSC neu Defra

6. Yn unol â pharagraff 8, ni fyddaf yn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol arwyddocaol ond mae gennyf hawl i bleidleisio ar unrhyw fater. Diffinnir gweithgarwch gwleidyddol arwyddocaol fel(footnote) cael eich cyflogi gan blaid wleidyddol, dal swydd o bwys mewn plaid, sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid mewn etholiad, siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol neu roi rhoddion neu fenthyciadau sylweddol i blaid. Benthyciadau a rhoddion sylweddol yw’r rhai hynny y mae eu maint yn golygu bod yn rhaid rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol amdanynt, yn unol â throthwy adrodd plaid ganolog.

7. Byddaf yn parhau i gymryd Chwip y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ni fyddaf yn trafod fy mhleidlais na’i  hegluro.

8. Byddaf yn ymwybodol y gall gwrthdaro buddiannau posib godi ar wahân i’r rhai a restrir yn y ddogfen hon. Pe baent yn codi, byddaf yn derbyn cyngor priodol ar sut i’w rheoli.

9. O ran y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o Fyrddau Cyrff Cyhoeddus, ac yn enwedig adran 4.1, DHSC yw’r adran benodi, a dylid ceisio cyngor a chytundeb o dan yr adran honno gan y DHSC

10. Gall DHSC o bryd i’w gilydd adolygu telerau’r ddogfen hon, gan gynnwys mewnosod, dileu, addasu, neu ailddatgan unrhyw destun, trwy roi rhybudd rhesymol yn ysgrifenedig (gan gynnwys gohebiaeth electronig). Byddaf yn ymgynghori â’r ASB ynghylch unrhyw gynigion i ddiwygio telerau’r ddogfen hon. Bydd DHSC yn rhoi gwybod i Fwrdd yr ASB am unrhyw ddiwygiadau a wneir.

11. Yn y ddogfen hon:

a)  mae’r ymadrodd “unrhyw faterion sy’n ymwneud â gwaith perthnasol yr ASB, DHSC, neu Defra” yn cwmpasu holl waith yr ASB, a materion sy’n ymwneud â gwaith yr ASB neu sy’n gorgyffwrdd â gwaith yr ASB sydd o fewn cwmpas DHSC neu Defra. Er enghraifft, ni fwriedir i hyn gwmpasu materion nad ydynt yn gysylltiedig fel amddiffynfeydd rhag llifogydd (sydd o fewn cwmpas Defra) neu wasanaethau iechyd meddwl (sydd o fewn cwmpas DHSC);

b)  mae cyfeiriadau at DHSC yn golygu’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac unrhyw adran neu gorff cyhoeddus y gellir neilltuo neu drosglwyddo ei swyddogaethau iddynt yn y dyfodol; 

c) mae cyfeiriadau at Defra yn golygu Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac unrhyw adran neu gorff cyhoeddus y gellir neilltuo neu drosglwyddo ei swyddogaethau iddynt yn y dyfodol.