Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Pobl yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 2023 i 2026

Ein cynllun pobl: Bod yn sefydliad sy’n galluogi

Byddwn yn sefydliad sy’n galluogi, gyda’n hystwythder a’n heffaith wedi’u hategu gan seilwaith, trefniadaeth sefydliadol a phrosesau effeithiol.

Gwnaeth ein hymholiad diwylliant dynnu sylw at ein hymrwymiad dwfn i’n cenhadaeth. Fodd bynnag, dangosodd hefyd y gall blaenoriaethau, strwythurau a chyfrifoldebau ar draws timau a chyfarwyddiaethau fod yn aneglur. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach cydweithio’n effeithiol – yn enwedig mewn gweithlu sy’n gynyddol amrywiol yn ddaearyddol, lle mae pobl yn gweithio o bell (boed ar y rheng flaen neu’n aml-leoliad/gweithio gartref). 

Byddwn yn sefydliad sy’n galluogi, gyda’n hystwythder a’n heffaith wedi’u hategu gan seilwaith, trefniadaeth sefydliadol a phrosesau effeithiol. 

Mae ein rhaglen ‘Connect’, sydd ar waith ar draws y sefydliad, yn uno ein system bobl a’n system gyllid, gan symleiddio prosesau, gwella adroddiadau rheoli a’i gwneud yn haws i chi gwblhau tasgau gweinyddol. Bydd hyn yn ysgogi newid diwylliant ac yn gwella galluogrwydd digidol. 

Byddwn yn eich helpu i reoli eich llwythi gwaith drwy flaenoriaethu’n drwyadl ac yn barhaus er mwyn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf ar unrhyw adeg benodol, yn unol â’n hegwyddor arweiniol i gymryd agwedd sy’n gymesur ac yn seiliedig ar risg at ein gwaith i gyd.

Trwy ein strategaeth ystadau a’n trefniadau Ein Ffyrdd o Weithio (OWOW), byddwn yn sicrhau bod gweithleoedd yr ASB ledled y DU yn fannau deniadol, cynhwysol ac effeithiol, lle gallwch ddod at eich gilydd i gydweithio a meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol, er mwyn gallu perfformio ar eich gorau, ni waeth beth yw eich rôl neu ba fath o gontract rydych wedi’i ddewis.

“Wrth ymuno â sefydliad newydd a gweithio o bell, roeddwn yn tybio y gallai fod yn anodd i mi feithrin perthnasoedd o fewn y tîm, ond nid felly fuodd hi. Trefnwyd cyfarfodydd i mi gael cwrdd â chydweithwyr ar draws y gyfarwyddiaeth, gan fy ngalluogi i feithrin perthnasoedd cryf, a hynny gydag ystod eang o dimau, nid dim ond o fewn yr Uned Cymorth Gweithredol. 

Mae’n drawiadol gweld yr hyfforddiant a’r gefnogaeth barhaus a gynigir, sy’n fy ngalluogi i gyflawni fy rôl yn effeithiol. Ar ôl gweithio mewn adrannau eraill yn y Gwasanaeth Sifil, mae’n braf gweithio nawr i sefydliad sy’n mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo trefniadau gweithio hyblyg, yn hytrach na gwneud addewidion gwag.” 

Clodagh O’Doherty, Swyddog Cymorth Gweithredol Gogledd Iwerddon

Tabl 3 – Gweithgareddau arfaethedig ar gyfer sefydliad galluogi

Yn ystod blwyddyn un byddwn yn… Sut y byddwn yn gwybod ei fod wedi gweithio…

13. Cyflwyno un system Bobl a Chyllid

Gweithredu modiwlau Cyllid ac AD craidd ar ‘Workday’.

Darparu hyfforddiant a chanllawiau i reolwyr a staff ar sut i ddefnyddio’r system Adnoddau Dynol a Chyllid newydd yn effeithiol.    

Gwella rhwyddineb ac ystod yr wybodaeth adrodd/rheoli, gan gynnwys rhagolygon cyllid a phobl.

Gwella’r gyfradd cwblhau hyfforddiant.

Sicrhau adborth defnyddwyr ar yr amser a arbedir, gallu’r system a synergeddau gwell. 

14. Gwella blaenoriaethu a chynllunio corfforaethol

Cynnal gweithdai EMT/BDG rheolaidd i’w gwneud yn bosib blaenoriaethu a chynllunio ar draws y sefydliad, chwalu seilos ac ystyried ymrwymiadau pwysig o ran busnes-fel-arfer a rheoli pobl.

Sicrhau bod adborth staff ar lwythi gwaith yn flaenoriaeth i’w adolygu gan uwch-arweinwyr (Uwch-Wasanaeth Sifil) pan gaiff canlyniadau’r arolwg pobl ac arolygon staff rheolaidd eu rhyddhau, fel bod modd gwahaniaethu rhwng ymdrech mewn ymateb i gynnydd dros dro mewn llwyth gwaith, a phatrymau parhaus o orlethu.

Blaenoriaethu trefniadau effeithiol ar gyfer rheoli pobl a rheoli llwythi gwaith trwy gyfarfodydd rheoli perfformiad estynedig.     

Gwella sgoriau’r arolwg pobl a’r arolygon staff rheolaidd ar gyfer llwyth gwaith a gorlethu. 

Lleihau’r thema diwylliant ‘Gorlethu’ yn ein hymholiad diwylliant nesaf.

Gostwng nifer yr oriau hyblyg gormodol a gaiff eu cario drosodd ar ddiwedd pob cyfnod ar gyfer pobl nad ydynt mewn rolau rheng flaen. 

15. Datblygu ein strategaeth Ystadau i gefnogi Ein Ffyrdd o Weithio

Datblygu strategaeth ystadau hybrid fodern sy’n gwneud y defnydd gorau o’n hystâd, yn sicrhau cynhwysiant, hygyrchedd a gwerth am arian wrth gefnogi Ein Ffyrdd o Weithio ac sy’n cyd-fynd â model Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth.

Egluro disgwyliadau sefydliadol ynghylch pryd y dylem ddod at ein gilydd wyneb yn wyneb i feithrin a chefnogi perthnasoedd cydweithredol cryf wrth gynnal ein hyblygrwydd a sicrhau gwerth am arian.    

Lleihau’r themâu diwylliant ‘Datgysylltiedig’ ac ‘Anghydlynol’ yn ein hymholiad diwylliant nesaf.

Gwella canlyniadau’r arolwg pobl mewn cysylltiad â pherthnasoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith. 

Cynyddu’r defnydd o’n swyddfeydd ledled y DU.
 

 

Yn ystod blwyddyn dau a thri byddwn yn…     Sut y byddwn yn gwybod ei fod wedi gweithio…

16. Ystyried modiwlau AD ychwanegol ar ‘Workday’ 

Ystyried a gweithredu swyddogaethau ychwanegol posib, er enghraifft, Datganiadau o’r Holl Fuddion, rheoli talent, rheoli perfformiad, recriwtio.    

Gwella rhwyddineb ac ystod yr wybodaeth adrodd/rheoli.

Gwella tryloywder o ran yr holl fuddion.