Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Pobl yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 2023 i 2026

Ein cynllun pobl: Rhagair

Mae ein cynllun pobl yn egluro’r hyn y mae’n bwysig i’w wneud yn iawn er eich lles chi, ein pobl, fel ein bod ni’n gallu cyflawni ein strategaeth.

Rhagair 

Mae ein cynllun pobl yn nodi sut y byddwn yn gwella fel cyflogwr a’r manteision a ddaw yn sgil hyn i ni, y busnesau rydym yn eu rheoleiddio ac iechyd y cyhoedd rydym yn ei ddiogelu. Mae’n gynllun ar gyfer denu’r bobl orau i’n timau, helpu cydweithwyr i dyfu a datblygu yn eu gwaith, a sicrhau bod gennym enw da o ran ein diwylliant gwych.

Mae ein cynllun yn adlewyrchu eich profiadau chi. Mae’n egluro’r hyn y mae’n bwysig i’w wneud yn iawn er eich lles chi, ein pobl, fel ein bod ni’n gallu cyflawni ein strategaeth. Mae’n dangos beth y dylai cydweithwyr ei ddisgwyl gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), fel eu cyflogwr, a’r hyn y dylem ni yn ein tro, ei ddisgwyl gan ein gilydd.

Mae rôl yr ASB wedi ehangu ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Yn ein strategaeth ar gyfer 2022-2027, gwnaethom ailddatgan ein cenhadaeth, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo: bwyd sy’n ddiogel, bwyd sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a bwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy. Roedd hefyd yn disgrifio'r egwyddorion arweiniol a fydd yn llywio’r ASB wrth gyflawni ei rhan yn y genhadaeth honno.

Ers mis Ionawr 2021, mae’r ASB wedi ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Er enghraifft, rydym bellach yn awdurdodi bwydydd a bwyd anifeiliaid newydd. Rydym yn penderfynu ar y math o wiriadau bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir ar y ffiniau, a’u hamlder. Rydym yn gweithredu ym marchnad sengl y DU, lle mae gan weinidogion yn y gweinyddiaethau datganoledig fwy o lais nag oedd ganddynt o’r blaen. Mae gan y DU lais annibynnol erbyn hyn mewn trafodaethau amlochrog ar safonau bwyd a bwyd anifeiliaid. Yn y cyfamser, mae’r diwydiant bwyd wedi achub ar gyfleoedd i arloesi gyda data a gwyddoniaeth. Ac mae risgiau i’n bwyd yn newid o hyd.

Mae hyn i gyd yn golygu bod angen i’r ASB sicrhau bod ganddi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r diwylliant cywir i gyflawni’r holl bethau roedd yn eu cyflawni o’r blaen, ynghyd â llawer o bethau newydd yn ystod y blynyddoedd i ddod. Ein pobl ni sy’n cyflawni’r pethau hyn. Mae angen i ni sicrhau’r canlynol:

  • profiad rhagorol i weithiwyr, wedi’i gefnogi gan y diwylliant a’r gwerthoedd cywir
  • y galluoedd a’r sgiliau cywir
  • bod ein pobl yn teimlo wedi’u galluogi gan ein polisïau AD, ein gwobrau, a’n hystadau

Mae’r Cynllun Pobl hwn yn dangos sut y byddwn yn gwneud hynny dros y tair blynedd nesaf.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r rhai sydd wedi rhoi adborth wrth i’r cynllun hwn gael ei ddatblygu. Mae cannoedd ohonoch wedi rhannu eich barn trwy’r ymholiad diwylliant, yr arolwg pobl, y broses o adnewyddu ein gwerthoedd, trwy rwydweithiau staff, cyfarfodydd tîm a diwrnodau Ymgysylltu a Datblygu Rhanbarthol Gweithrediadau Maes. Diolch o galon.

Mae’r ASB yn ffodus i fod â’r fath bobl anhygoel. Bydd y Cynllun Pobl hwn yn ein helpu i wneud ein gwaith yn well byth.

Emily Miles, Prif Weithredwr

Portrait of Emily Miles, the FSA Chief Executive

Mae pobl wrth galon gallu’r ASB i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Dyna pam, fel bwrdd, rydym yn falch o gefnogi Cynllun Pobl yr ASB, sy’n dangos ymrwymiad parhaus y sefydliad i wneud y gorau oll drwy ei weithlu ymroddedig a dawnus.

Rydym am i’r ASB fod yn gyflogwr o ddewis, ac yn adran nodedig o fewn y llywodraeth ar gyfer boddhad gweithwyr, cynwysoldeb, diwylliant cadarnhaol yn y gweithle a datblygiad personol. Wrth i lwyth gwaith yr ASB gynyddu, mae’n fwyfwy pwysig i ni allu denu a chadw pobl sydd â’r gallu a’r sgiliau gofynnol i gyflawni ein strategaeth.

Mae’r Cynllun Pobl yn cynnig fframwaith cadarn a thryloyw er mwyn sicrhau bod yr ASB yn parhau i gyflawni ar gyfer ei staff yn ogystal ag ar gyfer defnyddwyr.

Hayley Campbell-Gibbons, Aelod o Fwrdd yr ASB

Llun o Hayley Campbell-Gibbons, Aelod o Fwrdd yr ASB.

Ein gweledigaeth ar gyfer ein pobl 

Rydym am i’r ASB fod yn lle pwrpasol a deinamig, lle mae ein pobl i gyd yn cael eu cefnogi yn eu swyddi, ac yn cael rhyddid i dyfu a datblygu i gyflawni ein cenhadaeth, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo.

Mae ein strategaeth yn amlinellu ein cenhadaeth i ddarparu bwyd y gallwch ymddiried ynddo, yn ogystal ag ehangder y gwaith pwysig y mae angen i ni ei wneud er mwyn cyflawni hyn, drwy ein pum rôl. Rydym yn gwybod bod ein hadnoddau’n gyfyngedig, felly mae angen i ni fanteisio i’r eithaf arnynt. Er mwyn llwyddo yn ein huchelgeisiau, mae angen i ni arfogi ein pobl i gyd i gyflawni, fel y gallwn wneud ein gwaith gorau. 

Byddwn yn sefydliad lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu meithrin eu harbenigedd, a lle yr ymddiriedir ynddynt i gyflawni’r amcanion y maent yn atebol amdanynt. Bydd yr ASB yn sefydliad lle y bydd pobl yn teimlo eu bod wedi’u harfogi a’u cefnogi i wneud eu gorau glas yn eu gwaith, boed drwy gael adnoddau da ac amser i ddysgu, neu drwy berthnasoedd cefnogol a ffyniannus â’i gilydd, ni waeth ble y maent yn gweithio. Ble bynnag y mae pobl yn y sefydliad, byddant yn teimlo eu bod yn cael gofal ac yn cael eu galluogi i wneud eu gorau i sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo.
 
Rydym hefyd am arwain y ffordd o ran creu diwylliant cynhwysol. Yn unol â strategaeth ehangach y gwasanaeth sifil, byddwn yn sefydliad sy’n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant, ac sy’n gwerthfawrogi cyfraniad pawb, gan fod amrywiaeth yn ein galluogi i gynrychioli a gwasanaethu’r cyhoedd yn well. 

Ein diwylliant a’n gwerthoedd

Cafodd ein gwerthoedd ASPIRE, a ddatblygwyd gan ein pobl, eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2018. Nawr, rydym yn lansio fersiwn wedi’i diweddaru yn sgil adborth gennych chi a’n harweinwyr. 

Mae ein gwerthoedd yn mynegi sut rydym am ymddwyn yn y gwaith a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ein gilydd. Y gwerthoedd yw’r llinyn sy’n rhedeg trwy ein sefydliad cyfan, gan ein helpu i greu diwylliant rydym ni i gyd eisiau bod yn rhan ohono, a denu pobl dalentog i ymuno â ni.

Dangosodd ein hymholiad diwylliant yn 2021 fod gennym lawer i’w ddathlu – ein harbenigedd dwfn, ein balchder yn yr hyn rydym yn ei wneud er budd iechyd y cyhoedd a’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i’n gilydd. Mae ein fersiwn o ASPIRE ar ei newydd wedd yn cadarnhau ein hymrwymiad i gynhwysiant, a’n hawydd i symud ein ffocws o wydnwch a goroesi i barodrwydd a ffynnu. Dyma ein gwerthoedd:

Atebol: Rydym yn cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd ac yn canolbwyntio ar gyflawni er mwyn sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo. 

Cefnogol: Rydym yn cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd ac yn canolbwyntio ar gyflawni er mwyn sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo. 

Proffesiynol: Rydym yn meithrin ymddiriedaeth drwy gyflawni’n gymwys ac yn hyderus i’r safonau proffesiynol uchaf, gan ysbrydoli eraill drwy’r gwaith rydym yn ei wneud. 

Cynhwysol: Rydym yn galluogi ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb ac yn croesawu nodweddion, sgiliau a phrofiad eang pobl. 

Yn barod: Rydym yn flaengar ac yn agored i newid, gan wneud yn siŵr ein bod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau ac achub ar gyfleoedd, ac ar yr un pryd, yn diogelu llesiant hyd eithaf ein gallu. 

Yn esblygu: Rydym wedi ein grymuso i wneud newidiadau ystyrlon i wella’r hyn a wnawn i’r trethdalwr, gan wneud yn siŵr ein bod yn myfyrio’n barhaus ar ein perfformiad ac yn cadw ar ben ein dysgu.

Mae ein gwerthoedd ASPIRE wedi’u diweddaru yn diogelu’r hyn sydd mor bwysig i ni ac yn egluro sut rydym ni i gyd yn cytuno y dylem ymddwyn er mwyn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i ffynnu.

Tara Smith, Cyfarwyddwr Pobl ac Adnoddau

Tara Smith
Add to smarter communications search Off