Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Gorffennaf 2023

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

1. Crynodeb

1.1  Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru. 

1.2  Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi'r diweddariad

  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1  Daeth Adroddiad y Prif Weithredwr i law’r Bwrdd.

3. Ymgysylltu Allanol gan Uwch-reolwyr yr ASB yng Nghymru

3.1  Ers y cyfarfod WFAC diwethaf â thema a gynhaliwyd ar 11 Mai, mae uwch-reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol a allai fod o ddiddordeb i WFAC:

  • 17 Mai – Digwyddiad ymgysylltu ar y Model Gweithredu Hylendid Bwyd gydag awdurdodau lleol Cymru – cyfarfod wyneb yn wyneb yn Llandrindod
  • 6 Mehefin – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd dan arweiniad y Prif Swyddog Meddygol
  • 20-22 Mehefin – Cynhadledd y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI), Birmingham
  • 27 Mehefin – Cinio Cymreig Blynyddol Cymdeithas Milfeddygon Prydain

3.2  Rhagolwg o’r gwaith ymgysylltu allanol sydd ar y gorwel:

  • 24-27 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru 
  • 11 Medi – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol

4. Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â’r ASB yng Nghymru

4.1  Datganiad gan y Gweinidog – mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ei disgwyliadau ar gyfer adolygiad rheoleiddiol a rhaglen ddiwygio’r ASB, ochr yn ochr â’r cytundeb cydweithredol rhwng yr ASB, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Cafodd y cytundeb ei gyd-ddrafftio, ac mae’n gyson â’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau. Rydym yn croesawu’r pwyslais ar gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r ASB.

4.2  Bridio Manwl – rydym yn parhau i gydweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru wrth iddynt barhau â’u hadolygiad o’r polisi golygu genynnau. Gwnaethom gyfarfod ar 16 Mai i egluro rôl yr ASB wrth ddarparu cyngor ar bolisi diogelwch bwyd, gwaith diweddar yr ASB mewn perthynas â bridio manwl gan gynnwys ymchwil defnyddwyr, cyfarfod Bwrdd yr ASB ym mis Mawrth ac adborth o weithdai diweddar ar fridio manwl a gynhaliwyd gan yr ASB.

4.3  ‘Smokies’ (cig defaid â’r croen ynghlwm) – gwnaethom gyfarfod â gweithgor y diwydiant cig defaid â’r croen ynghlwm ar 9 Mai i roi adborth ar ei gynnig ar gyfer newid deddfwriaethol. Mae’r ASB wedi dod i’r casgliad bod angen rhagor o dystiolaeth wyddonol cyn y gellir bwrw ymlaen â’r cynnig. Bydd SERD yn darparu gwybodaeth ychwanegol am yr ymchwil sydd ei hangen fel y gall y grŵp diwydiant wneud penderfyniad gwybodus ar y camau nesaf, gan gynnwys penderfynu a yw am fwrw ymlaen â’r cynnig.

4.4  Digwyddiad ymgysylltu ar gyfer y Model Gweithredu Hylendid Bwyd – gwnaeth tîm y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol Cymru gefnogi cydweithwyr o’r Is-adran Cydymffurfiaeth Reoleiddiol (RCD) er mwyn cynnal digwyddiad ymgysylltu ag awdurdodau lleol Cymru ar 17 Mai 2023. Roedd y digwyddiad yn rhan o gyfres o sesiynau a gynhaliwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd croeso mawr i’r gwaith ymgysylltu. Mynegwyd pryderon gan ambell awdurdod lleol yng Nghymru ynghylch y sylfaen dystiolaeth a’r effaith y byddai’r cynigion yn ei chael ar awdurdodau lleol a busnesau unigol. Mae’r tîm prosiect, sy’n cynnwys yr ASB yng Nghymru, Gogledd Iwerddon ac RCD, wedi cydnabod y pryderon hyn. Byddwn yn cysylltu â chydweithwyr yn RCD i gynllunio’r camau nesaf.

4.5  Cynhadledd CTSI – thema’r gynhadledd eleni oedd ‘gweithio mewn partneriaeth’. Agorwyd y gynhadledd gan drafodaeth panel i “gwrdd â’r rheoleiddwyr” ac roedd Katie Pettifer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol yr ASB, yn rhan o’r panel. Roedd y digwyddiad yn gyfle da i rwydweithio ag awdurdodau lleol, CLlLC a rheoleiddwyr cenedlaethol eraill sy’n wynebu heriau tebyg. Gwnaethom noddi a chyflwyno dwy wobr yn cydnabod y myfyrwyr a gafodd y sgôr uchaf mewn arholiadau yn ymwneud â bwyd.

4.6  Awdurdodiadau Cobalt – cafodd cais i awdurdodi pedwar ychwanegyn cobalt ar frys yng Nghymru, yr Alban a Lloegr ei awdurdodi gan Weinidogion. Bydd y dyddiad dod i rym, sef 15 Gorffennaf, wedi’i gysoni ar draws Prydain Fawr. Bydd hyn yn cynnal cyflenwad i’r farchnad ar gyfer yr elfennau hybrin hyn, sy’n hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid. Dyma benllanw cydweithio dwys, cyflym a rhagorol ar draws timau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban, ac mae tîm Cymru wedi chwarae rhan sylweddol yn hyn o beth.

4.7  Symud swyddfa – mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n ddyfal yn y cefndir yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer symud i adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays ym mis Awst. Mae hyn wedi cynnwys cytuno a gweithredu dyluniadau’r swyddfa newydd, gwneud y trefniadau diogelwch, a chynllunio’r broses drosglwyddo. 21 Awst fydd ein diwrnod cyntaf yn y swyddfa newydd.

4.8  Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) – cafodd Deddf REUL Gydsyniad Brenhinol ar 29 Mehefin 2023. Mae gan yr ASB wyth darn o REUL ar atodlen ddirymu’r Bil, ac mae dau ohonynt yn gymwys o ran Cymru. Disgwylir i bob darn o REUL nad yw ar yr atodlen ddirymu gael ei gymathu i gyfraith y DU ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd y rhaglen REUL nawr yn canolbwyntio ar ddiwygio cam dau. 

4.9  Ymgyrchoedd cyfathrebu – dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae tîm cyfathrebu Cymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB ar yr ymgyrchoedd a’r ceisiadau canlynol gan y cyfryngau:

  • Y Byd ar Bedwar – cefais gyfweliad ag ITV yn ddiweddar ar gyfer y rhaglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar, a ddarlledir ar S4C. Roedd y rhaglen ei hun yn canolbwyntio ar archfarchnad fach yn Sir Benfro, a oedd â sgôr hylendid bwyd o 1 ac a oedd yn destun honiadau ei bod yn gwerthu cig a oedd wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio erbyn. Gwnaethom esbonio i’r cynhyrchydd mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) ac ymchwilio i’r honiadau a wneir yn y rhaglen. Fe gyflwynais i linellau’r ASB ar y cynllun sgorio, y gwahaniaeth rhwng dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’, y risgiau posib i iechyd yn sgil bwyta cig ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ a’r hyn y dylai’r cyhoedd ei wneud os byddant yn gweld cig o’r fath mewn siop neu yn eu cartref.
  • Yma i Helpu (Mai 2023) – datblygwyd yr ymgyrch hon i helpu busnesau bwyd i wneud y peth iawn er budd defnyddwyr. Fel rhan o’r gweithgarwch hwn, gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar-lein i fusnesau, gan roi’r cyfan mewn hyb ar-lein hygyrch. Gwnaethom lunio a rhannu cyfres o astudiaethau achos yn cynnwys dau fusnes o Gymru, sef Swig Smoothies a Llaeth Llanfair. Gan gydweithio ag awdurdodau lleol, gwnaethom hyrwyddo rôl Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd trwy lunio astudiaeth achos a rhannu’r ymgyrch hon a hyrwyddo gwaith awdurdodau lleol ar draws llwyfannau cymdeithasol. Roedd yr ymgyrch yn targedu busnesau bwyd bach a micro. Y nod oedd ei gwneud yn glir bod ein cyngor ni, a’r cymorth sydd ar gael gan awdurdodau lleol, yno i helpu busnesau i osgoi arferion anniogel neu ddigwyddiadau bwyd, yn hytrach na chreu baich diangen ar eu hadnoddau. 
  • Ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol: y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) – nod yr ymgyrch hon, a gynhaliwyd rhwng 22 Mai a 4 Mehefin, oedd codi ymwybyddiaeth defnyddwyr a chynyddu lefelau defnydd o’r CSHB mewn mannau lle na fyddai defnyddwyr fel arfer yn disgwyl gweld sgôr. Mae’r mannau hyn yn cynnwys sinemâu, siopau coffi dros dro, marchnadoedd, gwyliau a gwerthwyr bwyd ar-lein trwy Facebook neu Instagram. 
  • Ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol: Diogelwch a Hylendid Bwyd yn ystod yr Haf – mae’r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst, gan ganolbwyntio ar negeseuon diogelwch bwyd pan fo’r tywydd yn gynnes ac wrth goginio bwyd ar y barbeciw. Gwnaethom deilwra negeseuon i drafod picnics a choginio ar farbeciw, gan roi cyngor i ddefnyddwyr ar yr hanfodion diogelwch bwyd (glanhau, coginio, atal croeshalogi ac oeri). Ein nod yw gwella dealltwriaeth y cyhoedd o arferion bwyd diogel a chyfeirio pobl at ein tudalennau gwe, gan ddefnyddio negeseuon wedi’u hyrwyddo ar ein cyfryngau cymdeithasol sy’n targedu’r cyhoedd yng Nghymru. 

5. Ymgyngoriadau

5.1  Ymgyngoriadau cyfredol

6. Edrych tua’r dyfodol: 

6.1  Ymgyrchoedd cyfathrebu sydd ar y gorwel:

  • 10 mlynedd ers sefydlu’r CSHB – eleni, rydym yn dathlu deng mlynedd ers sefydlu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol yng Nghymru. Felly, rydym yn cynllunio ymgyrch gyfathrebu ar y cyd â Llywodraeth Cymru i hyrwyddo effaith gadarnhaol y cynllun hwn ar ddewis defnyddwyr ac ar wella safonau hylendid o fewn busnesau. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at y rôl allweddol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth roi’r cynllun hwn ar waith, a byddwn yn gwahodd awdurdodau lleol i fod yn rhan o’r grŵp prosiect i helpu i lywio’r gwaith hwn. Rydym hefyd yn gobeithio cynnal digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid ac Aelodau o’r Senedd ym mis Tachwedd yn y Senedd, i ddathlu’r garreg filltir nodedig hon. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am y cynlluniau wrth gwrs.