Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Pobl yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 2023 i 2026

Ein cynllun pobl: Ein hymrwymiadau – yr hyn y byddwn yn ei gyflawni

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer ein pobl, mae ein cynllun pobl wedi'i adeiladu o gwmpas profiad gweithwyr, galluogrwydd a dod yn sefydliad sy'n galluogi.

Rydym yn gwneud cynnydd da ar hyd y llwybr sy’n ein harwain at fod y math o sefydliad rydym am fod, ond mae lle i wella o hyd ac mae ein cynllun pobl yn cyfleu sut y byddwn yn cyrraedd ein nod. 

Mae ein pobl yn gweithio mewn lleoliadau ac amgylcheddau gwahanol, a hynny oherwydd ein gweithrediadau rheng flaen, a’n trefniadau Ein Ffyrdd o Weithio (OWOW) arobryn. Mae’n bwysicach fyth felly ein bod yn dod at ein gilydd drwy’r genhadaeth, y strategaeth a’r gwerthoedd rydym yn eu rhannu, ac ar yr un pryd, yn galluogi’r hyblygrwydd i adlewyrchu gofynion rheng flaen a gofynion nad ydynt yn rhai rheng flaen.

Mae ein cynllun pobl wedi’i seilio ar adborth gan gydweithwyr, yn enwedig o arolwg pobl y gwasanaeth sifil, ein hymholiad diwylliant, a’n gwaith ar flaenoriaethu. Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth pobl, mae ein cynllun pobl wedi’i lunio o amgylch y tair thema allweddol a ganlyn:

  • Profiad rhagorol i weithwyr
  • Manteisio i’r eithaf ar alluoedd
  • Bod yn sefydliad sy’n galluogi

Mae’r flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar atgyfnerthu ein sylfeini, yn enwedig o ran agweddau fel rheoli llinell, blaenoriaethu, lles, cydnabyddiaeth a gwobrwyo a diwylliant, sy’n allweddol i’ch cefnogi i gyflawni ein blaenoriaethau a’n strategaeth. Byddwn yn egluro’r disgwyliadau ynghylch pryd a pham y byddwn yn dod at ein gilydd wyneb yn wyneb i sicrhau’r cydbwysedd gorau posib rhwng hyblygrwydd a chadw cysylltiad, fel bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn ymgysylltu â’i gilydd, ni waeth beth fo’u rôl neu eu lleoliad. 

Bydd yr ail a’r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar adeiladu ar y sylfeini hyn drwy gyflwyno mentrau newydd ac ymdrechu i gyrraedd safonau uwch fyth, i’n helpu i symud ymlaen ar ein taith i ddod yn sefydliad pwrpasol a deinamig, sy’n rhinweddau angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.

"Mae’r cynllun pobl newydd yn hynod gyffrous. Bydd y tair thema yn sicrhau bod yr ASB yn parhau i fod yn gyflogwr rhagorol, yn grymuso gweithwyr, ac yn gwneud yn siŵr bod gan bob un ohonom y galluoedd a’r sgiliau sydd eu hangen arnom i sicrhau ein bod yn sefydliad rhagorol. Alla’ i ddim aros i weld sut mae’r cynllun yn cael ei roi ar waith!"

Lowri Williams, Uwch-reolwr Cyfathrebu Cymru