Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Mai 2023

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

1. Crynodeb

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.  

1.2 Gwahoddir aelodau o’r pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1 Daeth Adroddiad y Prif Weithredwr i law’r Bwrdd

3. Ymgysylltu Allanol gan Uwch-reolwyr yr ASB yng Nghymru

3.1 Ers y cyfarfod WFAC diwethaf ar thema benodol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, mae uwch-reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol: 

  • 14 Chwefror – Aeth Nathan i weld arolygiad hylendid bwyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • 7 Mawrth – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol
  • 16 Mawrth – Aeth Pennaeth Digwyddiadau’r ASB yng Nghymru i Gynhadledd Argyfyngau Sifil Cymru, lle lansiwyd ymgyrch Llywodraeth Cymru, ‘Cymru Saff a Diogel – Gwirioneddol Gydnerth Gyda’n Gilydd’
  • 30 Mawrth – Cyfarfod gyda Chadeirydd a Dirprwy Gadeirydd DPPW, a Chadeirydd Iechyd yr Amgylchedd Cymru i drafod cydgysylltu gwaith capasiti a gallu gweithlu DPPW a’r ASB
  • 4 Ebrill – Cyfarfod gyda Defra a Llywodraeth Cymru i drafod y Bartneriaeth Tryloywder Data Bwyd
  • 20 Ebrill – Cyfarfod grŵp Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru, a oedd yn cynnwys diweddariad ar y Model Gweithredu Targed drafft ar gyfer Ffiniau, a Bil Bwyd (Cymru)
  • 25 Ebrill – Cyfarfod cyswllt chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru
  • 27 Ebrill – Aeth Nathan i Gynhadledd Wanwyn y Sefydliad Technoleg Gwyddor Bwyd fel aelod o’r panel gan drafod ‘Cyrraedd y Cydbwysedd Cywir’. Aeth hefyd i’r digwyddiad rhwydweithio cyn y swper. 

3.2 Rhagolwg o’r gwaith ymgysylltu allanol sydd ar y gorwel: 

  • 17 Mai – Digwyddiad ymgysylltu ar y Model Gweithredu Hylendid Bwyd gydag awdurdodau lleol Cymru – cyfarfod wyneb yn wyneb yn Llandrindod 
  • 18 Mai – Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, Venue Cymru, Llandudno
  • 6 Mehefin – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd dan arweiniad y Prif Swyddog Meddygol
  • 20-22 Mehefin – Cynhadledd y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI), Birmingham

4. Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â’r ASB yng Nghymru

4.1 Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg – Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi ennill y Wobr Cyflogwr Chwarae Teg Aur+ gyntaf erioed gan y brif elusen yng Nghymru sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Chwarae Teg. Mae ennill y Wobr Aur+ newydd, a roddir gan Gyflogwr Chwarae Teg, sef cangen fasnachol yr elusen Chwarae Teg, yn gyflawniad eithriadol ac yn cydnabod ymrwymiad parhaus yr ASB i greu gweithle cynhwysol lle gall pob gweithiwr ffynnu. Mae’r rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg wedi bod yn rhedeg ers dros bum mlynedd, ac mae wedi cefnogi cannoedd o fusnesau, ond yr ASB yng Nghymru yw’r cyntaf i gyrraedd y safon Aur+ hyd yma.  

Mae’r llwyddiant yn dangos bod yr ASB yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac amrywiaeth yn y gweithle, ochr yn ochr ag ymrwymiad clir i ymgysylltu â staff – sy’n anelu at sicrhau canlyniadau a chyfleoedd cyfartal i bawb. Mae’r rhaglen arloesol Cyflogwr Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau yn erbyn eraill yn eu diwydiant a’u rhanbarth, ac yn nodi ffactorau llwyddiant sylweddol a meysydd posib i’w gwella. Yna, ceir llwybr o gefnogaeth a gwelliant dan arweiniad sy’n cynnwys cynllun gweithredu pwrpasol a mynediad at amrywiaeth o offer a digwyddiadau. Yn 2020, yr ASB oedd y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr Cyflogwr Chwarae Teg safon Aur, a gwnaethom ragori ar ein sgôr yn 2020 i gyrraedd safon Aur+.  

4.2 Cyfweliad costau byw – darparodd y tîm segment i S4C a’i rhaglen gylchgrawn Gymraeg Prynhawn Da ar y gefnogaeth a’r canllawiau sydd ar gael gan yr ASB ar gostau byw. Roedd hwn yn gyfle gwych i rannu negeseuon allweddol ar wneud i fwyd bara’n hirach mewn ffordd ddiogel, dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a chanllawiau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sefydliadau elusennol sy’n dosbarthu bwyd.

4.3 Adolygiad o Argyfyngau Sifil Posib yng Nghymru – Mae’r tîm wedi bod yn cyfrannu at adolygiad Llywodraeth Cymru o argyfyngau sifil posib ers 2022, ac mae adroddiad drafft bellach wedi’i rannu. Mae hyn yn cynnwys pymtheg o argymhellion, yn amrywio o ddatblygu fframwaith sicrwydd cenedlaethol i Gymru i gyfleoedd hyfforddi gwell, buddsoddiad a gwella perthnasoedd â sefydliadau eraill. Mae’r adolygiad yn cael ei ddefnyddio i bennu’r blaenoriaethau cynnar ar gyfer rhaglen waith Cymru Saff a Diogel a lansiwyd yng Nghynhadledd Argyfwng Sifil Cymru ar 16 Mawrth. Roedd yr ASB yng Nghymru yn bresennol, ac roedd yn gyfle i ni godi proffil a chylch gwaith yr ASB trwy gymryd rhan yn y gweithdai amrywiol.

4.4 Model Gweithredu Safonau Bwyd – rydym wedi cael datganiadau o ddiddordeb gan bedwar awdurdod lleol i gymryd rhan yn y cynllun peilot yng Nghymru ac rydym wrthi’n cynnal trafodaethau cychwynnol gyda’r awdurdodau lleol hyn.

4.5 Ymgyrchoedd cyfathrebu – dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae tîm cyfathrebu Cymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB i hyrwyddo dwy ymgyrch i ddefnyddwyr:

  • Rhybuddion Bwyd ac Alergeddau (yn rhedeg 13-26 Mawrth) – Ymgyrch i gynyddu’r niferoedd sy’n tanysgrifio i wasanaeth rhybuddion bwyd ac alergeddau’r ASB, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth gyffredinol trwy egluro beth yw’r gwasanaeth, sut y gall helpu a sut i danysgrifio.   
  • Gwanwyn Glân (yn rhedeg 3-16 Ebrill) – Ymgyrch i atgoffa defnyddwyr o negeseuon diogelwch bwyd allweddol dros gyfnod y gwanwyn, gan gynnwys osgoi croeshalogi, glanhau cypyrddau, dyddiadau ‘defnyddio erbyn’, gwneud y defnydd gorau o’r oergell, a chwalu camsyniadau o ran storio bwyd.

4.6 Diweddariad gan yr ASB yng Nghymru o’r trefniadau ar gyfer symud swyddfa – Bydd yr ASB yng Nghymru yn symud i’w swyddfa newydd ym Mharc Cathays ddydd Llun 21 Awst. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i drefnu manylion y symud. 

4.7 Ymchwilio i Dwyll Cig – Mae’r tîm yng Nghymru yn rhan o’r Grŵp Rheoli a Chydgysylltu Digwyddiadau ar gyfer yr ymchwiliad hwn. Ceir rhagor o fanylion ym mlog y Prif Weithredwr ar y pwnc.  

4.8 Cynllun Archwilio Awdurdodau Lleol – Cymeradwywyd y cynllun a’r adroddiad cynnydd ar gyfer 2023/24 yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ar 14 Mawrth. Byddwn yn ailddechrau ein rhaglen dreigl o archwiliadau awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2023/24 i adolygu cynlluniau gweithredu archwilio blaenorol ac asesu cynnydd awdurdodau lleol wrth iddynt drosglwyddo yn ôl i’r amlder ymyriadau a nodir yng Nghod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru). Rydym wrthi’n cwblhau ein dogfennaeth archwilio ac wedi adolygu data perfformiad yr awdurdodau lleol yn yr arolygon cynnydd diweddaraf i helpu i flaenoriaethu pa awdurdodau lleol i’w targedu. Byddwn yn anfon llythyr at awdurdodau lleol yng Nghymru i roi gwybod iddynt am ein cynlluniau ar gyfer 2023/24, yna byddwn yn dechrau cysylltu â’n swp cyntaf o awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth cyn archwilio.

4.9 Cynllun Pobl yr ASB 2023-2026 – Ar 20 Ebrill, lansiodd yr ASB ei Chynllun Pobl 2023-2026 sy’n nodi sut y byddwn yn gwella fel cyflogwr a’r manteision a ddaw yn sgil hyn i ni, y busnesau rydym yn eu rheoleiddio ac iechyd y cyhoedd rydym yn ei ddiogelu. Nod y cynllun yw denu’r bobl orau i’n timau, helpu cydweithwyr i dyfu a datblygu yn eu gwaith, a sicrhau bod gennym enw da o ran ein diwylliant gwych. Mae’r Cynllun Pobl hwn yn dangos sut y byddwn yn gwneud hynny dros y tair blynedd nesaf.

5. Ymgyngoriadau

5.1 Ymgyngoriadau cyfredol:

Dyddiad lansio: 27 Mawrth 2023
Dyddiad cau: 22 Mai 2023

Dyddiad lansio: 3 Ebrill 2023
Dyddiad cau: 30 Mehefin 2023

6. Edrych tua’r dyfodol: 

6.1 Ymgyrchoedd cyfathrebu sydd ar ddod: 

  • Ymgyrch Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol (mis Mai) – ymgyrch yn canolbwyntio ar y llefydd annisgwyl y gallech ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd, er enghraifft sinemâu, gwerthwyr ar-lein, stondinau bwyd mewn gwyliau. Bydd yr ymgyrch yn digwydd i gyd-fynd â thymor gwyliau bwyd a gwyliau eraill lle mae stondinau bwyd.

  • Yma i helpu (Rhan 2 i’w lansio ym mis Mai) – Bwriad yr ymgyrch yw dangos i fusnesau fod awdurdodau lleol a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yno i gefnogi busnesau bwyd a’u bod yn gallu cynnig llwyth o wybodaeth a chyngor wrth gynnal ymweliadau. Ein prif gynulleidfa ar gyfer yr ymgyrch yw microfusnesau (y mae llawer ohonynt wedi datblygu yn ystod ac ar ôl COVID). Rydym wedi llunio astudiaethau achos cryf gyda busnesau o Gymru ac yn gobeithio gallu creu astudiaeth achos gyda Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o Gymru. 

6.2 Drafft o’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) – Yn dilyn cyhoeddi drafft o’r BTOM cyn y Pasg, byddwn yn cynnal digwyddiad briffio defnyddwyr dan arweiniad yr ASB ar 16 Mai am 11:30am. Pwrpas y digwyddiad hwn yw rhoi gwybod am y Model, a chasglu adborth gan y rheiny sy’n bresennol. Ar hyn o bryd y rhanddeiliaid o Gymru sydd wedi cael gwahoddiad yw NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Hybu Cig Cymru. 

Bydd cynrychiolwyr polisi’r ASB yn mynd i’r digwyddiadau ymgysylltu eraill (a gynhelir gan Swyddfa’r Cabinet a Defra) ac yn parhau i gasglu adborth rhanddeiliaid ar gyfer ein mewnwelediad ein hunain. 

Cyn bo hir, bydd Defra yn cyhoeddi’r categorïau risg ar gyfer yr UE (lle gall rhanddeiliaid ddarganfod pa gategori sy’n berthnasol i’w cynhyrchion) a’r tystysgrifau iechyd allforio newydd. Rydym yn gweithio i sicrhau bod yr ASB wedi’i halinio â chyfathrebiadau Defra.